Teithiau cerdded cylchol Abaty Llandudoch, Sir Benfro
aith gerdded fywiog trwy arfordir a chefn gwlad...
Taith gylchol yn cynnwys clogwyni tywodfaen coch dramatig mewn ardal anghysbell a hardd yn Sir Benfro
Maes parcio traeth Maenorbŷr
Taith gylchol 3 milltir neu 5 km
Mae'r daith gylchol hon yn cychwyn yng nghysgod castell godidog Maenorbŷr a godwyd yn y ddeuddegfed ganrif. Eich cam cyntaf yw ymweld ag eglwys Sant Iago, trwy fynd allan o gornel chwith isaf y maes parcio a chymryd troad i'r chwith dros bont garreg fach ac i'r chwith eto ar hyd lôn goediog.
O'r eglwys gallwch naill ai fynd yn ôl i'r traeth neu barhau trwy'r fynwent i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru yn Nghoetan y Brenin, siambr gladdu Fesolithig â maen capan enfawr.
Wrth i chi deithio ar hyd yr arfordir, byddwch chi'n cerdded trwy rannau o dirwedd fwyaf gwyllt a mwyaf anghysbell Sir Benfro, gyda golygfeydd godidog o'r môr o Ystagbwll y tu ôl i chi ac Ynys Bŷr o'ch blaen.
Os oes gennych amser mae'n werth dargyfeirio i lawr llwybr serth i draeth Maenorbŷr i gael golwg well ar y clogwyni tywodfaen coch llawn ffosiliau (neu gallwch fynd i'r gogledd i mewn i’r tir ar yr hawl tramwy cyhoeddus os ydych chi am gael taith fyrrach).
O draeth Maenorbŷr, ewch ymlaen ar hyd y llwybr nes ei fod yn ymuno â'r ffordd. Yma trowch i'r chwith am bellter byr ar hyd y ffordd cyn troi i'r chwith eto cyn troi am y llwybr troed ychydig cyn y man chwarae i blant a'i ddilyn yn ôl i Faenorbŷr.
Mae gallu'r Cristnogion Celtaidd cynnar i ddewis y llefydd mwyaf trawiadol ac ysbrydoledig ar gyfer eu heglwysi yn amlwg o weld lleoliad eglwys Sant Iago sy'n edrych dros fôr a thraeth Maenorbŷr.
Fe'i sefydlwyd fel mynachlog yn y chweched ganrif gan Sant Pŷr, abad cyntaf Ynys Bŷr a dyn a adawodd olion parhaol ar y rhan hon o Sir Benfro - ystyr Maenorbŷr yn yr Hen Gymraeg yw 'yn perthyn i Bŷr'.
Cafodd yr eglwys gerrig gyda thŵr gorllewinol amlwg sy'n sefyll yma heddiw ei hadeiladu yn y ddeuddegfed ganrif, ar yr un adeg y codwyd Castell Maenorbŷr gerllaw gan y teulu de Barri. Mae'n nodedig am ei chorff hir, nodwedd Eingl-Ffrengig nodedig sy'n adlewyrchu dylanwad y Normaniaid ar Sir Benfro ar ôl eu goresgyniad ym 1093.
Y tu mewn fe welwch do canoloesol y cyntedd wedi'i baentio, bedyddfaen Normanaidd bylchog a delw marchog (un o deulu de Barri o Gastell Maenorbŷr) sy'n dyddio i 1325. Mae yna nodweddion mwy modern hefyd, gan gynnwys ffenestri gwydr lliw a grëwyd gan Mrs P. Hughes o Faenorbŷr-newydd. Yn portreadu'r dirwedd a’r môr, maent yn gysylltiad clir a lliwgar â gwreiddiau Celtaidd yr eglwys.
Darganfyddwch fwy am Eglwys Sant Iago
Mae Libby Taylor, Uwch Geidwad y Parc Cenedlaethol (Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro) yn dweud, "Mae'n wahanol i'r teithiau cerdded eraill ar hyd arfordir y de, gyda chlogwyni tywodfaen coch dramatig (mewn cyferbyniad â chalchfaen Ystagbwll a Bosherston) a phentref tlws, hanesyddol Maenorbŷr."
Fe welwch lefydd parcio, toiledau cyhoeddus, siopau, caffis a thafarn ym Maenorbŷr. Gallwch hefyd deithio ar y gwasanaeth bws 349 neu ddal y trên i orsaf Maenorbŷr, tua 1.5 milltir neu 2.4 km o ddechrau'r daith.
Gallwch hefyd lawrlwytho'r taflen cerdded y gellir ei hargraffu a'r map llwybr i fynd gyda chi ar eich taith gerdded.
Lawrlwythwch taflen cerdded Eglwys Sant Iago Maenorbŷr (PDF, 2.56 MB)
Lawrlwythwch fap llwybr Eglwys Sant Iago Maenorbŷr (JPEG, 1.38 MB)
Cydnabyddiaethau
Datblygwyd y daith hon mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol. Ewch i'w gwefan www.explorechurches.org/cymru i ddarganfod mwy gan gynnwys teithiau a phrofiadau y gellir eu harchebu.