Teithiau cerdded amlddydd

Teithiau cerdded amlddydd sy’n berffaith ar gyfer penwythnos hir o gerdded ar hyd arfordir Cymru

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Mae ein teithiau cerdded amlddydd yn berffaith ar gyfer penwythnos hir o grwydro’r llwybr.

Bydd y teithiau cerdded hyn yn rhoi blas ichi o’r hyn sydd gan Lwybr Arfordir Cymru i’w gynnig – profiad o gerdded cwbl unigryw ar hyd arfordir amrywiol a phrydferth Cymru, a chroeso cynnes Cymreig ar y ffordd. Gellir gwneud y teithiau hyn mewn 3 diwrnod, 2 ddiwrnod neu fel teithiau cerdded undydd – chi sy’n penderfynu!

Gwyliwch ein fideo isod i ddarganfod pam mae pobl wrth eu bodd yn cerdded llwybr arfordir Cymru

 

Arfordir Gogledd Cymru

Gan gerdded 25 milltir / 40 km, o’r Rhyl i Gonwy, byddwch yn mwynhau cyrchfannau traddodiadol ar lan y môr, pierau llawn hwyl, a thraethau tywodlyd hir ar y rhan hygyrch hon o’r llwybr. Lawrlwythwch PDF o'r daith amlddydd Arfordir Gogledd Cymru.

Ynys Môn

Mae 25 milltir / 42 km o forlin gwyllt a phrydferth yn aros amdanoch, gan ymestyn o’r Fali i Bont-rhyd-y-bont ar un o rannau mwyaf eiconig y llwybr cyfan. Lawrlwythwch PDF o'r daith amldydd Ynys Môn.

Pen Llŷn

Dyma gyfle ichi ymarfer eich coesau drwy gerdded 31 milltir / 49 km o’r rhan unigryw hon o’r llwybr, sy’n ymdroelli o Bwllheli i Aberdaron, sef pentref hardd ym mhen pellaf y penrhyn gwyllt a garw hwn.  Lawrlwythwch PDF o'r daith amldydd Pen Llŷn.

Arfordir Ceredigion

Mae’r rhan drawiadol ac amrywiol hon o’r llwybr yn enwog am ei chlogwyni dramatig, ei golygfeydd syfrdanol, ac am fod yn fan gwych i weld dolffiniaid. Paratowch eich esgidiau cerdded er mwyn ichi gael darganfod y llwybr rhwng y Borth ac Aberaeron (24 milltir / 38km). Lawrlwythwch PDF o’r daith amlddydd Arfordir Ceredigion.

Sir Benfro i Sir Gaerfyrddin

Dyma un o rannau mwyaf eiconig a phoblogaidd y llwybr, sy’n cynnig popeth, o olygfeydd o’r arfordir gwyllt ym Maenorbŷr yn ne Sir Benfro, ynghyd â thraethau tywodlyd hir, i draethau euraidd eang Pentywyn yn sir gyfagos Caerfyrddin.  Bydd y rhan 19 milltir / 30 km hon yn tanio’ch awydd i gerdded gweddill y llwybr. Lawrlwythwch PDF o’r daith amlddydd Sir Benfro i Sir Gaerfyrddin.

Sir Gaerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr

Cerddwch o bromenâd eang Abertawe i ardal o harddwch naturiol eithriadol, gan fynd heibio twyni tywod a chestyll o’r gorffennol. Bydd y daith 26 milltir / 41km hon yn eich tywys i Ben Pyrod, sef brigiad creigiog poblogaidd iawn lle y ceir golygfeydd gwych dros draeth gwyn Rhosili, sydd wedi ennill gwobrau.  Lawrlwythwch PDF o’r daith amlddydd Sir Gaerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr

Arfordir De Cymru 

Mae’r daith 29 milltir / 46km hon yn addo golygfeydd ysblennydd o’r arfordir o’r Barri ac ar hyd Arfordir Treftadaeth Morgannwg, gan gynnig cyfle i weld un o’r twyni tywod mwyaf yng Nghymru, a elwir yn ‘Big Dipper’. Daw’r daith i ben ym Mhorthcawl, sef tref ddifyr ar lan y môr, tua 25 milltir (40 km) i’r gorllewin o Gaerdydd, prifddinas Cymru. Lawrlwythwch PDF o’r daith amlddydd Arfordir De Cymru.