Limeslade i Abertawe

Taith gerdded drefol gyda rhan ddechreuol gwyllt ac ysblennydd

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a gorffen

Cychwynnwch wrth ymyl y sied hufen iâ ar lan y môr yn Limeslade a gorffen y daith yng nghanol dinas Abertawe.

Pellter

Mae hon yn daith gerdded 11 milltir / 18 cilometr os byddwch yn cymryd y llwybr ychwanegol i Gastell Ystumllwynarth ac o amgylch Parc Gwledig Dyffryn Clun.

Mae’n 7 milltir / 11 cilomedr os ydych yn hepgor y rhan o gwmpas Parc Gwledig Clun a dim ond 5 milltir / 8 cilomedr os byddwch yn cychwyn yn y Mwmbwls ac yn cerdded yn syth i Gastell Abertawe.

Ar hyd y ffordd

Os oes yna ddechrau mwy ysblennydd i daith gerdded arfordirol drefol yng Nghymru, yna fe fyddai’n hawdd iawn i beidio â chredu hynny.

Mae gwylio tonnau’r môr yn taro’r creigiau ym Mae Limeslade, Bae Bracelet a Phen y Mwmbwls ar ddiwrnod gwyntog o hydref neu aeaf yn siŵr o’n rhyfeddu o rym a phŵer natur. Wrth gwrs, mae’n hardd iawn ar ddiwrnod braf o haf hefyd.

Mae’r llwybr yn dilyn ochr y ffordd, ac mae caffi a bwyty, meysydd parcio a rhai toiledau i’w cael yma.

Pen a Phier y Mwmbwls

O’n blaenau ar y dde i ni, mae’r hyn a welwn o’r goleudy ar Ben y Mwmbwls yn ddelwedd eiconig, ac mae wedi bod o gymorth i gadw sawl llong yn ddiogel yma ers 1794.

Wrth i ni anelu i lawr yr allt, buan iawn y cyrhaeddwn eicon arall o ardal Abertawe sef Pier y Mwmbwls. Wedi'i adeiladu yn 1898, roedd y Pier ar un adeg yn orsaf ar gyfer y rheilffordd deithwyr gyntaf yn y byd sef Rheilffordd y Mwmbwls. Mae hefyd yn gartref i rai caffis poblogaidd, arcêd neu ddau a hyd yn oed oriel fechan.

Mae criwiau’r Bad Achub yma wedi bod yn achub bywydau ar y môr ers dros 180 o flynyddoedd ac wedi derbyn 33 o wobrau am eu dewrder.

Mae gweddill y daith nawr yn agor o'n blaenau. Mae’n hollol wastad ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer sawl pwrpas yn ogystal â bod yn hygyrch iawn. Mae bwa mawreddog Bae Abertawe yn ymestyn o’ch blaen yr holl ffordd i Bort Talbot a thu hwnt. Mae digonedd o leoedd parcio, bwytai a thoiledau ar hyd y ffordd.

Pentref y Mwmbwls

Y man aros nesaf yw pentref tlws y Mwmbwls. Mae’n boblogaidd gyda thwristiaid a phobl leol ac mae'n lle gwych i aros, bwyta ac yfed.

Yn y gwanwyn a’r haf mae yna ychydig o werthwyr bwyd stryd diddorol ar lan y môr yma ac mae bwytai’r pentref wedi ennill enw da iddyn nhw eu hunain. Cyn symud ymlaen fe ddylen ni flasu’r hufen iâ lleol enwog sef hufen ia Joe’s a chadw siŵr o gadw llygad am rai o chwaraewyr rygbi gorau Cymru, sy’n byw yn lleol.

Castell Ystumllwynarth

Mae’r Mwmbwls hefyd yn lle rydym yn newid cyfeiriad ychydig oddi ar Lwybr Arfordir Cymru i ymweld â Castell Ystumllwynarth. Bu’r castell hwn dan warchae yn dilyn ymosodiadau gan y Cymry. Fe'i hadeiladwyd a'i ailadeiladu droeon gan yr Eingl-normaniaid.

Yn ôl ar yr arfordir mae'r llwybr sydd o'ch blaen yn arwain trwy faestref gefnog West Cross yn llwybr hawdd.

Parc gwledig tawel ar hen safle diwydiannol

Dargyfeiriad diddorol arall yn y fan hon yw croesi’r ffordd i unig barc gwledig Abertawe sef Parc Gwledig Cwm Clun sy’n 700 erw.

Mae'r parc yn cynnwys amrywiaeth o dirweddau gan gynnwys llethrau agored a choediog, ceunentydd serth, chwareli, dolydd a lloriau dyffrynnoedd gwlyb sy'n darparu amrywiaeth o gynefinoedd ar gyfer amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid.

Er ei fod bellach yn hafan o lonyddwch y dyddiau hyn, fe gawn gipolwg hefyd ar yr hyn a fu gydag olion cyfoethog o’r gweithgareddau diwydiannol prysur a fu yma ar un tro.  Mae Chwarel Clun yn y gogledd nid yn unig yn darparu golygfeydd godidog ond mae o ddiddordeb daearegol sylweddol hefyd.

Yn ôl ar y llwybr ac, unwaith i chi groesi Afon Clun, gallwch naill ai barhau wrth ymyl y ffordd fawr neu, os bydd y llanw’n caniatáu, gerdded yr holl ffordd ar hyd y traeth i’r Marina hanesyddol yn Abertawe.

Er ei fod y llwybr yn rhedeg yn agos at ffordd brysur, mae yna rannau lle gallem deimlo ein bod ni yng nghefn gwlad gyda rhannau coediog hyfryd yn ogystal a gerllaw parcdir cwrs golff troed Abertawe.

I mewn i ganol Abertawe

Yn y marina byddwn yn dod o hyd i bopeth y byddem yn ei ddisgwyl mewn canolfan siopa fawr o'r math hwn. Un o’r mannau pwysicaf i’w gweld yw Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Yma, mae cymysgedd o arddangosfeydd traddodiadol a rhyngweithiol yn egluro rôl diwydiant wrth fowldio bywydau pobl Cymru. Mae cyn Cenhadaeth Forwyr yn gartref i oriel fechan ynghyd â cherflun o Dylan Thomas, a aned yn Abertawe.

O’r fan hon awn tuag at Gastell Abertawe ac yna i fyny Wind Street lle mae calon bywyd nos Abertawe. Y Bar Gwin No Sign Wine Bar clyd yma yw tafarn hynaf Abertawe. Ond ychydig cyn i ni gyrraedd y castell efallai y byddwn am edrych i lawr y lôn gul i'r chwith i ddod o hyd i'r unig adeilad canoloesol arall yn Abertawe.

Abertawe ganoloesol

Mae'r Cross-Keys Inn, neu'n fwy cywir rhannau cefn yr adeilad, yn cynnwys gweddillion Ysbyty'r Bendigaid Ddewi. Adeiladwyd yr elusendy hwn gan Esgob Tyddewi yn 1332 “er mwyn cynnal caplaniaid a lleygwyr tlawd eraill a amddifadwyd o iechyd corfforol.”  Yn rhyfeddol, mae tair o ffenestri gwreiddiol y bedwaredd ganrif ar ddeg wedi goroesi yng nghefn y dafarn.

Pen y daith yw Castell Abertawe. Efallai fod gweld olion Castell Normanaidd wedi’i amgylchynu gan ganol dinas fodern yn taro deuddeg, ond roedd hon unwaith yn gaer o bwysigrwydd strategol sylweddol. Nawr, mae’n anodd ei ddychmygu ar ben clogwyn uwchben Afon Tawe oherwydd bod hyd yn oed yr afon wedi’i symud ei llwybr.

Er bod castell wedi bod yma ers o leiaf dechrau'r ddeuddegfed ganrif, mae'r olion sy'n sefyll heddiw yn dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg a dechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Rôl olaf y castell, hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, oedd fel neuadd ymarfer ar gyfer milisia lleol ac fel carchar i ddyledwyr.

Uchafbwyntiau’r daith

Yn ôl Tricia Cottnam, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru: “Mae hon yn daith gerdded arfordirol gymharol hawdd a hygyrch sy’n cychwyn mewn man tawel uwchben y clogwyni isel yn Limeslade. Mae'r Mwmbwls yn boblogaidd oherwydd mae cymaint i'w gynnig yma, gyda digonedd o ddewis bwyd a diod o ansawdd da. Mae gweddill y llwybr yn cynnwys golygfeydd gwych o Fae Abertawe ac mae’r marina yn lle gwych i ymweld ag ef.”

Angen gwybod

Gellir dilyn y llwybr hwn yn gyfan gwbl ar lwybrau tarmac, felly mae’n wych ar gyfer cadeiriau olwyn a phob math o bram. Mae’n boblogaidd iawn gyda beicwyr hefyd. Yn agos at y man cychwyn mae rhai grisiau yn mynd i lawr at Bier y Mwmbwls, ond gellir osgoi’r rhain drwy fynd yn ofalus i lawr ffordd darmac braidd yn serth a chul ond mae’n fyr.

Ar ôl hyn mae’r llwybr yn hollol wastad felly dyma un o’r teithiau cerdded lleiaf egnïol ar Lwybr Arfordir Cymru.

Fel taith gerdded drefol mae nifer o gaffis, tafarndai, bwytai a thoiledau ar y llwybr hwn yn y Mwmbwls, Pier y Mwmbwls ac Abertawe. Os ydym yn cychwyn o Abertawe, beth am ddechrau’r diwrnod gyda ‘Brecwast Abertawe’ (brecwast wedi’i goginio ond gan gynnwys cocos a bara lawr) ym Marchnad Dan Do Abertawe.

Map

Lawrlwythwch map taith cerdded Limeslade i Abertawe (JPEG, 2.77MB)