Pethau i’w gwneud ar Ben Llŷn

Nid cerdded yw’r unig beth y gallwch ei wneud.  Yn ogystal â’r llu o gyfleoedd i gerdded y soniwn amdanynt yn yr adran Crwydro Llwybr yr Arfordir, mae llawer o bethau eraill i’w gweld a’u gwneud ar hyd y Llwybr

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Cymerwch gip yma i chi gael gweld pam y mae hwn yn lle mor ardderchog i dreulio amser yn yr awyr agored a pha mor hawdd yw defnyddio Llwybr yr Arfordir yn eich bywyd bob dydd neu ar eich gwyliau.

Cestyll Caernarfon, Criccieth a Harlech

Roedd y cestyll yma, sydd wedi’u lleoli mewn mannau godidog, yn rhan o ymgyrch Edward 1 i oresgyn gogledd Cymru yn y drydedd ganrif ar ddeg.

Aber Afon Mawddach

Mae naws bron yn freuddwydiol i aber hardd yr afon, gyda’i golygfeydd ardderchog tuag at Gadair Idris.

Pen Llŷn

Er ei bod yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, mae digon o le o hyd i archwilio’r dirwedd hardd a thrawiadol hon. An Area of Outstanding Natural Beauty, this is a stunning yet under-explored landscape.

Cysylltiadau lleol

Mae gan wefan Eryri -Mynyddoedd a Môr gyfoeth o wybodaeth ychwanegol yn ymwneud â Phen Llŷn i’ch helpu i gynllunio eich antur nesaf, cofiwch eu holi os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’ch ymweliad.