Pecynnau adnoddau Urdd Gobaith Cymru

Pecyn adnoddau rhyngweithiol a hwyliog ar gyfer profiad cerdded a dysgu unigryw yn yr awyr agored

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Rydym wedi gweithio’n agos gydag Urdd Gobaith Cymru i greu pecynnau adnoddau hwyliog i ysbrydoli cenhedlaeth y dyfodol i ymweld â’r llwybr.

Pam ein bod ni wedi partneru ag Urdd Gobaith Cymru

Urdd Gobaith Cymru yw’r Mudiad Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol sy’n darparu cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc Cymru i’w galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymunedau.

Maen nhw’n bartner naturiol i weithio gyda nhw oherwydd bod dwy o’u canolfannau preswyl poblogaidd ar y llwybr neu’n agos iawn ato yn Llangrannog yng Ngheredigion (gorllewin Cymru) ac yn ein prifddinas, Caerdydd (de Cymru).

Mae dros 55,000 o aelodau rhwng 8 a 25 oed sydd â chyfle i ymweld â'r canolfannau hyn.

Rydym yn meddwl ei bod yn ffordd ddelfrydol o estyn allan i bobl ifanc Cymru, cenhedlaeth y dyfodol a lledaenu’r gair am ein llwybr anhygoel ar gyfer profiad dysgu cerdded unigryw yn yr awyr agored.

Am y pecynnau adnoddau

Maen nhw’n llachar ac yn lliwgar o ran dyluniad. Mae dau ar gael, un yr un ar gyfer canolfannau Llangrannog a Bae Caerdydd.

Mae pob pecyn adnoddau wedi’i deilwra o amgylch teithiau cerdded a awgrymir ger lleoliad y ganolfan ar y llwybr. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn darparu cefndir ysbrydoledig i ysbrydoli ac annog cyfranogwyr i ddysgu mwy am yr ardal leol mewn sesiwn grŵp dan arweiniad un o arweinwyr yr Urdd.

Beth sydd yn y pecyn adnoddau?

Mae llwybrau cerdded a chyfarwyddiadau ar hyd Llwybr Arfordir Cymru gydag amser a phellter cerdded bras. Mae'r mapiau enghreifftiol yn dangos mannau o ddiddordeb ar hyd y ffordd.

Mae themâu'r llwybrau yn ôl yr hyn y gallwch ei glywed a'i weld ar y llwybr.

Er enghraifft, un o’r themâu ar gyfer Llangrannog yw “Môr-ladron, Beirdd a Llamhidyddion”. Ym Mae Caerdydd, mae llwybr o’r enw “Teithio Mewn Amser – Bae a Morglawdd”.

Sut mae'r pecyn adnoddau wedi'i ddylunio

Mae hanner cyntaf y pecyn ar gyfer arweinydd yr Urdd ac mae ynddo lawer o wybodaeth ddiddorol a ffeithiau hwyliog am y mannau o ddiddordeb. Yna mae geithgareddau i’w gwneud gyda’r grŵp – yn seiliedig ar y cwricwlwm ysgol.

Darperir atebion y gweithgaredd hefyd ac mae'n ddogfen ddefnyddiol i arweinydd yr Urdd gyfeirio ati yn ystod y sesiwn grŵp.

Pecyn Gweithgareddau Plant yw ail hanner y pecyn. Mae lle iddyn nhw gwblhau'r gweithgareddau trwy ysgrifennu a thynnu lluniau eu hatebion arno.

Sut i ddefnyddio'r pecyn adnoddau

Gallwch lawrlwytho ac argraffu'r pecyn adnoddau yn ei gyfanrwydd a dewis pa lwybr i fynd â'ch grŵp allan arno.

Arweinydd yr Urdd sy’n cadw’r adran gyntaf a gellir rhoi copïau o’r Pecyn Gweithgareddau Plant i’r grŵp ei lenwi.

Gallai clipfyrddau a beiros fod yn ddefnyddiol i bwyso arnyn nhw i gwblhau'r gweithgareddau.

Cynllunio eich sesiwn

Rydym eisiau i chi gael amser gwych ar y llwybr yn ddiogel.

Ewch i'n tudalen Cynllunio Eich Ymweliad sydd â chyngor defnyddiol am ymweld â'r llwybr yn ddiogel.

Gallwch hefyd weld yn union ble rydych chi'n mynd gyda'n map rhyngweithiol.

Lawrlwythwch y pecynnau adnoddau

Llangrannog (PDF, 3.9KB)
Bae Caerdydd (PDF, 4.8KB)

Cysylltwch efo ni

Cyslltwch â ni a rhowch wybod i ni beth yw eich barn am y pecynnau adnoddau – rydym yn croesawu unrhyw adborth.

Tagiwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol @walescoastpath gyda’r hashnod #UrddLlAC #UrddWCP a dangoswch i ni beth rydych chi’n ei wneud.