Prestatyn a Choed y Morfa

Ardal werdd a choetir yn swatio o fewn tref wasgaredig Prestatyn

Paddy Dillon

Nodwch y dudalen hon
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Mae Coed y Morfa yn fan gwyrdd hyfryd gyda choetir ac mae wedi'i amgylchynu'n llwyr gan ardal drefol Prestatyn. Mae llwybr cerdded drwy’r parc yn cysylltu â llwybr beicio sydd wedyn yn cysylltu â Llwybr Arfordir Cymru a phen uchaf Llwybr Clawdd Offa cyn dychwelyd i Brestatyn.

Manylion y llwybr

Pellter: 3.6 milltir / 5.6km
Man cychwyn: Gorsaf Drenau Prestatyn
Cyfeirnod grid: SJ 06417 83079
Pa 3 Gair: ychydig.adolygaf.bricyll

Cludiant i'r man cychwyn

Parcio
Maes parcio yng ngorsaf reilffordd Prestatyn, Parc Prestatyn, Canolfan Nova, Traeth Canol a mannau eraill o gwmpas y dref.

Bws
Mae gwasanaethau bysiau dyddiol yn cysylltu Prestatyn â phob pwynt ar hyd yr arfordir rhwng y Fflint a Llandudno.

Trên
Mae gwasanaethau trên dyddiol arfordir y Gogledd yn cysylltu Prestatyn â gorsafoedd arfordirol rhwng Caer a Chaergybi.

Map a dolen GPX

Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Mae’r darn o fap OS 1:25,000 yn dangos y llwybr sy'n cychwyn a gorffen ym Mhrestatyn, gyda’r dewis yng Nghoed y Morfa un ai i ddilyn Gwter Prestatyn, neu’r llwybr byr drwy’r coetir, gan arbed 250m o waith cerdded.

Darperir dau lwybr GPX: Mae 'Coed y Morfa 1' yn mynd o amgylch Coetir Cymunedol Coed y Morfa tra bod 'Coed y Morfa 2' yn torri llwybrau byr drwy'r coetir, gan arbed 250m o gerdded.

Disgrifiad Manwl o’r Llwybr

1. Dechreuwch yng ngorsaf drenau Prestatyn, lle cewch olygfeydd da o'r bont droed uwchben y platfformau. Ewch i ganol y dref, ond trowch i'r dde wrth gylchfan fach gan fynd ar hyd Ffordd y Bont. Ewch yn syth trwy groesffordd gyda goleuadau traffig, gan ddefnyddio’r groesfan i gerddwyr. Ewch heibio'r orsaf fysiau fechan a cherdded ar hyd Gas Works Lane, sy'n troi'n ffordd goncrit gul. Daliwch ati'n syth ymlaen ar hyd y llwybr beicio tarmac, gan osgoi troi i'r chwith, a phasio drysfa o daglys a mieri. Er bod yr ardal wyllt hon yn edrych yn eang, mae wedi'i chyfyngu'n llwyr o fewn Prestatyn.

2. Pasiwch rwystr ar ddiwedd ffordd gan gadw i'r dde o gaeau chwaraeon Ysgol Penmorfa sydd wedi'u ffensio. Mae'r llwybr tarmac yn mynd heibio i lwyfan gwylio sy'n edrych dros bwll yng Ngwlypdir Prestatyn. Mae gwartheg Belted Galloway yn pori yma yn yr haf i reoli llystyfiant. Dilynwch y llwybr ymlaen i gyrraedd Maes Chwarae'r Morfa. Mae plac yn nodi bod y llecyn hwn wedi ei ddatblygu gan y Clwb Rotari ym 1972 a'i fabwysiadu gan Gyngor Dosbarth Trefol Prestatyn ym 1973.

3. Trowch i'r dde ar hyd llwybr graean a phasio'r cae chwarae, a mynd heibio llwyfan gwylio arall ar gyfer Gwlypdir Prestatyn. Ar ôl cyrraedd cyffordd llwybr trionglog, mae dewis o ddau lwybr ar gael, un yn cynnwys taith gerdded ar lan y dŵr a'r llall yn mynd trwy goetir cymunedol. Pa bynnag opsiwn fyddwch chi’n ddewis, cofiwch ddarllen yr hysbysiadau ar hyd y llwybrau, sy'n esbonio bywyd gwyllt toreithiog yr ardal.

4. (1) Ar gyfer y daith gerdded ar lan y dŵr, cadwch yn syth ymlaen nes cyrraedd Gwter Prestatyn sy'n debyg i gamlas. Trowch i'r chwith i gerdded wrth ei hochr, ac ewch i'r chwith yn nes ymlaen lle mae'r llwybr yn mynd heibio pont droed. Mae'r llwybr yn arwain at ffordd. (2) Ar gyfer y daith goetir, sy'n arbed tua 200m, trowch i'r chwith wrth y gyffordd drionglog a dilynwch y llwybr mwyaf amlwg, sy'n pantio'n ysgafn, gan osgoi llwybrau llai i'r chwith a'r dde. Ar ôl cyrraedd Gwter Prestatyn sy'n debyg i gamlas, trowch i'r chwith i ddilyn llwybr tuag at ffordd. Torrwyd Gwter Prestatyn i ddraenio corstir helaeth ac mae'n helpu i atal llifogydd yn iseldir Prestatyn.

5. Trowch i'r dde ar hyd y ffordd, sef Winchester Drive, ac i'r dde eto ar hyd lôn brysurach Ffordd Penrhwylfa, sy’n llwybr beicio i'r Rhyl. Llwybr ar y cyd yw'r llwybr beicio eang hwn, felly cadwch i'r dde a gadewch yr ochr chwith yn wag i feicwyr. Yn ddiweddarach, gallwch ddilyn palmant ymhellach i'r dde yn lle'r llwybr beic, yna mae'r ffordd yn codi fymryn dros bont reilffordd ac i lawr yr ochr arall, lle mae ei henw yn newid i Ceg y Ffordd. Byddwch yn cyrraedd cyffordd â ffordd brysur Victoria Road ger tafarn y Ffrith, felly defnyddiwch y groesfan i gerddwyr i gyrraedd wal gerrig hanner cylch sy'n cynnwys dau borth.

6. Ewch drwy'r porth ar y dde, sydd wedi'i arwyddo fel llwybr beicio, a mynd i mewn i Barc Ffrith, neu'r Ffrith. Datblygwyd hwn fel parc ym 1933, gyda gerddi pleser yn cael eu gwarchod rhag y môr gan stribed o dwyni tywod. Caeodd y gerddi ym 1990 ond mae rhai mannau agored wedi goroesi. Yn syml, dilynwch y llwybr beicio tarmac eang yn ôl a blaen i'r chwith a'r dde, gan fynd trwy fwlch yn y twyni tywod maes o law i gyrraedd amddiffynfeydd concrit.

7. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg ar hyd yr amddiffynfeydd, gan gysylltu Prestatyn a'r Rhyl. Gallwch weld tre'r Rhyl i'r chwith, ond mae ein llwybr yn troi i'r dde i ddychwelyd i Brestatyn. Mewn gwirionedd ceir dewis o dair lefel, gyda'r un isaf yn fwyaf tebygol o gael ei gorchuddio pan fydd y llanw'n uchel. Y lefel ganol yw'r lefel fwyaf llydan, a'r lefel uchaf, ger y twyni tywod, sydd debygol o fod fwyaf tawel. Cerddwch nes cyrraedd adeiladau Canolfan Nova, yna trowch tua'r mewndir a sylwi ar gerflun dur talog. Cerflun 'Dechrau Diwedd' yw hwn, gan ei fod yn nodi dechrau neu ddiwedd Llwybr Clawdd Offa. (Mae Llwybr Arfordir Cymru yn ymestyn 870 milltir / 1400 km o Gaer i Gas-gwent, tra bod Llwybr Clawdd Offa yn cynnig 'llwybr byr' o 177 milltir / 285km i Gas-gwent!)

8. Dilynwch Bastion Road tua'r mewndir o Ganolfan Nova. Cadwch lygad am ddisgiau dynodi Llwybr Clawdd Offa, sydd wedi'u gosod naill ai'n uchel ar byst lamp neu dan droed ar y palmant. Mae'r ffordd yn dychwelyd yn uniongyrchol i'r orsaf drenau, lle mae llun o Frenin Offa o Mersia wedi ei ysgythru ar baneli gwydr. Os ydych yn dal trên o'r orsaf, mae’n werth cadw llygad am gerflun pren 'Rhodri y Cerddwr’.