Cydweli i Borth Tywyn

O gastell arswydus, heibio i forfeydd heli a thrwy goedwig i draeth cwbl odidog

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Cychwyn a gorffen

Dechrau yng Nghydweli a gorffen ym Mhorth Tywyn.

Pellter

10 milltir / 16 cilometr.

Ar hyd y ffordd

Dechreuwn y daith gerdded hon wrth gastell sydd cystal ag unrhyw un o gestyll gorau Cymru, sef caer ganoloesol ysblennydd ac arswydus Castell Cydweli.

Yn codi uwchben afon Gwendraeth ar fore niwlog mae'n dipyn o olygfa. Ond yn filwrol, buasai bron yn amhosibl ei gipio.

Fe’i hadeiladwyd o bren yn wreiddiol gan y Normaniaid, a bu dan ymosodiad cyson gan dywysogion Cymru ac, yn enwocaf oll, gan y Dywysoges Gwenllian a gafodd ei chipio a'i dienyddio. Gwnaed ymosodiad mwy llwyddiannus gan yr Arglwydd Rhys, a'i cipiodd ym 1159.

Ond adenillodd y Normaniaid reolaeth arno a chreu'r "castell o fewn castell" carreg a welwn heddiw. Hyd yn oed pe torrid yr amddiffynfeydd allanol, buasai’r ward fewnol wedyn yn wynebu'r Cymry a ymosodai. Ni fyddai unrhyw ffordd ymlaen, nac unman i gysgodi na chuddio rhag y creigiau a'r saethau yn bwrw i lawr oddi uchod.

Camlas, morfa heli a choedwig

Wrth symud allan o Gydweli cyrhaeddwn ddarn dymunol ar ochr y gamlas. Adeiladwyd y gamlas hon yn y 1760au i gludo glo o'r pyllau yn uwch i fyny cwm Gwendraeth i'r porthladd yng Nghydweli, sef ail borthladd prysuraf de Cymru ar y pryd.

Ar ôl darn byr ar ochr y ffordd rydym yn cyrraedd cyrion morfa heli moryd Gwendraeth, ac awn heibio i’r maes awyr bach cyn cyrraedd coedwig Pen-bre.

Mae'r filltir nesaf yn rhodfa deg hyfryd drwy binwydd tal nes i ni gyrraedd yr ehangder maith o dywod yn nhraeth bendigedig Cefn Sidan. Mae’r traeth yn wyth milltir o hyd, ac ymddengys yn ddi-ben-draw. Hefyd, dywedir yn aml ei fod ymhlith y goreuon yn Ewrop.

Gorffennol tywyll traeth trawiadol

Ond mae ganddo orffennol tywyll a thrasig, fel y dengys asennau rhai hen longau sy'n ymwthio o'r tywod. Wedi'u gyrru gan y prifwynt i’r banciau tywod a dyfroedd bas y bae, byddai llawer o longddrylliadau yma.

Byddai eraill yn cael eu hudo'n fwriadol gan oleuadau ar y lan gan bobl leol, a elwid unwaith yn "Ŵyr y Bwyelli Bach" ar ôl y bwyelli unigryw a ddefnyddient i ysbeilio llongddrylliadau. Yn ôl rhai, efallai y’u defnyddid hefyd i ladd unrhyw oroeswyr.

Un nodedig a gafodd ei llongddryllio yma ym 1828 oedd nith 12 oed Napoleon Bonaparte, Adeline Coquelin, a'i mam oedd chwaer Josephine. Fe’i claddwyd yn Eglwys Sant Illtyd ym Mhen-bre ac mae plac yno’n coffáu ei marwolaeth.

Parc gwledig poblogaidd

Ar ôl rhyw ddwy filltir a hanner ar hyd y traeth gwych hwn trown tua’r tir a chyrraedd Parc Gwledig Pen-bre. Dyma wrthgyferbyniad llwyr i’r tawelwch a gawsom hyd yma ar y daith gerdded hon, gan fod y cyfleusterau sydd ar gael yn sicrhau bod y parc yn brysur am ran helaeth o'r flwyddyn. Mae’n cynnig golff gwallgof, toboganio, sgïo a llawer mwy, felly mae bob amser yn boblogaidd ymhlith pobl leol ac ymwelwyr.

Mae hefyd yn bosibl osgoi'r parc drwy aros ar y traeth am ychydig dros hanner milltir a throi tua’r tir drwy Dwyni Tywod Pen-bre

Trawsnewidiad llwyr

Ymunwn yn awr â Pharc Arfordirol y Mileniwm sydd wedi trawsnewid 1,000 erw o ddiffeithdra diwydiannol 12 milltir o hyd ar lan ogleddol Aber Llwchwr yn gasgliad o atyniadau, cynefinoedd bywyd gwyllt a chyfleusterau hamdden.

Awn heibio hefyd i Gwrs Golff Ashburnham, un o'r meysydd golff gorau yng Nghymru. 

I Borth Tywyn

O'r fan hon mae'n hollol ddidrafferth cyrraedd Porth Tywyn. Cafodd y dref ei 15 munud o enwogrwydd ym 1928 pan ddaeth Amelia Earhart y fenyw gyntaf i hedfan yr Iwerydd a glanio yma. Yn ôl pob sôn, y person cyntaf y siaradodd ag ef oedd pysgotwr a oedd yn llawer mwy cyfforddus yn ei Gymraeg brodorol ac nad allai ei deall hi’n siarad oherwydd ei hacen Americanaidd.

Mae plac i goffáu ei chyflawniad wrth yr orsaf bad achub. 

Mae ffurf ryfedd o fyrdew goleudy Porth Tywyn yn dirnod lleol annwyl ac mae taith gerdded o amgylch y marina yn ffordd bleserus o goroni’r diwrnod, gyda'r cychod hwylio wedi’u hangori a golygfeydd gogoneddus ar draws y bae i Benrhyn Gŵyr.

Uchafbwyntiau’r daith gerdded

Meddai Nigel Nicholas, swyddog Llwybr Arfordir Cymru: "Mae'r daith gerdded hon yn cynnig dau brofiad gwrthgyferbyniol iawn. Mae’r rhyw wyth milltir gyntaf yn cynnig unigrwydd pur bron am ran helaeth o'r ffordd ac mae'r traeth yng Nghefn Sidan yr un mor syfrdanol. Daw’n brysurach o Barc Gwledig Pen-bre ymlaen ond nid yw'n waeth am hynny, gan fod golygfeydd gogoneddus i fyny aber Llwchwr ac ar draws y dŵr tuag at Benrhyn Gŵyr yn parhau."

Angen gwybod

Mae pob cyfleuster ar gael yng Nghydweli a Phorth Tywyn ac mae toiledau a mannau gwerthu bwyd ym Mharc Gwledig Pen-bre hefyd.

Mae lleoedd parcio ceir ar gael yn nau ben y daith gerdded ac mae gwasanaethau trên a bws rheolaidd yn gwneud hwn yn llwybr hawdd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus arno

Map

Lawrlwythwch map taith cerdded Cyweldi i Porth Tywyn (JPEG, 2.86MB)