Trwyn y Fuwch

Mwynhewch y golygfeydd godidog o Ynys Môn a Llandudno o ben Trwyn y Fuwch

Paddy Dillon

Nodwch y dudalen hon
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Mae’r daith gerdded fer hon o Fae Penrhyn yn gylchdaith o amgylch Trwyn y Fuwch, sy'n cynnwys hen chwareli calchfaen, rhan o Lwybr Arfordir Cymru, a thaith ddewisol i'r copa. Efallai y bydd morloi i'w gweld ym Mhorth Dyniewaid. Yn y gwanwyn a’r haf, mae blodau gwyllt lliwgar i'w gweld yng Ngwarchodfa Natur Rhiwledyn.

Manylion y llwybr

Pellter: 2.5 milltir neu 4 cilomedr
Man cychwyn: Cylchfan Bae Penrhyn
Cyfeirnod grid y man cychwyn: SH 81728 81624
Disgrifiad what3words y man cychwyn: gallech.pibau.gwallt

Trafnidiaeth i'r man cychwyn

Parcio
Parcio cyfyngedig ym Mae Penrhyn.

Bysiau
Gwasanaethau bws dyddiol i Fae Penrhyn o Landudno, Bae Colwyn a'r Rhyl.

Trenau
Nid oes trenau, ond dim ond taith fer yw hi ar y bws o orsafoedd cyfagos Bae Colwyn a Llandudno.

Map a dolen GPX

Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX 'Trwyn y Fuwch'

Disgrifiad Manwl o’r Llwybr

1. Cychwynnwch wrth y gylchfan fawr ym Mae Penrhyn, lle mae cerbytffordd ddeuol brysur y B5115 yn rhedeg i Landudno. Cychwynnwch ar yr un ochr ag archfarchnad y Co-op, a dilynwch y palmant heibio i arddangosfeydd Conwy Valley Windows and Conservatories. Cychwynnwch gerdded i fyny'r allt ar hyd y ffordd brysur, ond trowch i'r dde yn fuan ar hyd ffordd drol. Mae'r ffordd hon wedi'i nodi'n breifat, ond wedi'i harwyddo fel llwybr cyhoeddus hefyd. Mae tai i'r dde a llethr coediog i'r chwith yn codi tuag at Fynydd Penygarreg. Bydd wyneb y ffordd yn newid i darmac ac yn pasio rhwng y tai, cyn dod i ben yn sydyn.

2. Ewch drwy giât mochyn a dilynwch lwybr cul gyda llwyni a mieri o boptu iddo, cyn ymuno'n fuan â llwybr tarmac llydan. Dilynwch hwn yn syth ymlaen drwy ardal lle'r arferwyd cloddio am galchfaen ond sydd bellach yn hafan i fyd natur. Bydd y llwybr yn estyn yn raddol, cyn cyrraedd cyffordd lle byddwch yn ymuno â Llwybr Arfordir Cymru. Mae grisiau concrit yn arwain at y llwybr o stad o dai ym Mae Penrhyn.

3. Ewch yn syth yn eich blaen a gwelwch fod y llwybr yn gwyro i'r chwith, a'r tarmac bellach yn llwybr graean. Wrth gyffordd, bydd postyn marcio yn nodi i chi droi i'r chwith er mwyn dilyn Llwybr Arfordir Cymru, ac yn ddiweddarach byddwch yn cyrraedd hen arwyddbost a fydd yn nodi troad arall i'r chwith. Ond mae croeso i chi fynd yn syth yn eich blaen er mwyn cyrraedd hysbysfwrdd Porth Dyniewaid a mynd yn ôl y ffordd y daethoch. Mae’r traeth ymhell islaw yn fan gorffwys i forloi, felly cofiwch fod yn dawel wrth eu harsylwi a pheidio eu haflonyddu.

4. O’r hen arwyddbost, bydd Llwybr Arfordir Cymru yn eich arwain i fyny llwybr serth, glaswelltog a fu unwaith yn inclein ble byddai tryciau’n cael eu tynnu i fyny ac i lawr ar gledrau. Pan fyddwch wedi cyrraedd y brig, ewch drwy giât mochyn ble byddwch yn gweld olion weindio hen chwarel. Trowch i'r chwith a dilynwch y llwybr trwy lwyni, gan droi i'r dde fel y nodir i fyny ychydig o risiau cerrig. Parhewch i ddringo ac ewch i fyny ychydig mwy o risiau cerrig, cyn troi i'r chwith fel y nodir oddi wrth ymyl y chwarel. Mae'r llwybr yn codi rhwng llwyni, ac yna'n rhedeg i lawr yr allt, gan fynd trwy groesffordd fel y'i nodir. Cerddwch i lawr rhwng y llwyni a byddwch yn cyrraedd giât mochyn lle mae opsiwn i ymweld â chopa Trwyn y Fuwch.

5. I ymweld â’r copa, peidiwch â mynd drwy’r giât mochyn. Yn hytrach, parhewch i fynd i'r dde a dilynwch lwybr glaswelltog ysgafn sy’n ymdroelli wrth iddo ddringo i osgoi brigiadau creigiog. Bydd y llwybr hwn yn eich arwain at bwynt tirfesur copa Trwyn y Fuwch, ond cofiwch wneud nodyn o'r ffordd y daethoch gan y bydd angen mynd yn ôl ar hyd yr un llwybr. Mae'r golygfeydd yn ymestyn o Fae Colwyn a Bryniau Clwyd i'r Carneddau, Ynys Môn, Llandudno a'r Gogarth. Ar ddiwrnodau clir efallai y bydd modd gweld Ynys Manaw, Cumbria a Swydd Gaerhirfryn. Cerddwch yn ôl i lawr at y giât mochyn ac ewch drwyddi er mwyn parhau i lawr y rhiw.

6. Bydd hysbysfwrdd i'w weld ar gyfer Gwarchodfa Natur Rhiwledyn, ac un o’r uchafbwyntiau yw llethr serth sy’n llawn blodau gwylltion yn y gwanwyn a’r haf. Bydd y llwybr yn mynd â chi trwy lwyni, yna'n disgyn yn serth ar lethr agored hyd nes i chi ddod at giât mochyn a fydd yn eich arwain at ffordd brysur y B5115. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn troi i’r dde er mwyn dilyn y ffordd i lawr i Landudno, ond mae ein llwybr ni yn troi i’r chwith. Cerddwch ar hyd y palmant gyferbyn â'r ffordd fawr, gan droi i'r chwith eto ar hyd ffordd darmac gul sydd wedi'i nodi fel dreif breifat i Dŷ Ucha. Gwasgwch heibio'r tŷ a cherdded i lawr llwybr gyda llwyni o boptu iddo. Ewch drwy giât mochyn ar y gwaelod a byddwch yn ôl ar ffordd darmac a ddilynoch yn gynharach yn y dydd. Trowch i'r dde i ddilyn ffordd drol yn ôl tuag at ffordd brysur y B5115, gan droi i'r chwith er mwyn gorffen yng nghylchfan fawr Bae Penrhyn unwaith eto.