Cydweli

Archwiliwch orffennol diwydiannol y dref gyda golygfeydd ysbeidiol o gastell trawiadol Cydweli

Paddy Dillon

Nodwch y dudalen hon
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Roedd Cydweli unwaith yn ganolbwynt diwydiannol lle defnyddiwyd ffyrdd, rheilffyrdd, camlas a chei i gludo glo a deunyddiau eraill allan o'r ardal. Mae’r daith gerdded hon yn edrych ar Gamlas Kymer, hen reilffordd, nodweddion treftadaeth o amgylch Cydweli, ac wrth gwrs adeiledd hynod Castell Cydweli.

Manylion y llwybr

Pellter: 3.9 milltir neu 6.3 cilomedr
Man cychwyn: Cyffordd Stryd y Bont a Heol yr Orsaf yng Nghydweli
Cyfeirnod grid y man cychwyn: SN 40742 06735
Disgrifiad what3words y man cychwyn: llwythaf.enillydd.clogynnau

Trafnidiaeth i'r man cychwyn

Parcio
Parcio yng Nghydweli, ar Heol yr Orsaf neu yng Nglan-yr-afon.

Bysiau
Mae gwasanaethau bws dyddiol, ac eithrio dydd Sul, yn cysylltu Cydweli â Chaerfyrddin, Llanelli ac Abertawe.

Trenau
Gwasanaethau trên dyddiol i Gydweli o Gaerdydd ac Abertawe ar Brif Reilffordd De Cymru, yn ogystal â gwasanaethau o Gaerfyrddin ar Reilffordd Gorllewin Cymru.

Map a dolen GPX

Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX 'Kidwelly' (Cydweli)

Disgrifiad Manwl o’r Llwybr

1. Cychwynnwch yng nghanol Cydweli ar gyffordd Stryd y Bont a Heol yr Orsaf, yn agos at safleoedd bysiau. Os ydych chi'n cyrraedd mewn car, mae maes parcio bach oddi ar Heol yr Orsaf, fel arall defnyddiwch y maes parcio yng Nglan-yr-afon a cherddwch i lawr Stryd y Bont i gyrraedd Heol yr Orsaf. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn y ffordd, ond yn fuan yn troi i’r dde ar hyd ffordd arall o’r enw Hillfield Villas. Dilynwch hon heibio ysgol, gorsaf dân, Canolfan Gwenllian a Gwesty Anthony i gyrraedd Gorsaf Drenau Cydweli, y gellir ei defnyddio hefyd fel man cychwyn.

2. Cerddwch ar draws y groesfan reilffordd a pharhau ar hyd Heol y Cei. Trowch i'r dde ar gyffordd ffyrdd fel y nodir ar arwyddbost am Lwybr Arfordir Cymru, gan fynd heibio i waith carthion i gyrraedd maes parcio bach a hysbysfwrdd mawr â gwybodaeth leol. Adeiladwyd Cei Cydweli o gerrig yma ym 1768 gan Thomas Kymer, ynghyd ag un o'r camlesi diwydiannol cynharaf a ganiataodd i lo gael ei gludo i'r arfordir o byllau glo cyfagos. Mae taith gerdded gylchol fer ar gael sy’n cynnig golygfeydd dros y morfeydd heli a’r sianeli llanw cyfagos, ond fel arall dilynwch Gamlas Kymer yn syth i mewn i’r tir fel y nodir ar arwyddbost ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru.

3. Trowch i'r chwith i groesi pont garreg ac yna trowch i'r dde i barhau i ddilyn y gamlas. Ewch heibio pont droed, neu efallai croeswch drosti i weld y morfeydd heli helaeth tu hwnt, gan arwain y llygad at goedwig ym Mhen-bre, yna croeswch yn ôl i barhau ar hyd y gamlas. Ewch heibio pont droed arall, neu camwch arni i gael golwg dda ar yr hen gamlas oddi uchod, gan fod llystyfiant trwchus ar hyd y glannau ac mae’n anodd gweld y dŵr. Mae'r llwybr yn troi i'r dde yn sydyn i fynd trwy giât fach lle mae rheilffordd yn torri trwy'r gamlas. Dilynwch y llwybr wrth ymyl cae a dringwch ychydig i fynd drwy giât mochyn. Trowch i'r chwith i groesi pont dros y rheilffordd a cherdded heibio Fferm Caernewydd i gyrraedd ffordd.

4. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn troi i’r dde ar hyd y ffordd, ond yn lle hynny trowch i’r chwith, fel petaech yn dilyn y ffordd yn ôl i Gydweli. Mae'r ffordd yn croesi'r hen gamlas a hen reilffordd, fel yr eglurir gan hysbysiad ar ymyl y ffordd. Trowch i'r dde cyn cyrraedd cysgodfan fysiau, fel pe baech yn dilyn isffordd, ond cerddwch i fyny llwybr i'r chwith ohoni. Mae hyn yn datgelu trywydd hen reilffordd, sydd bellach ar gael fel llwybr troed. I raddau helaeth, mae llwyni a choed o bob tu iddo, gan ffurfio coridor bywyd gwyllt heibio i faestrefi Cydweli. Ewch o dan fwa carreg sy'n cario Heol Rhydymynach dros yr hen reilffordd. Nes ymlaen, ewch heibio i giât a pharhewch i gerdded yn syth ymlaen ar hyd ffordd bridd, Lôn Stockwell, sy'n dilyn trywydd yr hen reilffordd. Ewch drwy giât i gyrraedd ffordd brysur yr A484, gan wynebu Fferm Waungadog. Peidiwch â chroesi'r ffordd, ond trowch i'r chwith heibio bolardiau concrit i gerdded i lawr hen ffordd darmac ddi-draffig.

5. Rhed y ffordd yn raddol i lawr ac wedyn yn raddol i fyny, gan gyrraedd maestref Tref Gwendraeth. Trowch i'r chwith i ddilyn Stryd y Prior yn ôl i Gydweli. Cewch gip neu ddau o Gastell Cydweli i’r dde, a welir cyn ac ar ôl pasio ysgol. Cyrhaeddir cylchfan fechan ar ddiwedd Stryd y Prior ac mae hysbysfwrdd yn dangos lluniau o sut olwg oedd ar hen dai cyfagos ychydig ddegawdau yn ôl. Ewch heibio tafarn y Plough & Harrow i ddilyn stryd unffordd Heol Fair ymlaen, gan fynd heibio i flwch postio Fictoraidd hefyd. Ewch heibio i Eglwys y Santes Fair, a elwir hefyd yn Eglwys y Priordy. Sefydlwyd eglwys ym 1114 ond fe'i llosgwyd yn ulw dros ganrif yn ddiweddarach. Adeiladwyd priordy Benedictaidd ar y safle tua 1320. Mae'r adeilad yn fawr ar gyfer eglwys blwyf ac mae ganddo feindwr broch diddorol, lle mae'r gwaelod sgwâr yn newid i siâp wythonglog wrth fynd i fyny.

6. Cerddwch drwy'r fynwent i gyrraedd cyffordd Stryd y Bont a Heol yr Orsaf, neu fel arall cerddwch i ddiwedd y ffordd a throwch i'r dde i gyrraedd y gyffordd. Gallai’r daith gerdded orffen yma, ond mae’n werth ymweld â Chastell Cydweli, gan gerdded yn gyntaf ar hyd Stryd y Bont a chroesi’r bont dros afon lanw, y Gwendraeth Fach. Trowch i'r dde ar hyd llwybr tarmac ar lan yr afon fel y nodir ar arwyddbost am y castell. Ewch heibio adeilad ‘Welsh Antiques’, ewch drwy giât mochyn a dilynwch lwybr tarmac cul ymlaen. Croeswch bont droed islaw muriau mawreddog Castell Cydweli ac ewch ymlaen ar hyd llwybr cul heb arwyneb ar lan yr afon.

7. Dilynwch y llwybr i fyny llethr coediog, ewch drwy giât mochyn, a throwch i'r chwith ar hyd ffordd dawel. Ar ddiwedd y ffordd, cadwch i'r chwith i ddilyn llwybr trwy fwa isel mewn wal gerrig drwchus. Trowch i'r chwith ar hyd Heol y Castell, gan gyrraedd y fynedfa i Gastell Cydweli. Wedi'i adeiladu'n gynnar yn y ddeuddegfed ganrif gan y Normaniaid, newidiodd y castell ddwylo ychydig o weithiau, ond yn ei ffurf derfynol, fel ‘castell o fewn castell’, roedd bron yn anorchfygol.

8. Cerddwch i lawr Stryd y Castell, gan fynd trwy borthdy aruthrol, lle saif bar coffi'r Gatehouse a llochesau bysiau y tu allan i'r waliau. Trowch i'r chwith i lawr i'r dref ar hyd Stryd y Bont. Os gwnaethoch barcio ym maes parcio Glan-yr-afon, trowch i'r dde i ddychwelyd ato. Hyd yn oed os na wnaethoch chi barcio yno, mae'n werth mynd i mewn i'r maes parcio i weld adfeilion yr Hen Ladd-dy. Sylwer hefyd ar Eglwys Fethodistaidd Saesneg Trinity, a godwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan Jacob Chivers, gan nad oedd yn gallu addoli yn Gymraeg. Roedd yn berchen ar waith tunplat a daeth â chyflenwad dŵr i'r dref. Croeswch y bont i ddychwelyd i’r safleoedd bysiau ger cyffordd Stryd y Bont a Heol yr Orsaf, neu trowch i’r dde os cyrhaeddoch ar y trên ac yn dymuno dychwelyd i Orsaf Drenau Cydweli.