Rydym yn rhan o Gynllun Llysgenhadon Cymru
Cyrsiau ar-lein am ddim i ddysgu am nodweddion...
Wedi 5 mlynedd o waith i’w gwblhau, mae’r llwybr newydd ei agor yn caniatáu mynediad i ran hyfryd o arfordir Cymru nad oedd yn agored i’r cyhoedd tan nawr.
Arferai’r llwybr wyro mewn i’r tir o amgylch Stad y Penrhyn ac i mewn i Dal y Bont ac o amgylch pentref Llandygai. Mae’r llwybr newydd yn cysylltu Gwarchodfa Natur Aberogwen gyda’r llwybr presennol ym Mhorth Penrhyn.Gan fod y llwybr yn agos at Ddinas Bangor bydd yn adnodd gwerthfawr i'r gymuned. Mae’r ail-luniad newydd yn nes at yr arfordir ar ymyl Stâd y Penrhyn a dyma’r prosiect ail-alinio mwyaf arwyddocaol ers agor Llwybr Arfordir Cymru yn 2012.
Ar y rhan newydd hon fe welwch olygfeydd o Afon Menai, y dŵr sy’n gwahanu Môn oddi wrth dir mawr Cymru, golygfeydd prin o Ynys Môn, a dociau Porth Penrhyn, sydd oll yn cynnig profiad mwy arfordirol.
Mae’r llwybr wedi’i ddatblygu mewn ffordd sensitif i sicrhau y caiff cynefin rhynglanwol unigryw’r Fenai ei warchod. Mae gwaith wedi ei wneud i gyfyngu ar unrhyw effeithiau negyddol, gan gynnwys sgrinio’r llwybr oddi wrth yr adar sy’n clwydo ar y traeth, a chodi blychau ystlumod ac adar i liniaru’r effaith o greu’r llwybr newydd drwy goetir lled-hynafol.
Nid yw’r llwybr newydd hwn yn effeithio ar y nifer o filltiroedd y byddwch yn eu cerdded gyda’i gilydd. Byddwch yn cerdded ar ymyl Ystâd y Penrhyn lle gwelwch Gastell Penrhyn yn y pellter.
Sylwch na fydd modd i chi fynd at y castell o’r llwybr. Am ei fod yn atyniad (Ymddiriedolaeth Genedlaethol) sy’n codi tâl mynediad, bydd angen i chi gerdded at y fynedfa swyddogol i dalu a mynd i mewn o’r fan honno.
Agorwyd y llwybr i’r cyhoedd ar 31 mis Gorffennaf 2023. Tra byddwn yn diweddaru ein map rhyngweithiol ar-lein, mae yna arwyddion Llwybr Arfordir Cymru ar y llwybr newydd i’ch tywys neu gallwch ei weld ar Google Street View