Cylchteithiau cerdded Llansteffan

Aber tywodlyd enfawr, coetiroedd, hanes a diwylliant lleol, lonydd cefn gwlad a phentref bach dymunol

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Cychwyn a gorffen

Prif faes parcio'r traeth yn Llansteffan.

Pellter

2, 3 neu 4 milltir / 3, 5 neu 6 cilomedr.

Ar hyd y ffordd

Dros y canrifoedd, mae dyfroedd aber afon Tywi wedi gweld rhwyflongau Rhufeinig, llongau rhyfel Llychlynnaidd, llongau canoloesol yn cario milwyr a chyflenwadau, cychod yn cludo mynaich a brodyr, a llongau masnachol yn cario popeth o lo i winoedd cain. Roedd hefyd yn arhosfan pwysig ar lwybr a ddefnyddid gan bererinion ar eu ffordd i Dyddewi, a byddinoedd ar orymdaith i Iwerddon.

Ond fe gychwynnwn ninnau drwy ddilyn Llwybr Arfordir Cymru i fyny llwybr tarmac i ffwrdd o'r traeth. Wrth i ni droi i'r chwith i lawr lôn mae waliau Castell Llansteffan ar y gorwel yn brif olygfa yn y rhan hon o aber afon Tywi, ac yn darged amlwg i anelu ato.

Castell Llansteffan

Mae'r ddringfa gyson i ben y bryn yn arwydd o'r hyn sy'n ein disgwyl – castell yn un o'r lleoliadau mwyaf trawiadol yng Nghymru.

Mae'n meddiannu safle sydd wedi'i amddiffyn ers y cyfnod cynhanesyddol. Amgaeir caer o Oes yr Haearn o fewn ei waliau cerrig arswydus ac mae'r porthdy enfawr a’i ddau dŵr, a adeiladwyd tua 1280, yn dal i fod yn enbyd ei olwg.

Ar ôl archwilio'r castell, awn yn ôl i lawr y trac. Os cymerwch yr opsiwn dwy filltir, lle mae'r trac yn penelino’n sydyn i’r dde, ewch yn syth ymlaen ar hyd llwybr troed cyhoeddus yn ôl i Llansteffan.

Ond rydyn ni’n parhau yn ôl i'r ffordd ac yn ail-ymuno â Llwybr Arfordir Cymru drwy droi i'r dde ar lwybr llydan i elli atmosfferig o goed tal cyn dychwelyd tua'r aber.

The Sticks

Cyn hir cyrhaeddwn lannerch fechan a elwir yn lleol The Sticks lle cynhaliai pobl leol ac ymwelwyr gyngherddau, eisteddfodau a dawnsfeydd yn y gorffennol. Yr uchafbwynt oedd seremoni’r Ffug Faer lle byddai llwyfan dros dro yn cael ei adeiladu ar gyfer y digwyddiad. Mae'r traddodiad hwn o ethol ffug faer yn parhau hyd heddiw yn rhan o Ffiesta ganol haf flynyddol Llansteffan.

Wrth symud ymlaen, dilynwn lwybr amgaeedig am ryw filltir gyda chipolygon rheolaidd ar aber Taf a Bae Caerfyrddin. Mae'r llwybr yn disgyn i'r traeth wrth Fae Scott sy'n llecyn dymunol am bicnic neu i eistedd ar y creigiau a mwynhau’r olygfa.

Dyma lle'r ydym yn troi oddi ar Lwybr Arfordir Cymru ac yn dilyn y llwybr troed tua’r tir tuag at Ffynnon Antwn Sant, sef safle iachau ers y chweched ganrif yn ôl pob sôn.

Wrth gyrraedd y lôn ger Parc Glas, gallwn droi i'r dde i fynd yn ôl i Lansteffan (yr opsiwn tair milltir), ond awn i'r chwith drwy ddreif a giât mochyn i’r cae.

Nid oes llwybr penodol yma ond dilynwn ymyl dde'r cae yr holl ffordd i'r pen draw. A dweud y gwir, mae'n serth - ond cawn ein gwobrwyo yn y pen draw gan olygfeydd gwych ar draws Bae Caerfyrddin i Benrhyn Gŵyr ac, ar ddiwrnod clir, Arfordir Gogledd Dyfnaint yn y pellter

I Lansteffan

Ewch drwy giât a thrwy ddau gae arall i gyrraedd lôn wledig. Trowch i'r dde yma a, phan gyrhaeddwch gyffordd, croeswch draw i fynd i lawr yr Hen Ffordd i Lansteffan – anwybyddwch y ffordd lle gallwch weld arwydd "Llansteffan".

Mae Llansteffan yn hen bentref bach hyfryd ac mae'n hawdd ei ddychmygu fel ydoedd, bron yn hunangynhaliol, gyda nifer o siopau, crefftwyr i ddiwallu pob angen, melin ŷd, melinau gwlân, a chwmni lleol gyda fflyd o lorïau a bysiau.

Mae yno dafarndai a chaffis diddorol o hyd, ac mae siop y pentref yn gweini coffi, yn pobi ei bara ei hun, a hyd yn oed yn cynnwys bar trwyddedig yn y cefn!

Mae gan Eglwys Sant Ystyffan yn Llansteffan etifeddiaeth hynafol ac mae'n werth ymweld â hi.

Nawr, trown yn ôl i'r traeth i lawr llwybr tarmac wrth giât mochyn cyn parhau naill ai ar hyd y tywod neu ar y llwybr y tu ôl i'r twyni bach.

Glowyr a chasglwyr cocos

Anodd yw dychmygu traeth heddychlon heddiw dan ei sang â thwristiaid, ond dyna sut yr arferai fod – yn enwedig yn ystod pythefnos y glowyr, pan fyddai'r lle'n llawn o lowyr a'u teuluoedd ar eu gwyliau blynyddol. Erbyn heddiw rydym yn fwy tebygol o ddod ar draws casglwyr cocos ar y traeth, yn cynaeafu cynnyrch lleol pwysig.

Uchafbwyntiau’r daith gerdded

Meddai Nigel Nicholas, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru: "Mae gan Lansteffan draeth hyfryd sy’n dawel iawn fel arfer. Ac er bod ambell ddringfa serth ar y daith gerdded hon, mae digonedd i wobrwyo eich ymdrechion gyda thro o amgylch Castell Llansteffan a golygfeydd gwych o'r arfordir a chefn gwlad. Mae canol Llansteffan wedi cadw naws hen bentref."

Angen gwybod

Mae toiledau cyhoeddus ym mhrif faes parcio'r traeth. Mae opsiynau bwyd a diod ar gael yn y pentref, ac, yn ystod tymor y gwyliau, ger y traeth hefyd.

Map

Lawrlwythwch map cylchteithiau cerdded Llansteffan (JPEG, 2.18MB)