Mannau Treftadaeth Cysegredig
Cipolwg ar y lleoedd ysbrydol hynafol sydd wedi'u plethu i mewn i dirwedd hanesyddol Cymru ar hyd y llwybr
Rydym wedi ymuno â'r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol i ddod â naw taith gerdded unigryw i chi.
Mae tri yr un ym Mhen Llŷn, Sir Benfro ac yng Ngheredigion. Maent yn cyfuno teithiau cerdded bywiocaol ar y llwybr sy'n eich arwain at ddrysau lleoedd ysbrydol arbennig iawn.
O abatai i eglwysi, rydym yn eich gwahodd i gymryd eich amser a phrofi natur anhygoel y lleoedd hynafol hyn fel adeiladau byw, sy'n cael eu defnyddio at eu pwrpas gwreiddiol o hyd.
Ynglŷn â'r mannau treftadaeth cysegredig
Mae gwaith ymchwil ar y mannau treftadaeth cysegredig hyn wedi dod gan yr Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol, Coflein a CADW. Os gwelwch unrhyw gywiriadau sydd eu hangen, rhowch wybod i ni.
Ynglŷn â'r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol
Dyma elusen genedlaethol, annibynnol sy'n ymroddedig i hyrwyddo a chefnogi adeiladau eglwysig o werth hanesyddol, pensaernïol a chymunedol ledled y DU.
Gwefan https://www.explorechurches.org
Ynglŷn â Coflein
Y catalog ar-lein ar gyfer archeoleg, adeiladau, treftadaeth ddiwydiannol a morwrol yng Nghymru
Gwefan https://www.coflein.gov.uk/cy/
Ynglŷn â Cadw
Gwasanaeth amgylcheddau hanesyddol Llywodraeth Cymru yw Cadw, sy’n gweithio i sicrhau bod amgylchedd hanesyddol Cymru yn hygyrch ac yn cael ei ddiogelu’n dda.
Gwefan: https://cadw.llyw.cymru/
Henebion Neolithig, traethau caregog a chyrchfan mawreddog y pererinion.
Taith gerdded hir, sy'n hawdd ei gwneud yn daith gerdded fyrrach gyda golygfeydd ysgubol dros y clogwyni garw ar drwyn Pen Llŷn.
Mae'r daith gerdded dawel hon trwy'r warchodfa natur yn berffaith i bobl sy'n hoff o fyd natur.
Bydd eich gwaith caled ar y darn garw ac heriol hwn o'r llwybr yn cael ei wobrwyo â golygfeydd godidog o lan y môr.
Mae'r daith gylchol fer hon yn cynnwys golygfeydd ysgubol o Fae Ceredigion, y lle perffaith i wylio'r haul yn machlud
Taith gylchol yn cyfuno golygfeydd arfordirol a chefn gwlad tawel heb lawer o draffig
Taith gylchol yn cynnwys clogwyni tywodfaen coch dramatig mewn ardal anghysbell a hardd yn Sir Benfro.
Dewis o thri daith gylchol gyda golygfeydd syfrdanol o'r traethlinau creigiog
aith gerdded fywiog trwy arfordir a chefn gwlad sy'n cynnwys amrywiaeth o safleoedd crefyddol o bwys - ynghyd â rhai o glogwyni mwyaf trawiadol Sir Benfro.