Cadw

Teithiau cerdded gwych i archwilio lleoedd hanesyddol Cymru

Mae mwy na 600 o gestyll yng Nghymru, sy’n fwy fesul milltir sgwâr nag unrhyw le arall yn y byd.

Rydym wedi ymuno â Cadw, sy’n gofalu am rai o’r safleoedd hanesyddol arbennig yma yng Nghymru, i gynllunio 20 o deithiau cerdded. Rydym wedi cyfuno amser gwerth chweil ar y llwybr gyda’r cyfle i ddarganfod rhai o fannau hanesyddol enwocaf Cymru, ynghyd â rhai llai adnabyddus.

Teithiau cerdded

Bydd y teithiau cerdded yn eich tywys chi at amryw safleoedd hanesyddol Cadw ar hyd y llwybr ac yn rhoi blas i chi o’u hanes diddorol. Mae rhai o’n teithiau cerdded yn hirach fel y gallwch chi fwynhau mwy o’r hyn sydd gan yr ardal i’w gynnig. Mae hefyd awgrymiadau ar gyfer lleoedd i ymweld â nhw a lleoedd da i fwyta ar hyd y ffordd.

Mae mapiau’r llwybrau a ddarperir yn rhoi syniad bras o ble rydych chi’n mynd. Maen nhw’n ffeiliau (jpeg) y gallwch eu lawrlwytho a’u cadw ar eich dyfais symudol, sy’n ddelfrydol ar gyfer awgrymu’r lle nesaf i’w archwilio gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.

Cynllunio eich ymweliad

Edrychwch ar ein tudalen Cynllunio’ch Ymweliad lle mae map rhyngweithiol i chi gael archwilio’r llwybr. Rydym bob amser yn argymell mynd â map Ordnance Survey a gwisgo dillad addas ar gyfer y tywydd a’r lleoliad pan fyddwch yn ymweld â’r llwybr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu map toiledau cenedlaethol ar gyfer Cymru sy’n dangos lleoliad toiledau cyhoeddus – nid ni sy’n gyfrifol am y data hwn ac rydym yn argymell chwilio am ragor o wybodaeth ar-lein ynglŷn ag oriau agor a chyfleusterau.

Cadw

Cadw yw gwasanaeth gwybodaeth hanesyddol Llywodraeth Cymru a’i rôl yw gofalu am safleoedd hanesyddol Cymru ac ysbrydoli cenedlaethau heddiw a rhai’r dyfodol.

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

O fan cyfarfod i frenhinoedd, drwy fynachlog ganoloesol i ffynnon iacháu hynafol.

O gwmpas Penygogarth o Frenhines Trefi Glan Môr Cymru i un o’r cestyll canoloesol gorau yn y byd.

Tomenni claddu hynafol ac eglwys ganoloesol yn y môr.

Clogwyni dramatig, bywyd adar ysblennydd, goleudy eiconig, cymunedau hynafol a chaerau Rhufeinig.

Traeth trawiadol, goleudy, eglwys hynafol, castell Normanaidd a'r olaf o gestyll Edward yng Nghymru.

Mae pontydd ysblennydd a llwybr coetir ar hyd afon brydferth Menai yn eich tywys i un o gestyll canoloesol gorau’r byd.

Taith gerdded wastad o dref farchnad i dref castell.

O gastell rhyfeddol ar ben clogwyn, ar hyd milltiroedd o draethau a gwarchodfeydd natur hardd i siambrau claddu hynafol.

Treftadaeth ddiwydiannol a naturiol.

Taith gerdded ogoneddus, wyllt a garw sy’n cychwyn o gastell hanesyddol ac yn mynd heibio i abaty hynafol.

Dilyn olion traed seintiau, tywysogion ac esgobion.

O gastell arswydus, heibio i forfeydd heli a thrwy goedwig i draeth cwbl odidog.

Mae mwy i Dalacharn na Dylan Thomas.

Aber tywodlyd enfawr, coetiroedd, hanes a diwylliant lleol, lonydd cefn gwlad a phentref bach dymunol.

Ar hyd morfeydd heli helaeth Llwchwr i hen gastell dyn a laddodd frenin efallai.

Yn ôl traed smyglwyr a presgangiau ar hyd traethau sy’n cael eu disgrifio fel yr harddaf ym Mhrydain.

Taith gerdded drefol gyda rhan ddechreuol gwyllt ac ysblennydd.

Taith sy’n cychwyn mewn tref dwristiaeth boblogaidd, yn ymweld â gwarchodfa natur bwysig a phentrefan hyfryd gyda phen y daith yn cynnwys castell hynafol a thref glan môr boblogaidd.

Taith gerdded drefol hanesyddol a diwylliannol.

Pontydd anferth a phentrefi bychain gyda chyfoeth o hanes.