Camlesi Bae Caerdydd, Caerdydd

Taith drefol heddychlon

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Decharau a Gorffen

Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd

Pellter

2 milltir neu 3 km 

Ar hyd y ffordd

Gan gychwyn wrth fynedfa Canolfan Mileniwm Cymru, sef canolfan gelfyddydau a theatr drawiadol Caerdydd gyda’i tho euraid, dilynwch Lwybr Arfordir Cymru o flaen Neuadd y Sir a cherddwch ar hyd ymyl y doc. Mae’r llongau a arferai angori yma pan oedd cyfnod diwydiannol Caerdydd ar ei anterth wedi hen fynd, ac yn eu lle ceir cwtieir, elyrch a gwyachod mawr copog yn nythu (yn ystod yr haf, cadwch lygad am weision y neidr a mursennod lliwgar hefyd).

Oddeutu hanner y ffordd i lawr y doc, trowch i’r chwith i archwilio rhwydwaith o gamlesi llai â phontydd yn eu croesi. Dyma le tawel braf i ddianc rhag miri a mwstwr y ddinas. Pan fyddwch yn barod i barhau â’ch taith, croeswch Ffordd Schooner i gerdded yn ôl at Ganolfan y Mileniwm ar ochr arall y doc, gan ailymuno â Llwybr Arfordir Cymru o flaen Neuadd y Sir.

Uchafbwyntiau'r daith  

Uchafbwyntiau Tricia Cottnam, swyddog Llwybr Arfordir Cymru:
"Ar y daith gerdded hon cewch rywfaint o dawelwch oddi mewn i ardaloedd trefol Caerdydd a’r Bae. Cewch gyfle i weld bywyd gwyllt hefyd – yn aml, mae gwyachod mawr copog ac adar dŵr eraill yn nythu o amgylch Glanfa’r Iwerydd ac ar hyd y camlesi. Mae’n hawdd anghofio eich bod yng nghanol dinas brysur".

Angen Gwybod

Mae digonedd o fannau parcio i’w cael ym Mae Caerdydd, ynghyd â chysylltiadau bws a thrên i ganol Caerdydd. O ran lluniaeth a thoiledau, ceir dewis enfawr o gaffis/tai bwyta, bariau a thafarnau ar y glannau.

Awydd mynd ymhellach?

Rhowch gynnig ar ein Taith ‘wahanol’ i deuluoed, Morglawdd Caerdydd trwy ddefnyddio ap Llwybr Arfordir Cymru. Gan ddefnyddio ffilm 3D, daw hanes y rhan fywiog hon o brifddinas Cymru yn fyw o flaen eich llygaid.

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig