Hen Golwyn a Llanddulas

Taith gerdded fewndirol hawdd sy’n mynd trwy warchodfa natur leol y Glyn

Paddy Dillon

Nodwch y dudalen hon
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Taith gerdded o Hen Golwyn, gan ddilyn Llwybr Gogledd Cymru drwy’r Glyn. Bydd y llwybr yn eich arwain trwy gaeau a choetiroedd tuag at Lysfaen, cyn dod i lawr trwy ddyffryn dwfn i Landdulas. Dilynir darn hawdd o Lwybr Arfordir Cymru yn ôl i Hen Golwyn.

Manylion y llwybr

Pellter: 7.6 milltir neu 12.2 cilomedr
Man cychwyn: Maes parcio Ffordd Victoria, Hen Golwyn
Cyfeirnod grid y man cychwyn: SH 86685 78363
Disgrifiad what3words y man cychwyn: adnabyddaf.mesuro.sodlau

Trafnidiaeth i'r man cychwyn

Parcio
Parcio ym maes parcio Ffordd Victoria yn Hen Golwyn. Maes parcio arfordirol ger Llanddulas.

Bysiau
Gwasanaethau bws dyddiol i Hen Golwyn a Llanddulas o Fae Colwyn, Llandudno a'r Rhyl.

Trenau
Mae Gorsaf Drenau Bae Colwyn 2.2 km / 1.3 milltir o Hen Golwyn ar hyd y promenâd. Mae gwasanaethau trên dyddiol Arfordir Gogledd Cymru yn cysylltu Bae Colwyn â gorsafoedd arfordirol rhwng Caer a Chaergybi.

Map a dolen GPX

Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX 'Hen Golwyn a Llanddulas'

Disgrifiad Manwl o’r Llwybr

1. Cychwynnwch eich taith yn Hen Golwyn ym maes parcio Ffordd Victoria, sy’n agos at arosfannau bysiau sy'n cynnig gwasanaethau bws rheolaidd ar hyd Ffordd Abergele. Croeswch y ffordd tuag at y Plough Inn, yna dilynwch y ffordd i ganol y pentref. Byddwch yn sylwi ar reiliau glas ar hyd y ffordd wrth iddi groesi Afon Colwyn. Trowch i'r dde i lawr y grisiau cerrig a dilynwch y llwybr palmantog o frics i fyny'r afon, gan fynd heibio rhes o fythynnod. Mae'r llwybr hwn yn rhan o Lwybr Gogledd Cymru, felly cadwch olwg am arwyddbyst a chyfeirbwyntiau ar hyd y ffordd.

2. Trowch i'r chwith, gan ddilyn yr arwyddbost i fyny llwybr tarmac a rhesiad o risiau, gan adael glan yr afon. Croeswch ffordd gul o'r enw Mill Drive a throwch i'r dde yn syth, gan ddilyn y ffordd o'r enw ‘Fairy Glen’, gan fynd heibio i fythynnod carreg. Bydd y ffordd yn ildio i lwybr tarmac sy'n arwain i goetir hynafol a Gwarchodfa Natur y Glyn. Peidiwch â chroesi'r bont droed dros Afon Colwyn. Yn hytrach, trowch i'r chwith, gan ddilyn llwybr graean i fyny'r afon trwy'r coed. Bydd yr ardal yn llawn craf y geifr a chlychau'r gog yn y gwanwyn.

3. Ymunwch â llwybr tarmac arall, gan droi i'r dde a chadw'n agos at sianel gul hen felin, cyn cyrraedd cored a phont droed sy'n croesi'r afon. Peidiwch â chroesi’r bont droed. Yn hytrach, dilynwch y llwybr ymhellach i fyny’r afon, cyn cyrraedd hysbysfwrdd a Ffordd Coed Coch. Trowch i'r dde ar hyd y ffordd hon a dilynwch y palmant heibio ychydig o dai, yna trowch i'r chwith, gan ddilyn yr arwyddbost rhwng y tai, ar hyd llwybr byr. Bydd y llwybr hwn yn eich arwain at giât mochyn wrth gwrs golff. Trowch i'r dde, gan ddilyn llwybr sy'n rhedeg islaw'r cwrs golff, ac yna trowch i'r chwith i fyny'r allt, gan ymuno â ffordd wrth arwyddbost.

4. Trowch i'r chwith i fyny'r ffordd, ac yna trowch i'r dde yn syth i fyny'r trac. Cymerwch droad arall sydyn i'r chwith trwy borth i ran arall o'r cwrs golff. Cadwch at ochr chwith y cwrs a dilynwch wrych o lwyn eithin i fyny'r allt yn raddol cyn cyrraedd arwyddbost a giât mochyn. Ewch drwy'r giât a throwch i'r chwith i fyny'r trac sydd â gwrychoedd o boptu iddo. Trowch i'r dde, gan ddilyn yr arwyddbost drwy giât mochyn ger giât fawr, yna cerddwch i lawr yr allt wrth ymyl cae. Trowch i'r chwith, gan ddilyn yr arwyddbost yn y gwaelod, ac ewch drwy giât mochyn fel y nodir i mewn i gae arall. Cerddwch yn syth yn eich blaen, gan godi a disgyn ychydig, cyn cyrraedd ymyl coedwig. Edrychwch yn ofalus am lwybr a fydd yn mynd â chi i mewn i'r coetir a chadwch olwg am byst marcio ar hyd y ffordd. (Mae angen gosod postyn marcio yma sy’n dangos sut i fynd o’r cae i’r coetir, gan nad yw’n amlwg.)

5. Ewch drwy giât mochyn er mwyn gadael y coetir a cherddwch yn groeslinol i'r chwith i fyny'r allt, ar draws cae, er mwyn dod o hyd i giât mochyn arall. Ewch i mewn i goedwig arall a dilynwch y llwybr i fyny'r allt. Gadewch y goedwig a chroeswch gae arall, gan gerdded yn groeslinol i'r chwith i fyny'r allt unwaith eto, er mwyn dod o hyd i arwyddbost a llwybr coetir arall. Cerddwch i lawr trwy'r goedwig, trwy giât mochyn, i groesi nant fechan, yna ewch trwy giât mochyn arall ac ymuno â thrac a fydd yn eich arwain i fyny'r allt. Ewch drwy ddwy giât fechan ar fferm fel y nodir ac yna dilynwch ffordd darmac i fyny'r allt. Parhewch ar hyd ffordd drol heibio ychydig o dai, yna trowch i'r dde, gan ddilyn yr arwyddbost ar hyd ffordd darmac Bwlch-y-gwynt.

6. Ewch heibio i dai yn anheddiad gwasgaredig Llysfaen, gan barhau i fynd yn eich blaen yn y gyffordd, cyn cyrraedd cyffordd arall ar Ffordd Dolwen, lle mae lloches bws. (Gwasanaeth bws dyddiol, ac eithrio dydd Sul, i Fae Colwyn, Llandudno a Chonwy.) Trowch i'r dde a dilyn y ffordd i fyny heibio Capel y Bedyddwyr, Tabor, yna trowch i'r dde wrth gyffordd drionglog er mwyn dilyn ffordd darmac dameidiog heibio ychydig o dai. Gwelwch fod trac yn parhau i lawr yr allt, ond trowch chi i'r chwith drwy giât mochyn.

7. Dilynwch wal gerrig ar hyd bryn o galchfaen, cyn troi i'r chwith drwy giât mochyn ger giât fawr. Trowch i'r dde, gan ddilyn trac ar gyfer Tŷ Canol â ffensys bob ochr iddo. Cyn cyrraedd y tŷ, ewch drwy giât mochyn ar y dde yna trowch i’r chwith i barhau ar hyd llwybr glaswelltog, gan ddilyn wal gerrig a phasio casgliad o gartrefi symudol. Ewch drwy giât mochyn arall i gyrraedd arwyddbost tair ffordd, a throwch i'r dde, gan gerdded i lawr yr allt am ychydig. Cyn bo hir, bydd y llwybr yn troi i’r chwith, gan godi a lefelu, a bydd yn mynd â chi rhwng llwyni o eithin a mieri ac yn eich arwain at giât mochyn arall.

8. Trowch i'r dde i lawr y trac tan y bydd yn gwyro i'r dde. Ond yn hytrach na throi i'r dde, trowch chi i'r chwith, gan ddilyn yr arwyddbost trwy giât mochyn. Dilynwch lwybr glaswelltog, gan droi i'r chwith wrth bostyn marcio, yna cerddwch i fyny'r allt drwy giât mochyn a pharhau ychydig ymhellach i fyny'r allt wedyn. Bydd y llwybr yn gwastatáu ac yn plethu rhwng ardaloedd o laswellt, rhedyn a phrysgwydd trwchus, ac yn eich arwain trwy giât mochyn arall. Bydd y llwybr yn hollti, felly cadwch i'r dde a cherdded trwy ardal o redyn. Byddwch yn cyrraedd arwyddbost sy'n agos at fryn crwn gydag wyneb creigiog, o'r enw Craig y Forwyn. Edrychwch i lawr trwy ddyffryn dwfn i weld y môr y tu hwnt.

9. Cerddwch i lawr llwybr cul, glaswelltog trwy redyn, gan fynd heibio i lethrau sgri o galchfaen ac yna coetir cyn mynd drwy giât. Bydd y llwybr yn gwastatáu'n ddiweddarach mewn coetir trwchus, ble bydd yn eich arwain trwy ychydig o hafnau yn y creigiau. Croeswch ffordd gul a chamfa risiog cyn parhau i lawr llwybr cul trwy lwyni mieri. Croeswch gamfa risiog arall a pharhewch yn eich blaen yn raddol i lawr drwy gae. Ewch drwy giât mochyn a cherdded i lawr drwy gae gerllaw tai. Bydd giât mochyn arall yn arwain at ffordd darmac fer. Peidiwch â dilyn y ffordd hon. Yn hytrach, dilynwch y llwybr sy'n gyfochrog â'r ffordd hon, ychydig y tu ôl i ffens. Bydd y llwybr cul yn eich arwain rhwng tai er mwyn cyrraedd tafarn The Valentine Inn ar Stryd y Felin ar gyrion Llanddulas. (Bysiau dyddiol rheolaidd i'r Rhyl, Bae Colwyn a Llandudno.) Fe welwch fod hanes y dafarn ar y wal.

10. Mae Llwybr Gogledd Cymru yn croesi Stryd y Felin ac yn troi i'r dde er mwyn dilyn y palmant tuag at gyffordd gyfagos, ac yna'n troi i'r chwith i lawr Beach Road. Fodd bynnag, mae'n werth nodi y gallwch ymweld ag Eglwys Sant Cynbryd yn gyntaf. Adeiladwyd yr eglwys hon ym 1868, ond mae eglwys wedi bod ar y safle ers y drydedd ganrif ar ddeg o leiaf. Caiff rhan o’r fynwent ei rheoli fel hafan ar gyfer bywyd gwyllt, sydd wedi ennill Gwobr y Faner Werdd, ac wrth gerdded drwy’r fynwent gallwch ddilyn llwybr byrrach tuag at Beach Road.

11. Dilynwch Beach Road i lawr yr allt yn raddol ar hyd Afon Dulas. Nid oes angen cerdded ar hyd y ffordd yr holl ffordd gan fod llwybrau yn rhedeg gyferbyn â'r afon. Ewch o dan ffordd brysur yr A55 a thraphont y rheilffordd, yna trowch i'r chwith, gan ymuno â Llwybr Arfordir Cymru, heibio i Hen Dŷ’r Bad Achub, y toiledau a'r maes parcio. Mae llwybr yr arfordir yn llwybr troed ac yn llwybr beicio tarmac, felly cadwch olwg am feicwyr a cherddwch ar yr ochr dde, sydd agosaf at y traeth. Mae'r golygfeydd yn ymestyn o'r Rhyl ac Ochr y Bryn, Prestatyn, tuag at Ben y Gogarth.

12. Mae'r arfordir wedi'i gysgodi gan graig i ddechrau, yna bydd y llwybr yn esgyn yn serth am ychydig, gan groesi gorlifan goncrit, cyn eich arwain yn ôl i lawr yr allt. Fe welwch domenni cymysg o flociau concrit o’r enw ‘dolos’, oddeutu 20,000 i gyd, sy'n pwyso 5 tunnell yr un, a phob un wedi'i arysgrifio â rhif. Eu swyddogaeth yw amddiffyn yr arfordir rhag erydiad. Bydd y llwybr yn esgyn eto er mwyn croesi cludfelt yng Nglanfa Raynes, lle caiff calchfaen sydd wedi'i gloddio ei lwytho ar longau. Bydd y llwybr yn esgyn eto, gan eich arwain heibio i chwarel Penmaen. Wrth fynd heibio, bydd dargyfeiriad byr yn eich arwain at y Bont Enfys hyfryd, sy'n edrych dros ffordd brysur yr A55.

13. Bydd Llwybr Arfordir Cymru yn eich arwain yn ôl at y traeth, sydd dan gysgod creigiau, unwaith eto, a bydd y ffordd darmac yn ildio i wal fôr goncrid hŷn, cyn i chi gyrraedd traphont reilffordd chwe bwa. Mae'n bosib dilyn y promenâd, a adnewyddwyd yn ddiweddar, i Fae Colwyn. Ond er mwyn dychwelyd i Hen Golwyn, cerddwch o dan y draphont, ac yna ffordd yr A55. Bydd arwyddbost yn eich arwain ar hyd Llwybr Gogledd Cymru ar draws ffordd, lle bydd llwybr tarmac yn mynd â chi ar hyd glan yr afon trwy Warchodfa Natur Leol y Glyn.

14. Cerddwch ar hyd yr afon, ond nodwch fod llwybrau eraill hefyd ar gael drwy Erddi Tan-y-coed. Wedi i chi fynd heibio i dŷ o'r enw Glanaber, cadwch olwg am adeilad tebyg i gastell, sef yr hyn sydd yn weddill o hen blasty Tan-y-coed. Bydd llwybr yr afon yn eich arwain o dan adeiladau yn Hen Golwyn, a’r cyfan sydd angen i chi ei wneud nawr yw troi i'r chwith, gan fynd i fyny'r grisiau a ddefnyddioch yn gynharach yn y dydd, a throi i’r chwith eto er mwyn dychwelyd i faes parcio neu arosfannau bysiau Ffordd Victoria.