Ystumllwynarth a Phen y Mwmbwls

Mwynhewch yr olygfa o’r môr o lwybr ar hyd y clogwyni a phromenâd hawdd gyda’r opsiwn i ymweld â goleudy Pen y Mwmbwls

Paddy Dillon

Nodwch y dudalen hon
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Mae’r daith gerdded hon o’r Mwmbwls yn ymweld â Chastell Ystumllwynarth a llond llaw o fannau gwyrdd yn y maestrefi. Mae’r daith gerdded yn cysylltu â Llwybr Arfordir Cymru, gan ddefnyddio llwybr clogwyn a thaith gerdded hawdd ar hyd y promenâd i ddychwelyd i’r Mwmbwls. Os yw’r llanw ar drai, gellir ymestyn y daith gerdded o Bier y Mwmbwls ar hyd traeth garw i ymweld â Phen y Mwmbwls, lle mae ynys fechan wedi’i choroni â goleudy.

Manylion y llwybr

Pellter: 4.7 neu 5.4 milltir neu 7.6 neu 8.7 cilomedr
Man cychwyn: Maes parcio’r Llaethdy (Dairy Car Park), Y Mwmbwls
Cyfeirnod grid y man cychwyn: SS 61582 88244
Disgrifiad what3words y man cychwyn: efelychu.gwefus.technegwyr

Map a dolen GPX

Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Mae dau drac GPX ar gyfer y llwybr hwn: ‘Oystermouth' (Ystumllwynarth) yw’r opsiwn byrraf ac mae ‘Oystermouth Mumbles Head' (Ystumllwynarth Pen y Mwmbwls) yn opsiwn hirach sy’n dibynnu ar fod y llanw ar drai. Dangosir y llwybr estynedig ar y map gan linell ddotiog.

Trafnidiaeth i’r man cychwyn

Parcio
Parcio yn y Mwmbwls, ym maes parcio’r Llaethdy ger Ystumllwynarth.

Bysiau
Mae gwasanaethau bws dyddiol yn cysylltu’r Mwmbwls ag Abertawe.

Trenau
Dim.

Disgrifiad Manwl o’r Llwybr

1. Dechreuwch ym maes parcio’r Llaethdy ar y promenâd yn y Mwmbwls, neu dechreuwch o’r safleoedd bws cyfagos ar Mumbles Road neu Newton Road. Os ydych yn cychwyn o’r maes parcio, croeswch y ffordd ger cylchfan fach i gyrraedd Greggs a throwch i’r dde i gerdded ar hyd y palmant. Yn union ar ôl i’r tai orffen, mae wal wedi’i gorchuddio ag iorwg yn amgáu coetir. Mae cylchoedd mawr ‘30’ wedi’u paentio ar y ffordd ac yn y fan honno mae giât yn rhoi mynediad i’r coetir. (Gallech ddilyn Llwybr Arfordir Cymru ar hyd y promenâd o’r maes parcio i’r man hwn, ond mae’r ffordd yn brysur a does dim croesfan i gerddwyr gerllaw.)

2. Dilynwch lwybr i mewn i’r coetir a throwch i’r chwith i fyny rhes o 37 o risiau pren. Trowch i’r chwith ar hyd llwybr gwastad ar y brig, sy’n arwain yn fuan allan o’r goedwig i gael golygfa o Gastell Ystumllwynarth. Trowch i’r chwith i gerdded yn raddol i lawr llwybr ac yna troi i’r dde i gerdded i fyny at giât y castell, lle mae hysbysfyrddau yn cynnig gwybodaeth am yr adeiledd. Adeiladwyd tŵr amddiffynnol yn Eglwys yr Holl Saint gerllaw, ychydig cyn Castell Ystumllwynarth, ac mae’r ddau yn dyddio o ddechrau’r 13eg ganrif. Ar ôl mynd yn adfail, cafodd y castell ei adfer yn y 1840au gan Ddug Beaufort ac ym 1927 fe’i rhoddwyd i Gorfforaeth Abertawe a’i agor i’r cyhoedd.

3. Gan wynebu’r giât, trowch i’r dde i ddilyn llwybr islaw muriau’r castell a chadwch i’r chwith i fynd i mewn i goetir. Dilynwch lwybr i lawr y bryn ac ewch rhwng Perllan Gymunedol y Mwmbwls (ar y chwith) a Rhandiroedd Cae Norton Uchaf (ar y dde). Osgowch y llwybr sy’n rhedeg rhwng y tai ac, yn lle hynny, trowch i’r chwith i fyny llwybr rhwng gerddi cefn y tai a Rhandiroedd Acre Field. Cerddwch yn syth i fyny ffordd fer a throwch i’r dde ar hyd Castle Road. Pan ddaw’r palmant i ben, croeswch y ffordd a dilynwch balmant arall i lawr y bryn.

4. Cyrhaeddwch groesffordd ger y Beaufort Arms a throwch i’r chwith i fyny Glen Road. Mae hen dai carreg ar y chwith yn wynebu tai brics modern ar y dde, ac mae’r ffordd yn culhau wrth ddringo. Trowch i’r chwith i fyny heol gul Prospect Terrace, sydd wedi’i harwyddo fel llwybr troed. Mae stribedi tebyg o goncrit yn ildio i lwybr sy’n dringo’n serth gyda wal galchfaen wrth ei ochr. Mae’r llwybr yn culhau ar lethr coediog i fynd heibio i dai, gan gyrraedd ffordd ar y brig. Trowch i’r chwith ar hyd y ffordd, sy’n dod i ben yn fuan, ac mae llwybr tarmac yn parhau i lawr y bryn trwy fynwent ddeniadol Ystumllwynarth, gan fynd heibio i bedair coeden binwydd odidog. Trowch i’r chwith ar gyffordd o lwybrau tarmac, a phan gyrhaeddir ffordd cadwch yn syth ymlaen a’i dilyn i lawr y bryn trwy ddyffryn coediog lle gellir gweld brigiadau creigiog. Ewch heibio i Swyddfa’r Fynwent a cherdded heibio i bileri giât garreg.

5. Trowch i’r chwith ar hyd Newton Road a cherdded ar hyd y palmant, gan droi i’r dde ar y cyfle cyntaf i ddilyn llwybr tarmac heibio i gae chwaraeon. Ewch ymlaen y tu ôl i’r adeiladau chwaraeon, sy’n cynnwys caffi, a pharhau ar hyd llwybr tarmac trwy goetir. Trowch i’r chwith i fyny rhes o 63 o risiau concrit ar y llethr coediog a throwch i’r dde i fyny Langland Road. Croeswch y ffordd o un lloches bysiau i’r llall trwy ddefnyddio croesfan i gerddwyr.

6. Mae ffyrdd yn rhedeg i bob cyfeiriad o gyffordd gymhleth, felly trowch i’r chwith i lawr Rotherslade Road, sy’n dod i ben ar draeth cerrig mân a thywod ym Mae Rotherslade, sydd wedi’i amgylchynu gan glogwyni bach a lle mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd heibio. Trowch i’r chwith i fynd o flaen caffi a dilynwch lwybr concrit i fyny’r bryn. Ewch heibio i arwyddbost arferol Llwybr Arfordir Cymru, ac yna arwydd rhyfedd wrth ymyl mainc bren wedi’i cherfio’n gywrain. Ewch heibio i arwyddbost arall wrth gerdded yn raddol i lawr y bryn.

7. Mae’r llwybr concrit yn ildio i lwybr tarmac, sy’n rhedeg hyd at arwyddbost tair ffordd sy’n cynnig llwybr tua’r tir i’r maestrefi cyfagos. Fodd bynnag, mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg yn raddol i lawr y bryn, i fyny’r bryn ac i lawr y bryn eto, ac mae ffens gadarn yn dechrau rhedeg wrth ei ochr. Dringwch ac ewch heibio i arwyddbost tair ffordd arall sy’n cynnig llwybr tua’r tir, ond daliwch i gerdded yn syth ymlaen, heb unrhyw arwydd o breswylfa. Dringwch yn serth ar adegau ac yna mae’r llwybr tarmac yn troi’n llwybr concrit sy’n troi o amgylch brigiad creigiog Rams Tor.

8. Mae’r llwybr yn disgyn a gellir gweld gorsaf wylio ar y pentir nesaf. Edrychwch yn ofalus i weld bod y darn hwn o lwybr wedi disodli llwybr cynharach a oedd yn rhedeg ar lefel is. Mae’r llwybr yn ymuno â Mumbles Road, a ddilynir o amgylch Bae Limeslade, gan fynd heibio i gaffi a thraeth bach o greigiau a cherrig mân. Dilynwch y ffordd yn raddol i fyny’r bryn i barc chwarae a llawer o feinciau. Cerddwch drwy faes parcio, gan gadw at ochr y môr i fwynhau golygfeydd o Fae Bracelet a Phen y Mwmbwls a’i oleudy bach. Ewch heibio i giosg hufen iâ Big Apple a chadwch i’r dde o’r ffordd, gan fynd i mewn i faes parcio llai. Ewch i lawr 60 o risiau concrit i gyrraedd Pier y Mwmbwls, lle mae estyniad dewisol i’r daith gerdded ar gael.

9. Trowch i’r dde i ymestyn y daith, ond sylwch fod yn rhaid bod y llanw ar drai. Mae rhediad o 18 o risiau concrit yn disgyn i draeth garw, lle mai wal goncrit wedi dymchwel yw’r cyfan sydd ar ôl o hen sarn a arweiniai heibio i un ynys fechan at ynys lle saif goleudy. Mae llwybr garw ar y traeth yn croesi cerrig mân rhydd a llithrig ac yna mae dringfa o 113 o risiau concrit i’r goleudy ar Ben y Mwmbwls. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y grisiau yn ôl i Bier y Mwmbwls cyn i’r traeth gael ei orchuddio gan y llanw.

10. Mae’r ffordd y tu hwnt i Bier y Mwmbwls yn cael ei defnyddio fel maes parcio llinellol ac mae llwybr concrit cul gyda rheilen wrth ei ymyl ar gael i gerddwyr ei ddilyn. Ar ôl mynd heibio i orsaf y bad achub, mae llinell wedi’i phaentio ar y ffordd yn nodi llwybr i gerddwyr. Yn ddiweddarach, gadewch y ffordd gan ddilyn arwyddbost mewn parc cychod i barhau ar hyd promenâd braf. Ewch heibio i lithrfa a bwyty, ac yn ddiweddarach ewch heibio i fwyty arall a gwesty. Mae’r promenâd yn arwain yn ôl at faes parcio’r Llaethdy yn y Mwmbwls, ac os oes amser i’w sbario, gellid ei ddilyn ymlaen, hyd yn oed yr holl ffordd i Abertawe.