Cerdded Twyni Tywod

Ymlaciwch yn nhwyni tywod Cymru

Rhannwch y teithiau cerdded hyn
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Wrth ddarganfod Llwybr Arfordir Cymru, mae'n siŵr y byddwch yn crwydro traethau a thwyni tywod. Gall cerdded ar dywod fod yn her gorfforol ond mae hefyd yn medi gwobrau.

Yn ogystal â bod yn hafanau bywyd gwyllt pwysig, twyni yw'r lle perffaith i fachu rhywfaint o lonyddwch a thawelwch ar eich teithiau cerdded.

Darllenwch ein blog twyni tywod i ddysgu pam eu bod yn bwysig i fywyd gwyllt a pha fath o waith sy'n cael ei wneud i'w diogelu.

Treuliwch amser yn eistedd, ymlacio ac adfer eich nerth ar y twyni cyn ailafael yn eich taith ymlaen. Bydd gennych rywfaint o fywyd gwyllt unigryw y twyni yn gwmni. Dyma lle gallwch chi gerdded y llwybr a darganfod twyni tywod ar hyd y ffordd.

Arfordir Gogledd Cymru ac Aber Afon Dyfrdwy

Crwydrwch system twyni Talacre ar daith gerdded Llyffant y Twyni Talacre, mae'r twyni hyn yn llecyn poblogaidd i fywyd gwyllt ac yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr a thwristiaid fel ei gilydd.

Arfordir Llŷn ac Eryri

Ewch ar hyd y llwybr arfordir o Bortmeirion i Draeth y Graig Ddu neu Borth y Gest i Draeth y Graig Ddu ac edrychwch draw at Forfa Harlech, sy'n dwyni tywod o bwysigrwydd rhyngwladol wrth i chi basio twyni llai Morfa Bychan.

Mwynhewch y golygfeydd godidog dros dwyni tywod Morfa Harlech wrth deithio o eglwys Sant Tanwg i Lanbedr.

O Harlech i Ddyffryn Ardudwy byddwch yn pasio trwy Forfa Harlech a Morfa Dyffryn, y ddau yn dwyni tywod o bwys rhyngwladol.

Ynys Môn

Ar hyd Ynys Llanddwyn fe welwch Dywyn Niwbwrch, un o'r systemau twyni agored mwyaf yng Nghymru a cherdded trwy Goedwig Niwbwrch a blannwyd ar dwyni yn 20fed ganrif.  Mae llawer o gyfleoedd i weld blodau’r twyni yn ystod eu tymor ynghyd â merlod a gwartheg sy'n helpu i bori’r tir.

Yn ystod taith gerdded o Aberffraw i Borth Cwyfan – fe welwch chi'r twyni yng Nghomin Aberffraw sy'n hafan ar gyfer bywyd gwyllt. Os barhewch o Aberffraw i Rosneigr  byddwch chi'n gallu gweld twyni tywod Tywyn Fferam a Thywyn Llyn.

Bae Caerfyrddin

Byddwch yn gweld golygfeydd dros Dwyni Pentywyn ar Daith gylchol Talacharn, Mae'r twyni tywod yn rhai o bwys rhyngwladol ac yn hafan bywyd gwyllt gyda gyr o geirw. Cofiwch fod Maes Tantio Pentywyn yn safle'r Weinyddiaeth Amddiffyn ac mae'r rhan fwyaf o'r twyni y tu hwnt i'r ffin.

Roedd Talacharn yn gartref i'r awdur enwog o Gymru, Dylan Thomas. O'r olygfan ar Draeth Pentywyn, fe welwch Dwyni Pentywyn, y system dwyni fwyaf yng Ngorllewin Cymru, i'r dwyrain o bentref Pentywyn.

Mae pen gorllewinol Llwybr Arfordirol y Mileniwm yn mynd trwy ran fechan o Dwyni Bae Caerfyrddin ger y clwb golff a rhannau ehangach o Barc Gwledig Pen-bre.

Gan gerdded o Gydweli i Borth Tywyn gallwch ddarganfod rhannau o Ardal Cadwraeth Arbennig Twyni Bae Caerfyrddin ym Mhen-bre.

Abertawe

Gorffennwch eich siwrnai ar hyd rhan Penclawdd i Lanmadog o'r llwybr arfordir yn agos at Dwyni Whiteford, Ardal Gadwraeth Arbennig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol.

Arfordir de Cymru - Sir Pen-y-bont ar Ogwr

Ewch i un o'r systemau twyni mwyaf yn Ne Cymru ar ôl i chi gerdded o Fae Trecco i farina Porthcawl. Mae'r daith hon yn gorffen wrth un o'r pwyntiau mynediad i dwyni Merthyr Mawr, sy'n gartref i'r ‘Trochwr Mawr’ - y twyni tywod talaf yng Nghymru.

Bydd dilyn un o'n llwybrau o Borthcawl i Aberogwr neu Drenewydd i Dregawntlo yn caniatáu i chi basio trwy system dwyni Merthyr Mawr lle gallwch weld ei fywyd gwyllt, a gwaith adfer parhaus. 

Profwch Warchodfa Natur Genedlaethol Cynffig ar y rhan leol o'r llwybr arfordirol lle gallwch gerdded yn gyfan gwbl o fewn Twyni Cynffig, Gwarchodfa Natur Genedlaethol ac Ardal Cadwraeth Arbennig, sy’n cael eu rhedeg gan Ymddiriedolaeth Gorfforaeth Cynffig.

Diolch i'r timau Twyni ar Symud a Thwyni Byw am lunio'r rhestr o raglenni teithio sy'n gysylltiedig â thwyni tywod.