Eglwys y Grog, Ceredigion

Mae'r daith gylchol fer hon yn cynnwys golygfeydd ysgubol o Fae Ceredigion, y lle perffaith i wylio'r haul yn machlud

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a gorffen

Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Mwnt

Pellter

Taith gerdded gylchol 1.5 milltir neu 2.5 km

Ar hyd y ffordd

Ar ôl ymweld ag Eglwys hyfryd y Groes Sanctaidd mae'r daith gylchol fer hon yn mynd â chi ar hyd rhan ysblennydd o Lwybr Arfordir Cymru.

Gan adael y maes parcio, ewch i gaffi'r traeth, lle ceir toiledau (tymhorol). Cerddwch dros bont gerrig a dilynwch arwydd llwybr yr arfordir heibio hen odyn galch wrth i chi fynd i ben y clogwyn gyda golygfeydd ysblennydd i bob cyfeiriad.

Edrychwch i'r gogledd ar draws Bae Ceredigion ac fe welwch fraich hir Pen Llŷn yn ymestyn allan i'r môr, tra bod twmpath glaswelltog Foel y Mwnt a'r cildraeth a'r traeth ysblennydd yn gorwedd y tu ôl i chi. O'ch blaen mae Ynys Aberteifi a enwyd yn wreiddiol yn Hastiholm (Ynys y Ceffylau) a fu unwaith yn gartref i balod a oedd yn nythu yma cyn iddynt gael eu gyrru i ffwrdd gan lygod mawr.

Ewch ymlaen ar hyd llwybr yr arfordir, gan gadw llygad am frain coesgoch yn hedfan trwy'r awyr uwchben a morloi a dolffiniaid yn chwarae yn y tonnau islaw, cyn troi tuag at y tir a cherdded trwy'r caeau yn ôl i'ch man cychwyn.

Man Treftadaeth Cysegredig

Mae Eglwys y Groes Sanctaidd Mwnt wedi bod yn gyrchfan i bererinion ers canrifoedd ac mae'n parhau i fod â thynfa bwerus hyd heddiw. Yn eistedd uwchben crug o'r Oes Efydd yn edrych dros Draeth Mwnt a Môr Iwerddon, dechreuodd yr adeilad carreg gwyngalchog ei fywyd fel capel anwes i forwyr.

Daw'r enw o'r groes garreg dal a arferai sefyll ar Foel y Mwnt gerllaw, a wasanaethai fel begwn i addolwyr a deithiai o bell ac agos i ymweld â'r eglwys fach dlos hon.

Yn y canol oesoedd, byddai cyrff seintiau yn aml yn oedi yma ar eu ffordd i'w claddu ar Ynys Enlli. Roedd hefyd yn gyrchfan poblogaidd i bererinion a oedd yn teithio i Dyddewi yn Sir Benfro, ar ôl i'r Pab Calixtus II ddatgan ym 1123 bod dwy daith yno yn hafal i un i Rufain, tra bod tair yn werth pererindod i Jerwsalem.

Yn ychwanegol at ei lleoliad prydferth, mae'n llawn nodweddion hanesyddol anarferol, gan gynnwys to derw prin o'r bymthegfed ganrif a bedyddfaen wedi'i gerfio o gerrig Preseli o'r ddeuddegfed ganrif.

Darganfyddwch fwy am Eglwys y Groes Sanctaidd Mwnt

Uchafbwyntiau'r daith

Mae Nigel Nicholas, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru yn dweud, "Cofiwch eich camera ar gyfer y daith gylchol hon, sydd â golygfeydd ysblennydd. Mae'n un o'r lleoedd mwyaf eiconig ar yr arfordir ac yn lle perffaith i wylio'r haul yn machlud."

Gwybodaeth ddefnyddiol

Mae yna lefydd parcio ym maes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, tra gellir cyrraedd Mwnt drwy drafnidiaeth gyhoeddus ar fws tymhorol Cardi Bach 552

Mae yna hefyd doiledau cyhoeddus tymhorol a chiosg yn gwerthu diodydd a byrbrydau.

Taflen Teithio a Map

Gallwch hefyd lawrlwytho'r taflen cerdded y gellir ei hargraffu a'r map llwybr i fynd gyda chi ar eich taith gerdded.

Cydnabyddiaethau

Datblygwyd y daith hon mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol. Ewch i'w gwefan www.explorechurches.org/cymru i ddarganfod mwy gan gynnwys teithiau a phrofiadau y gellir eu harchebu.