Prestatyn a Gronant

Llwybr cylchol ardderchog sy’n agos at Lwybr Clawdd Offa

Paddy Dillon

Nodwch y dudalen hon
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dilynwch lwybr Clawdd Offa i'r tir o Brestatyn i gyrraedd pentref cudd Gwaenysgor. Defnyddiwch hen gilffordd dros y bryniau a chrwydro Coed Bell ar y ffordd i lawr i bentref Gronant. Cerddwch tua'r arfordir isel a dilyn Llwybr Arfordir Cymru trwy dwyni tywod â llystyfiant i ddychwelyd i Brestatyn.

Manylion y llwybr

Pellter: 7.4 milltir / 11.8km
Man cychwyn: Gorsaf drenau Prestatyn
Cyfeirnod grid: SJ 06417 83079
Pa 3 Gair: ychydig.adolygaf.bricyll

Cludiant i'r man cychwyn

Parcio
Maes parcio yng ngorsaf reilffordd Prestatyn, Parc Prestatyn, Canolfan Nova, Traeth Canol a lleoliadau eraill o gwmpas y dref.

Bws
Mae gwasanaethau bysiau dyddiol yn cysylltu Prestatyn â phob pwynt ar hyd yr arfordir rhwng y Fflint a Llandudno. Mae bysiau hefyd yn cysylltu Traethau Gronant a Presthaven â Phrestatyn.

Trên
Mae gwasanaethau trên dyddiol arfordir y Gogledd yn cysylltu Prestatyn â gorsafoedd arfordirol rhwng Caer a Chaergybi.

Map a Dolen GPX

Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Mae'r map OS 1:25,000 yn cynnwys Coed Bell, yn hytrach na'r fersiwn blaenorol sy’n disgyn yn uniongyrchol i Gronant. Mae’r llwybr coetir yn iawn i gerddwyr, ond byddai'n elwa ar fân welliannau. Mae llwybr cainc i'r traeth ac o'r traeth ar Dwyni Gronant hefyd wedi'i gynnwys, er y gall cerddwyr ddewis eu hosgoi.

Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX Prestatyn Gronant. Mae'r proffil llwybr a gynhyrchir gan 'Plot a Route' OS yn ddefnyddiol os oes bryncyn amlwg. Yn y proffil hwn, mae'n amlwg bod rhaid dringo bryn yn gyntaf a bod cwymp ar yr ochr draw.

Disgrifiad Manwl o’r Llwybr

1. Dechreuwch yng ngorsaf drenau Prestatyn, lle mae golygfeydd da o'r bont droed uwchben y platfformau. Ewch am ganol y dref, gan basio cylchfan fechan a pharhau'n syth ymlaen ar hyd y Stryd Fawr. Mae disgiau nodi Llwybr Clawdd Offa wedi'u gosod naill ai'n uchel ar bolion lamp neu dan draed ar y palmant. Maen nhw i'w gweld o boptu'r ffordd wrth fynd heibio siopau ac i fyny heibio Eglwys Crist. Y peth gorau yw aros ar ochr chwith y ffordd wrth gyrraedd goleuadau traffig croesffordd Cross Foxes, lle mae arwydd ar gyfer Llwybr Clawdd Offa.

2. Defnyddiwch y groesfan i gerddwyr gan fynd ymlaen ar hyd Fforddlas. Does dim palmant yno bob amser, felly cerddwch ar yr ochr dde, gan wynebu’r traffig sy'n dod atoch chi. Mae'r ffordd yn dringo i gyffordd ym mhen ucha'r dref. Mae Mount Ida Road yn arwain i'r chwith, lle mae cerflun enfawr o helmed Rufeinig, ond mae ein llwybr ni yn troi i'r dde ar hyd Bishopswood Road, fel y gwelir ar arwyddbost 'mesen' y llwybr cenedlaethol. Ychydig bellter ar hyd y ffordd, trowch i'r chwith i fyny ffordd serth a chul ag arwydd Gwaenysgor. Mae'r ffordd yn troi i'r chwith yn fuan lle mae maes parcio bach mewn hen chwarel galchfaen lle ceir paneli gwybodaeth gwerth chweil.

3. Mae llwybr Clawdd Offa yn gadael y ffordd ac yn dringo sawl gris pren ar lwybr cul i fyny llethr serth a choediog. Trowch i'r dde yn y gyffordd lle mae arwyddbost solet. Daliwch ati i ddringo wrth ochr ffens hir sy’n eich gwarchod rhag ochrau'r chwarel, gan basio tŷ unig. Yn fuan wedyn, mae dwy res o risiau pren yn codi'n serth, ac yna mae'r llwybr yn parhau i ddringo i fyny mwy o risiau pren ar hyd llethr o goed a llwyni eithin. Mae'r golygfeydd yn ymestyn ar hyd yr arfordir o Brestatyn i Ben y Gogarth. Wedyn, ewch drwy'r giât mochyn a dilyn llwybr cul yn syth ar draws llethr serth. Ewch trwy giât a chyrraedd arwyddbost tair ffordd. Mae Llwybr Clawdd Offa yn parhau'n syth ymlaen, ond mae ein llwybr ni'n troi i'r chwith gan ddilyn yr arwydd i Gwaenysgor ac yn croesi camfa.

4. Mae llwybr glaswelltog yn disgyn i waelod llethr sy'n frith o lwyni eithin. Gall fod yn fwdlyd mewn tywydd gwlyb neu ar ôl traul gwartheg, ond mae'n arwain yn glir i lawr trwy giât mochyn. Wedyn, mae arwyneb y llwybr yn fwy sefydlog dan draed ac yn pasio pwmp dŵr wedi'i adfer, cyn esgyn i ymuno â’r ffordd. Dilynwch y ffordd, sef Ffordd Ffynnon, i bentref Gwaenysgor a throi i'r dde yn y gyffordd. Cadwch i'r dde naill ai i alw heibio’r Eagle and Child, neu trowch i'r chwith ar hyd Ffordd Teilia, gan basio Hen Dŷ'r Ysgol a dilyn y ffordd allan o'r pentref. (Mae bwrdd gwybodaeth yng Ngwaenysgor yn tynnu sylw at lefydd o ddiddordeb.)

5. Mae'r ffordd yn codi drwy dir fferm ac mae'r wyneb tarmac yn dechrau dadfeilio ar ôl pasio fferm Teilia. Pan fydd y ffordd yn lefelu ac yn fforchio'n ddau drac, ewch yn syth ymlaen. Mae'r trac yn troi'n laswellt wrth iddo ddisgyn, gyda golygfeydd i lawr i'r arfordir cyn cyrraedd llain wedi ei ffensio sy'n cynnwys mast cyfathrebu a radar. Trowch i'r dde a dilyn llwybr cul wrth ochr Coedwig Erw. Mae'r llwybr yn troi i'r chwith wedyn a pharhau i lawr trwy gwm coediog, gan agor allan yn y pen draw nes cyrraedd adeiladau fferm Nant y Crai. (Er mwyn ymweld â'r dafarn, daliwch ati i gerdded i lawr ffordd y fferm, sef Lôn Nant y Crai, i gyrraedd pentref Gronant ger y Gronant Inn, yna trowch i'r chwith i adael y pentref.)

6. Ychydig cyn cyrraedd ffermdy Nant y Crai, trowch i'r chwith gan ddilyn yr arwydd drwy giât mochyn ac i fyny’r llethr glaswelltog. Ewch ymlaen heibio ychydig goed a thrwy giât mochyn arall, a cherdded ymlaen wrth ochr cae. Bydd giât mochyn arall yn eich arwain i goedwig o'r enw Coed Bell. Cerddwch yn syth ymlaen ac i lawr y llwybr, gan gyrraedd arwyddbost teirffordd. Trowch i'r dde a pharhau i lawr y llwybr llydan, troellog nes cyrraedd mainc ac arwyddbost pedair ffordd. Trowch i'r dde gan ddilyn arwydd Gronant ac ar hyd llwybr drwy’r coetir at giât mochyn. Ewch drwyddi, wedyn dilynwch yr arwydd i’r chwith i lawr y cae, a chwilio am fwlch yn y clawdd sy'n arwain at ffordd Gronant.

7. Trowch i'r dde i ddilyn y ffordd i gyffordd gyfagos, yna trowch i'r chwith i lawr yr allt a dilyn arwyddbost Prestatyn. Gronant Hill yw enw'r ffordd, a does dim palmant, felly cerddwch ar yr ochr dde gan wynebu'r traffig. Fe ddowch at gyffordd â Mostyn Rd, sy’n ffordd brysur, lle dylech ddefnyddio'r groesfan. Ewch ymlaen ar hyd lôn dawelach Shore Rd, sef y ffordd i Presthaven, lle ceir palmant. Ewch heibio siopau bach, Crofters Pantry Café a'r Beachcomber Inn cyn i'r ffordd godi i groesi rheilffordd. Ar ôl cyrraedd mynedfa Presthaven Beach Resort, trowch i'r chwith gan ddilyn arwydd Twyni Gronant a Llwybr Arfordir Cymru.

8. Er bod llwybr tywod yn arwain yn syth i'r traeth, mae Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn llwybr tarmac eang ar gyfer beicio. (Gallwch ddilyn y llwybr beicio yn syth nôl i Brestatyn i orffen y daith yn gynt). Fodd bynnag, mae llwybr yr arfordir yn troi i'r dde yn reit fuan ar hyd llwybr cadarn, gan groesi pont droed a dilyn topiau'r arglawdd uwchben corstir isel. Mae pyllau yn y gors yn llawn llyffantod y twyni prin, rhywogaeth a ddiflannodd yn llwyr o Gymru, ond sydd bellach wedi ei hailgyflwyno yma. Yn ystod misoedd yr haf, mae merlod y Carneddau yn pori yma er mwyn rheoli'r llystyfiant, gan ganiatáu mwy o symudedd i'r llyffantod. Mae’r arwydd nesaf yn arwain ar hyd llwybr tywod i'r chwith, lle mae arwyddbost arall yn cynnig sawl dewis o lwybrau.

9. Mae opsiwn i droi i'r dde, i gyfeiriad yr Olygfan, ar hyd rhodfa bren uwchben corstir a thwyni tywod. Mae'r llwybr yn arwain at gysgodfan bren, cyn igam ogamu i fyny at lwyfan gwylio sy'n edrych dros draeth caregog cul a'r erwau o dywod y tu hwnt. Mae'r ardal hon yn safle pwysig ar gyfer nythfa fridio o fôr-wenoliaid bach - dim ond un o ddau safle o'r fath sydd yng Nghymru. Cewch gyfle i chwilio am y môr-wenoliaid ym misoedd yr haf, ond peidiwch â mynd ar y traeth na tharfu arnyn nhw. Os ewch i’r Olygfan, rhaid dychwelyd yr un ffordd yn ôl at Lwybr Arfordir Cymru. Os nad wnewch chi ddewis yr opsiwn hwn, byddwch yn arbed tua 500m.

10. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd ar hyd llwybr cul o dywod neu laswellt gan ymlwybro drwy’r twyni llawn llystyfiant. Mae arwyddbyst pren i’w gweld bob hyn a hyn i gadarnhau eich bod ar y trywydd iawn. Yn raddol, mae'r llwybr yn symud yn agosach at y môr, gan redeg yn y pen draw ar hyd crib y twyni uwchben y traeth. Mae rhodfa bren hir wedi'i gosod i warchod y twyni, nes cyrraedd pwynt lle gall cerddwyr fynd i'r dde neu'r chwith, yn dibynnu ar y llanw.

11. Os yw'r llanw allan, trowch i'r dde am draeth tywodlyd Barkby, yna trowch i'r chwith a dilyn y traeth nes bod modd camu i fyny’r cob neu’r morglawdd concrit. Ond os yw'r llanw i mewn, trowch i'r chwith i lawr grisiau pren, yna i'r dde a dilyn llwybr o laswellt sydd i mewn i’r tir o’r twyni tywod. Wedyn, bydd arwydd yn dangos llwybr sy'n croesi bwlch yn y twyni tywod, ac yn arwain at forglawdd concrit.

12. I barhau, ewch heibio’r maes parcio a cherdded ar hyd promenâd concrit eang a phasio o flaen Beaches Hotel. Mae adeiladau eraill ymhellach i ffwrdd o’r amddiffynfeydd, a'r adeiladau nesaf sy’n agos at y môr yw Canolfan Nova. Yma, fe welwch gerflun dur godidog o'r enw 'Dechrau a Diwedd'. Mae'n nodi dechrau neu ddiwedd Llwybr Clawdd Offa. (Mae Llwybr Arfordir Cymru yn ymestyn 870 milltir / 1400 km o Gaer i Gas-gwent, tra bod Llwybr Clawdd Offa yn cynnig 'llwybr byr' o 177 milltir / 285km i Gas-gwent!)

13. Dilynwch Bastion Road i gyfeiriad y tir o Ganolfan Nova. Chwiliwch am y disgiau sy’n nodi Llwybr Clawdd Offa, sydd wedi'u gosod naill ai'n uchel ar byst lamp neu dan droed ar y palmant. Mae'r ffordd yn dychwelyd yn uniongyrchol i'r orsaf drenau, lle mae llun o Frenin Offa o Mersia wedi'i ysgythru ar baneli gwydr. Dylai unrhyw un sy'n dal trên o'r orsaf gadw llygad am gerflun pren 'Rhodri y Cerddwr’.