Bagillt a Bettisfield

Dysgwch am dreftadaeth ddiwydiannol yr ardal ar y daith gerdded fer hon gyda golygfeydd gwych ar draws Aber Afon Dyfrdwyy

Paddy Dillon

Nodwch y dudalen hon
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Pentref bychan â chefndir diwydiannol yw Bagillt. Yr oedd unwaith wedi'i amgylchynu gan byllau glo ac yn gartref i fwyndoddwr plwm, ffowndri a bragdy. Gellir gwerthfawrogi ychydig o dreftadaeth ddiwydiannol yr ardal drwy ddilyn taith gerdded fer ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, sy'n cynnig golygfa wych sy'n ymestyn dros aber afon Dyfrdwy.

Manylion y llwybr

Pentref bychan â chefndir diwydiannol yw Bagillt. Yr oedd unwaith wedi'i amgylchynu gan byllau glo ac yn gartref i fwyndoddwr plwm, ffowndri a bragdy. Gellir gwerthfawrogi ychydig o dreftadaeth ddiwydiannol yr ardal drwy ddilyn taith gerdded fer ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, sy'n cynnig golygfa wych sy'n ymestyn dros aber afon Dyfrdwy.

Pellter: 1.9 milltir neu 3.1 cilomedr
Man cychwyn: Tafarn y Stag, Bagillt
Cyfeirnod grid y man cychwyn: SJ 21963 75320
Disgrifiad what3words y man cychwyn: gwrthwynebu.bratiog.hygyrch

Trafnidiaeth i'r man cychwyn

Parcio
Maes parcio gyferbyn â thafarn y Stag ym Magillt.

Bysiau
Mae gwasanaethau bws dyddiol yn cysylltu Bagillt â Chaer, Treffynnon, Prestatyn a'r Rhyl.

Trenau
Dim byd, ond mae gwasanaethau trên dyddiol Arfordir Gogledd Cymru yn cysylltu'r Fflint, sydd gerllaw, â gorsafoedd arfordirol rhwng Caer a Chaergybi.

Map a Dolen GPX

Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX 'Bagillt Bettisfield'

Disgrifiad Manwl o’r Llwybr

1. Cychwynnwch ym mhentref Bagillt wrth dafarn y Stag, sydd â maes parcio gyferbyn â hi ac arosfannau bysiau gerllaw, a lle ceir hysbysfwrdd sy'n cynnig gwybodaeth am Lwybr Diwydiannol a Threftadaeth Bagillt.

2. Cerddwch yn syth yn eich blaen o dafarn y Stag i gyfeiriad ffordd ddeuol brysur yr A548, a chroeswch yn ofalus gan ddefnyddio’r llwybr drwy’r llain ganol. Parhewch yn eich blaen ar hyd Station Road, a sylwch mai’r hen wal gerrig ar y chwith yw’r cyfan sydd ar ôl o Fragdy Cambrian, a fu’n weithredol rhwng 1825 ac 1893. Defnyddiwch bont droed i groesi’r rheilffordd, gan fanteisio ar yr uchder i astudio’r forfa heli gerllaw ac aber afon Dyfrdwy. Roedd gorsaf reilffordd i'w chael yma ar un adeg, ond fe'i caewyd yn 1966 a chafodd ei dymchwel yn ddiweddarach. Bellach mae gardd gymunedol gerllaw safle'r hen orsaf.

3. Bydd arwydd Llwybr Arfordir Cymru yn eich arwain i'r chwith ac i'r dde. Trowch i'r dde, ond dim ond am ychydig gamau, er mwyn darllen hysbysfwrdd am Gwter yr Orsaf, a gaiff ei adnabod hefyd fel Gwter Bagillt neu Ddoc Bagillt. Roedd y gilfach gul, fwdlyd hon yn llawn cychod gwaelod gwastad ar un adeg a arferai gludo glo o’r pyllau glo lleol. Dilynwch arwyddbost Llwybr Arfordir Cymru i gyfeiriad Bettisfield, gan ddilyn trac ar hyd y forfa heli sy'n rhedeg yn gyfochrog â’r rheilffordd. Bydd y trac yn ildio i ffordd darmac, ac yna fe welwch giât fechan ar y chwith a fydd yn arwain Llwybr Arfordir Cymru ar hyd arglawdd yn agos at y forfa heli. Ewch heibio i hysbysfwrdd sy'n sôn am Warchodfa Llyffantod y Twyni Bettisfield. Diflannodd llyffantod y twyni o Gymru yn y 1950au, ond fe’u hailgyflwynwyd i’r safle hwn yn 2014.

4. Pan gyrhaeddwch gyffordd yn y llwybr, trowch i'r dde fel y nodir ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru. Ewch heibio i hysbysfwrdd arall am lyffantod y twyni, ac arhoswch ar y llwybr graeanog, gan fynd drwy gât mochyn. Pan fydd y llwybr yn hollti, cadwch i’r chwith a mynd heibio i fersiwn fodern Bagillt o Gôr y Cewri. Mae'r llwybr yn codi'n raddol ac yn eich arwain at oleufa ysblennydd Bagillt, sydd wedi'i greu ar ffurf draig. Gosodwyd yr oleufa pan agorwyd Llwybr Arfordir Cymru yn 2012. Mwynhewch olygfeydd o'r wlad o'ch cwmpas, gan edrych ar draws aber afon Dyfrdwy i gyfeiriad Wirral.

5. Cerddwch yn syth yn eich blaen heibio'r oleufa er mwyn dod o hyd i lwybr llydan, glaswelltog gyda ffensys o boptu iddo. Bydd y llwybr hwn yn eich arwain i lawr at gofeb fwyngloddio ddiddorol, a grëwyd ar ffurf bwyell, sydd hefyd yn ddeial haul. Y tu ôl iddo fe welwch adeilad o frics coch, sef y cyfan sydd ar ôl o Bwll Glo Bettisfield, a fu’n weithredol rhwng 1872 ac 1933. Os ydych ar frys, cerddwch ymhellach i lawr yr allt ac ewch heibio'r adeilad gan ddilyn y ffordd. Ond os oes gennych ychydig funudau i'w sbario, byddai werth dargyfeirio trwy giât fechan heb fod ymhell o'r heneb, gan droi i'r dde ar hyd llwybr sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r ffordd. Croeswch y ffordd ac ewch yn eich blaen am ychydig, gan ddilyn yr arwyddbost, er mwyn cyrraedd Twnnel y Milwr, lle mae dŵr yn llifo tuag at yr aber. Mae'r twnnel yn ymestyn am 16 km / 10 milltir i mewn i'r tir, ac yn draenio nifer o hen fwyngloddiau o dan Fynydd Helygain.

6. Ewch yn ôl yr un ffordd ag y daethoch hyd nes y bydd y llwybr yn ymuno â'r ffordd sy'n mynd heibio'r adeilad o frics coch, a gaiff ei ddefnyddio bellach gan gwmni sy'n gwerthu rhannau ceir. Dilynwch y ffordd o dan bont reilffordd a chroeswch ffordd ddeuol brysur yr A549 yn ofalus gan ddefnyddio'r llwybr drwy'r llain ganol. Bydd y llwybr yn eich arwain at ‘ardal natur’ fechan ar ddechrau'r stryd fawr dawel sy’n mynd â chi yn syth yn ôl i Fagillt. Dilynwch y ffordd heibio i dai, eglwys, a gardd coffa rhyfel. Ychydig wedi i chi fynd heibio'r siop / swyddfa bost, fe welwch Forresters Hall, sef y ‘tŷ siocled’ cyntaf yng Nghymru, a sefydlwyd gan y mudiad dirwest yn 1879. Mae'r safle wedi cael sawl defnydd ers hynny, gan gynnwys gweini alcohol! Bydd tafarn y Stag yn dod i'r golwg yn fuan iawn, gan nodi diwedd y daith gerdded.