Lacharn a Delacorse

Dilynwch yn ôl traed y bardd enwog Dylan Thomas

Paddy Dillon

Nodwch y dudalen hon
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Ar ôl archwilio nodweddion o ddiddordeb o amgylch Lacharn, mae’r daith hon yn mynd i gefn gwlad ac yn mynd heibio i fedd Dylan Thomas. Rydym yn ymuno â Llwybr Arfordir Cymru a'i ddilyn i Delacorse, yna mae'n arwain trwy gaeau a choetir. Mae lleoedd sy’n gysylltiedig â Dylan Thomas i’w gweld ar y ffordd yn ôl i Lacharn. Fel y dywedodd yntau, roedd yn un o’r ymwelwyr a wirionodd ar y lle, gan fynd oddi ar y bws ac anghofio mynd yn ôl arno.

Manylion y llwybr

Pellter: 2.9 milltir neu 4.7 cilmedr
Man cychwyn: Y Mâl, Lacharn
Cyfeirnod grid y man cychwyn: SN 30116 10690
Disgrifiad what3words y man cychwyn: trannoeth.uchel.pyllau

Trafnidiaeth i'r man cychwyn

Parcio
Parcio yn y Mâl yn Lacharn, ond sylwch y gall y maes parcio orlifo pan fydd y llanw’n eithriadol o uchel.

Bysiau
Mae gwasanaethau bws dyddiol, ac eithrio dydd Sul, yn cysylltu Lacharn â Phentywyn, Sanclêr a Chaerfyrddin.

Trenau
Dim.

Map a dolen GPX

Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX 'Laugharne Delacorse' (Lacharn a Delacorse)

Disgrifiad Manwl o’r Llwybr

1. Cychwynnwch yn Lacharn, ym maes parcio Green Banks neu'r safleoedd bysiau cyfagos yn y Mâl. Arferai Lacharn fod â harbwr ond dim ond afon lanw gul sydd bellach yn llifo yno. Cofiwch y gall yr ardal gyfan hon orlifo pan fydd y llanw’n eithriadol o uchel. Dilynwch y ffordd i mewn i'r tir ac i fyny'r bryn i fynd heibio Island House a'r fynedfa i Gastell Lacharn. Gwelodd y castell o’r drydedd ganrif ar ddeg ddigon o wrthdaro ac roedd yn adfeilion cyn i Syr John Perrot ei adfer yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Er ei fod yn un o ffefrynnau'r Frenhines Elisabeth I a bod ganddo ddylanwad mawr yng Nghymru ac Iwerddon, gwnaeth elynion yn hawdd hefyd, a dyna berodd ei gwymp. Roedd Dylan Thomas yn arfer treulio amser yn ysgrifennu mewn lloches ar dir y castell a bu’n byw am gyfnod byr yn Nhŷ'r Castell gerllaw.

2. Yr adeilad gwyn gerllaw gyda thŵr cloc yw Neuadd y Dref. Darllenwch hysbysfyrddau sy’n cynnig gwybodaeth am Lacharn a thrigolion nodedig, fel Madam Bevan a Griffith Jones. Roeddent yn ymwneud â'r Gymdeithas er Hyrwyddo Gwybodaeth Gristnogol a'r ysgolion elusennol cylchynol. Cerddwch ar hyd heol wastad Stryd y Farchnad tuag at Brown’s Hotel, a fynychwyd gan Dylan Thomas. Trowch i'r dde ychydig cyn y gwesty, yn dilyn arwyddbost am Gyrchfan Arfordirol Dylan. Mae'r ffordd yn troi i'r chwith, yn mynd heibio i fynwent, ac yn cyrraedd y fynedfa i'r gyrchfan wyliau. Cadwch i'r chwith o'r fynedfa i ddilyn llwybr caeedig, suddedig sydd ag arwydd ar gyfer bedd Dylan Thomas. Cerddwch i fyny'r llwybr a chadwch i'r chwith ar gyffordd, yna dilynwch y llwybr i lawr y bryn. Mae'n lledu i fod yn drac, gan fynd heibio i dŷ. Mae giât ar ochr chwith y trac yn rhoi mynediad i fynwent, lle mae bedd Dylan Thomas wedi'i nodi gan groes bren wen syml.

3. Daw'r trac i ben yn sydyn gyda gostyngiad serth ac mae’n ymuno â ffordd gul. Trowch i'r dde a dringwch yn serth i fyny'r ffordd, gan droi i'r chwith i fynd uwchben mynwent goediog iawn Eglwys Sant Martin. Dilynwch y ffordd i fyny'r bryn heibio'r caeau a throwch i'r chwith ar gyffordd ac yn fuan wedyn cyrhaeddwch gyffordd arall. Trowch i'r dde i gerdded i fyny'r bryn ychydig ac yna cadwch i'r dde wrth gyffordd i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru. Cerddwch i lawr ffordd fynediad fferm suddedig i Delacorse. Roedd ceirt ceffyl yn cario cerrig o chwareli yn mynd ar hyd y ffordd hon ac yn croesi aber llanw afon Taf. Cadwch i’r dde o’r adeiladau ac ewch drwy giât mochyn i mewn i gae.

4. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg trwy gae ac yn croesi pont droed i fynd i mewn i gae arall. Parhewch ymlaen drwy ardal goediog, cerddwch ar hyd gwaelod llethr glaswelltog, ac ewch drwy giât mochyn i mewn i fwy o goetir. Mae'r llwybr yn croesi ffordd gul ac yna'n codi ac yn disgyn yn raddol ar draws llethr serth. (Sylwer bod y llwybr hwn ar gau oherwydd tirlithriad ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn.) Rydym yn ymuno â llwybr tarmac a’i ddilyn ychydig ffordd tuag at y Boathouse, sef y tŷ olaf lle bu Dylan Thomas yn byw yn Lacharn cyn ei farwolaeth ym 1953. Mae'n agored i ymwelwyr ac mae 40 gris yn arwain i lawr ato a'i gaffi.

5. Wrth aros ar y llwybr tarmac a phasio uwchben y Boathouse, byddwch yn mynd heibio i sied ysgrifennu Dylan Thomas, lle mae golygfeydd gwych ar draws aber afon Taf. Parhewch ar hyd y llwybr wrth iddo fynd yn ehangach, gan ddychwelyd at y fynedfa i Gyrchfan Arfordirol Dylan. Cadwch i'r chwith a cherddwch i lawr ffordd a ddefnyddiwyd yn gynharach yn y dydd, gan fynd heibio i fynwent. Trowch i'r chwith i lawr ffordd arall, gan fynd heibio Seaview, a oedd yn gartref i Dylan Thomas rhwng 1938 a 1940. Mae'n cynnig llety ond nid yw'n agored i'r cyhoedd. Trowch i'r chwith eto i lawr ffordd sy'n troi’n llwybr cul yn gyflym iawn. Parhewch ar hyd llwybr ar draws morfa heli wrth droed waliau cerrig cadarn Castell Lacharn, i groesi pont droed fechan â bwa carreg a gorffen yn ôl yn y maes parcio. Gall y llwybr olaf hwn orlifo pan fydd y llanw’n eithriadol o uchel, ac os felly gorffennwch trwy fynd yn ôl ar hyd y ffyrdd uwch yn y dref a ddilynasoch ar ddechrau’r daith.