Parc Tredelerch and Seawall to Peterstone Wentloog, Cardiff cy

Cewch ddianc rhag bywyd prysur y dref yng Nghaerdydd ac ymlacio ar hyd glannau Aber Afon Hafren

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a Gorffen

Parc Tredelerch, Ffordd Lamby (yno ac yn ôl) 

Pellter

4 milltir neu 6 km

Ar hyd y daith 

Mae'r daith gerdded hon yn mynd â chi ar hyd glannau Aber Afon Hafren, drwy gefn gwlad gwyrdd a heb ei gyffwrdd sy'n syndod o agos at dirlun trefol Caerdydd. Cyn dechrau, mae'n werth archwilio Parc Tredelerch, ardal o lyn a gwlypdir sy'n byrlymu â bywyd gwyllt (os ydych chi'n chwilio am daith fyrrach, gallech ddilyn y llwybr 1.3 cilomedr byr o amgylch y llyn). Pan fyddwch chi'n barod i fynd, dilynwch Lwybr Arfordir Cymru a chroesi'r ffordd i Gors Crychydd.  Mae'r llwybr yn mynd â chi ar hyd y cwrs dwr (a adnabyddir fel ffos ddraenio) yr holl ffordd i'r morglawdd.   

Wrth fynd, edrychwch am anifeiliaid fel glas y ddorlan, llygod pengrwn y dwr, ysgyfarnogod, gylfinirod a chornchwiglod. Mae yna hefyd fyrddau dehongli ym Mharc Tredelerch ac ar y morglawdd ger Cors Crychydd sy'n rhoi mwy o wybodaeth am amgylchedd a bywyd gwyllt Afon Hafren, sy'n safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.  

Wrth gerdded i'r dwyrain ar hyd y morglawdd mwynhewch y golygfeydd pellgyrhaeddol ar draws yr aber i arfordir Lloegr ar yr ochr arall. Mae’r llwybr yn parhau ar hyd y morglawdd lle daw llwybr â chi i Ffordd Gwynllwg. Dilynwch y ffordd mewn i bentref bychan Llanbedr Gwynllwg am fwyd a diod yn y dafarn leol*, cyn ei dychwelyd i’ch man dechrau.  

* 8fed Ebrill 2022 -Sylwer nad yw'r dafarn leol yma bellach.

Eisiau mynd ymhellach?

O Llanbedr Gwynllwg, ewch yn eich blaen am 2.5 milltir neu 4km arall heibio Peterstone Gout ac ymlaen at Lighthouse Park, lle gallwch aros i gael tamaid yn y Lighthouse Inn, neu fynd ymlaen 0.9 milltir neu 1.5km arall i weld Goleudy Gorllewin Wysg.

Uchafbwyntiau'r daith 

Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru, Tricia Cottnam:
"Er eich bod mewn amgylchedd trefol, cewch ymdeimlad eich bod ar fin ymadael â hynny.  Pan rydych yn cyrraedd morglawdd Cors Crychydd, mae modd gweld Aber Afon Hafren yn ymestyn o’ch blaenau. Mae posib gweld gwahanol adar hirgoes yma pan fo’r llanw yn iawn, ac er ei fod yn agos iawn at Gaerdydd, gall fod yn hamddenol iawn yma".   

Angen gwybod 

Mae maes parcio ym Mharc Tredelerch. Er nad oes cyfleusterau ar y llwybr, mae yna gaffi gyda thoiledau yn siop Tesco wrth ddechrau’r daith a thafarn yn Llanbedr Gwynllwg.

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythwch taflen cerdded Parc Tredelerch a'r Morglawdd i Lanbedr Gwynllŵg (PDF) a map taith cerdded (JPEG).

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig