Defnyddiwch ein hadnoddau i fanteisio’n llawn ar eich ymweliad â’r llwybr

Rydym yn falch o gefnogi ‘Blwyddyn Llwybrau’ Croeso Cymru yn 2023, ymgyrch genedlaethol sy’n dangos cymaint sydd gan Gymru i’w gynnig gan ddefnyddio llwybrau fel man cychwyn sy’n arwain at gyfleoedd a phrofiadau cyffrous. 

Mae’n berthynas naturiol i ni – 870 milltir /  1,400km o arfordir amrywiol i’w archwilio, ei ddarganfod a’i fwynhau. Dyma sut gallwch chi ddechrau ar eich taith arloesol.

Teithiau cerdded byr hamddenol neu rai hir heriol – chi sy’n dewis

Ceir mwy na 80 o deithiau cerdded posibl, gan gynnwys syniadau ar gyfer cerdded sawl diwrnod. Mae’r dewis yn ddi-ben-draw.

Mae pob un o’n teithiau wedi eu trefnu’n arbennig fel eu bod yn cychwyn ac yn gorffen mewn lleoedd lle mae’n bosibl bwyta, yfed ac aros, a phan fo hynny’n bosibl, llefydd lle ceir trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’r rhan fwyaf o’n teithiau cerdded rhwng 3-6 milltir gyda chyfuniad o deithiau ‘nôl a mlaen’ neu deithiau cylchol - y gellir eu cerdded mewn hanner diwrnod - gan ddibynnu ar y tir, y tywydd a’ch lefel ffitrwydd. Yr eithriad yw ein teithiau cerdded aml-ddiwrnod, sydd rhwng 6 a 12 milltir y dydd.

Dyma ragflas o’n teithiau

Teithiau cerdded hygyrch: porwch drwy ein rhestr o rannau o lwybrau sy’n addas i’w harchwilio ar olwynion – o gadeiriau gwthio i gadeiriau olwyn.
Delfrydol ar gyfer: grwpiau cerdded pob oedran.

Teithiau cerdded i deuluoedd – mae’r teithiau hyn sydd rhwng 2-4 milltir, wedi eu cynllunio ar gyfer plant iau gyda digon o bethau i’w cadw’n brysur ar y ffordd.
Delfrydol ar gyfer: treulio amser ‘di-sgrîn’ gyda’r plantos.

Teithiau i’ch syfrdanu – mae’r llwybr yn llawn golygfeydd cyferbyniol a rhyfeddol ac nid yw’r teithiau hyn yn eithriad o gwbl – byddant yn gwneud i chi floeddio “Waw!” – gofalwch fod eich camera wrth law.
Delfrydol ar gyfer: cyfleoedd gwych i dynnu lluniau

Teithiau cerdded cestyll – mae mwy na 600 o gestyll yng Nghymru, sy’n fwy y filltir sgwâr nag unrhyw le arall yn y byd. A cheir rhai o’r campweithiau pensaernïol gorau ar y llwybr. Mae gennym 20 o deithiau cerdded sy’n cyfuno taith gerdded hamddenol ar yr arfordir â chastell.
Delfrydol ar gyfer: cyfuno awyr iach yr heli a dysgu mwy am hanes unigryw Cymru.

Teithiau cerdded aml-ddiwrnod – gyda gwerth tridiau o deithiau cerdded ar gyfer pob rhan o’r llwybr, dyma fanylion y pethau fyddwch yn eu gweld bob dydd, manylion trafnidiaeth gyhoeddus ac atyniadau ychwanegol ar gyfer eich arhosiad.
Delfrydol ar gyfer: pobl sy’n mwynhau bod yn yr awyr agored yn chwilio am olygfeydd gwych a phrofiadau ar y llwybr.

Dewch o hyd i fwy o deithiau ar ein gwefan

Gwybod cyn gadael

Cynlluniwch ymlaen llaw gan ddefnyddio’n hadnoddau defnyddiol:

  • Plotiwch eich llwybr – darganfyddwch ble mae’r llwybr yn eich ardal chi a mesurwch y pellter cyn cychwyn allan gan ddefnyddio ein map rhyngweithiol o’r llwybr
  • Gwiriwch y pellter – defnywwch ein tablau pellter i ddarganfod man cychwyn a gorffen posibl ar gyfer eich taith (mewn milltiroedd a chilometrau) - defnyddiol wrth helpu i ganfod llefydd i fwyta ac yfed yn ystod teithiau byr neu i benderfynu lle i aros dros nos n ystod taith hirach.
  • Mwynhewch yn gyfrifol – darllenwch y Cod Cefn Gwlad - mae’n rhoi cyngor ardderchog am fwynhau parciau a dyfrffyrdd, yr arfordir a’r cefn gwlad, yn ddiogel ac mewn ffordd gyfrifol.
  • Darllenwch ein tudalen Cynllunio’ch ymweliad i gael rhagor o wybodaeth am ble i brynu’r llawlyfrau swyddogol, gwyriadau dros dro ar y llwybr a pha fapiau sy’n dangos llinell Llwybr Arfordir Cymru.

Awgrymiadau Gorau i’ch helpu ar y ffordd

Rydym yn gobeithio eich bod wedi cael eich ysbrydoli i gychwyn eich taith ar Lwybr Arfordir Cymru gyda ni – bydd croeso cynnes Cymreig yn disgwyl amdanoch.