Aberffraw i Borth Cwyfan, Ynys Môn

Ewch am dro heibio i un o'r lleoedd gorau i dynnu llun ohono ar yr ynys fach ond nerthol hon

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Decharau a Gorffen

Pentref Aberffraw 

Pellter

3 milltir neu 4 km

Ar hyd y ffordd

Byddwch yn cychwyn ym mhentref hanesyddol Aberffraw. Mae’n lle tawel heddiw, ond rhwng y nawfed ganrif a’r drydedd ganrif ar ddeg arferai Tywysogion Gwynedd gynnal llys yma, gan wneud y lle’n ‘brifddinas’ Gogledd Cymru.

Cerddwch i’r de-orllewin, ac wrth i chi ddringo pentir Trwyn Du byddwch yn mynd heibio i olion tomen gladdu o’r flwyddyn 1500 CC. Mae gan y domen gladdu hon batrwm cymhleth o gerrig o’i hamgylch (mae modd gweld rhai o’r rhain hyd heddiw yn y glaswellt), ac mewn gwirionedd fe’i hadeiladwyd ar safle anheddiad llawer hyn y credir ei fod yn dyddio i oddeutu 7000 CC.

Ym Mhorth Cwyfan fe welwch olygfa hudolus Eglwys Sant Cwyfan ar ynys fechan a elwir yn Cribinau, dafliad carreg oddi ar yr arfordir. Adeg penllanw, caiff yr adeilad bach ei wahanu’n llwyr oddi wrth y tir mawr, a chaiff ei amddiffyn rhag y dwr gan y morgloddiau cadarn o’i amgylch. Pan fydd y llanw ar drai, gallwch fynd yno am dro i gael gwell golwg ar y lle. Cafodd yr adeilad ei adeiladu’n wreiddiol yn y ddeuddegfed ganrif, ond mae cyfran helaeth o’r hyn a welir heddiw yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae ambell wasanaeth yn dal i gael ei gynnal yno ar y Sul o dro i dro.

Uchafbwyntiau'r daith 

Uchafbwyntiau Gruff Owen, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru:
"Dyma daith gerdded wirioneddol arbennig. Pa bryd bynnag yr ydw i’n troedio’r rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru, rydw i’n rhyfeddu at yr harddwch a’r tawelwch. Profiad sydd ar ei orau ar noswaith glir o haf!"

Angen Gwybod

Mae digonedd o gyfleusterau i’w cael yn Aberffraw, yn cynnwys mannau parcio, caffi, tafarn a siop.
Ceir bysiau (rhif 25 a 42) i bentref Aberffraw, gweler yr amserlenni ar wefan Cyngor Sir Môn

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig