Drysfa Talacre

Llwybr cylchol gwych o Dalacre, ar draeth tywodlyd ysblennydd gyda'r opsiwn o daith gerdded fyrrach y tu ôl i'r twyni tywod

Paddy Dillon

Nodwch y dudalen hon
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn traeth tywodlyd godidog o Dalacre, gan fynd heibio i oleudy bach. Mae llwybr pren yn cynnig llwybr i mewn i'r tir, sy'n cysylltu â llwybr beicio sy'n rhedeg yn ôl i Dalacre. Os yw'r llanw yn arbennig o uchel, neu os yw'r tywod yn chwythu ac yn eich taro, mae llwybr amgen byrrach ar gael hefyd y tu ôl i'r twyni tywod, lle byddwch yn dod ar draws pwll bach sydd yn gartref i lyffantod y twyni.

Manylion y llwybr

Pellter: Llwybr hir 3.1 milltir neu 5 cilomedr, Llwybr byr 1.6 milltir neu 2.6 cilomedr
Man cychwyn: Pen ffordd Traeth Talacre
Cyfeirnod grid y man cychwyn: SJ 12457 84841
Disgrifiad what3words y man cychwyn: cynilodd.trydanol.adnewyddu

Trafnidiaeth i'r man cychwyn

Parcio
Parcio wrth ymyl y gors yn Nhalacre os yw'r rhwystr ar agor, yn ogystal â Point Bar a thafarn y Lighthouse gerllaw.

Bysiau
Mae gwasanaethau bws dyddiol yn cysylltu Clwb Traeth Talacre â Threffynnon, Prestatyn a'r Rhyl.

Trenau
Dim.

Map a dolen GPX

Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Mae dau lwybr cylchol wedi'u marchio ar fap 1:25,000 yr Arolwg Ordnans. Mae'r llwybr hiraf yn defnyddio mwy o Lwybr Arfordir Cymru, ond ni ellir ei ddilyn pan fydd y llanw ar ei uchaf. Mae'r llwybr byrraf yn defnyddio ychydig iawn o Lwybr Arfordir Cymru, ond gellir ei ddefnyddio unrhyw bryd. Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX Talacre Warren (Drysfa Talacre)

Disgrifiad Manwl o’r Llwybr

1. Os ydych yn cyrraedd ar fws, mae'r bws yn stopio yng Nghlwb Traeth Talacre, a bydd angen cerdded oddi yno hyd at ddiwedd Station Road, a fydd yn ychwanegu 1 km / ½ milltir arall at y pellter. Os ydych yn cyrraedd mewn car, gallwch unai ddefnyddio'r maes parcio sydd ar y dde cyn cyrraedd diwedd y ffordd, neu gallwch fynd yn eich blaen dros yr arglawdd a pharcio wrth ymyl y forfa heli, os yw'r giât bar ar agor. Waeth beth fo'ch cyfeiriad, mae’r daith gerdded yn cychwyn ar ddiwedd y ffordd, ar ben yr arglawdd, lle ceir arwydd ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru.

2. Dilynwch yr arwyddbost ‘at y traeth’, gan gerdded ar hyd yr arglawdd uwchben y forfa heli. Cyn bo hir, bydd y llwybr yn ildio i rodfa bren, lle gwelwch fwrdd map a hysbysfwrdd sy'n darparu gwybodaeth am hanes y twyni yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Daeth amryw o bobl i'r ardal o'r dinasoedd er mwyn dianc rhag y bomio ac adeiladu cytiau i fyw ynddynt. Pan gyrhaeddwch ddiwedd y llwybr, parhewch i fynd yn syth yn eich blaen trwy fwlch yn y twyni tywod er mwyn cyrraedd traeth llydan tywodlyd. (Os yw'r llanw yn arbennig o uchel, trowch i’r chwith ar ddiwedd y llwybr pren a dilynwch y llwybr amgen byrrach a ddisgrifir isod.)

3. Pan fydd y llanw allan, mae digonedd o le i gerdded ar hyd y traeth. Gallwch hefyd gerdded at oleudy bach segur sy’n gwyro ychydig i un ochr. Mae arwyddbyst i'w canfod ar hyd y traeth. Pan fydd y llanw'n uchel, bydd y dŵr yn eu pasio, gan wthio cerddwyr yn nes ac yn nes at y twyni tywod. Unwaith y byddwch wedi ymrwymo i ddilyn y traeth, parhewch i gerdded a pheidiwch â mynd i mewn i'r tir hyd nes y bydd llwybr pren amlwg iawn yn ymddangos. Ni fyddem yn eich annog i ddringo dros y twyni tywod meddal a sathru ar y llystyfiant.

4. Mae’r rhodfa bren yn cynnig llwybr cadarn drwy’r twyni, ac yn arwain at hysbysfwrdd gwarchodfa natur sy'n darparu gwybodaeth am Dwyni Gronant a Drysfa Talacre. Mae llwybr o gregyn wedi torri yn ymuno â ffordd, a fydd yn mynd â chi heibio i gartrefi symudol cyrchfan wyliau Presthaven. Trowch i'r chwith wrth gyffordd ffordd a dilynwch y ffordd drwy'r gyrchfan wyliau. Cerddwch ar hyd pa bynnag ochr o'r ffordd sydd â phalmant, cyn cyrraedd cylch troi lle ceir hysbysfwrdd gwarchodfa natur arall.

5. Mae llwybr beicio llydan wedi’i ffensio wedi’i arwyddo o’ch blaen ac yn eich arwain i gyfeiriad Talacre. Caiff merlod y Carneddau eu rhoi i bori yma er mwyn helpu i reoli’r llystyfiant. Hanner ffordd ar hyd y llwybr beicio, ceir trac concrit ar y chwith wedi'i arwyddo ‘at y traeth’. Parhewch i fynd yn syth yn eich blaen yma, ond sylwch mai yma mae'r daith gerdded amgen fyrrach yn ymuno â'r llwybr. Pan gyrhaeddwch gyffordd llwybrau drionglog, fe welwch arwydd i'r dde am Dalacre, sy'n cynnig y ffordd gyflymaf yn ôl i'r safle bws. Neu gallwch fynd i'r chwith, gan ddilyn yr arwydd i gyfeiriad Talacre a Ffynnongroyw. Bydd llwybr pren llydan yn ildio i ddarn arall o lwybr tarmac mewn ardal goediog, gan eich arwain yn ôl at ben y ffordd lle cychwynnoch eich daith.

Taith gerdded amgen fyrrach

Os yw'r llanw yn arbennig o uchel neu er mwyn osgoi cael eich taro gan dywod ar ddiwrnod gwyntog, trowch i’r chwith pan gyrhaeddwch ddiwedd y rhodfa bren, a dilynwch lwybr sy’n aros y tu ôl i’r twyni tywod. Mae'r llwybr wedi'i farcio â physt pren. Weithiau mae'r llwybr yn dywodlyd o dan draed ac weithiau'n laswelltog. Bydd y llwybr yn ymuno â thrac concrit ymhen hir a hwyr. Dilynwch hwn yn eich blaen ac ewch heibio i bwll sy'n gartref i lyffantod y twyni. Pan gyrhaeddwch gyffordd drionglog, trowch i'r chwith er mwyn dilyn trac concrit byr ac ymuno â llwybr beicio tarmac. Trowch i'r chwith, gan ddilyn yr arwydd am Dalacre, a dilynwch y disgrifiad o'r prif lwybr uchod. Mae pellter cyffredinol y daith amgen hon yn hanner mor hir â’r brif daith gylchol.