Llonyddwch
Yn ogystal â chael cyfle i ddianc oddi wrth y...
Abseilio, rafftio dŵr gwyn, cyrsiau beicio mynydd gyda’r gorau yn y byd, paragleidio, cartio, dringo – mae gan Gymru ddigonedd i’w gynnig i’r rhai sy’n chwilio am antur
Ar hyd yr arfordir trawiadol, cynhelir gweithgareddau awyr agored i bob oed drwy’r flwyddyn ac mae nifer o ganolfannau antur ger Llwybr Arfordir Cymru sy’n cynnig her a chyffro.
Trac rasio beicio cylch cyfyng 1.3km a thrac rasio safonol ar gyfer beiciau BMX yw’r March Tracks yn y Rhyl. Cewch nifer o neidiau a throadau heriol yn yr arena ddidraffig ac mae’n rhan o brosiect lleol i gynnig chwaraeon am gost isel. Un gweithgaredd sy’n dod yn boblogaidd iawn yw syrffio barcud ym Mae Cinmel.
Mae cyffro i’w gael wrth bysgota môr oddi ar lannau Ynys Môn. Mae gwahanol fathau o bysgod wedi ymgartrefu mewn llongau a ddrylliwyd ger y lan felly does dim rhaid teithio’n bell. Mae Ynys Môn yn lle poblogaidd ar gyfer caiacio, syrffio, arfordira, syrffio barcud a dringo clogwyni hefyd.
Ar arfordir Gwynedd y ceir rhai o’r clogwyni môr gorau i’w dringo ym Mhrydain ac nid yw mynyddoedd Eryri’n bell ychwaith. Ceir bygis barcud a chyfle i syrffio barcud ar rai o draethau Llŷn. Caiff miloedd o bobl eu denu i Abersoch gan y chwaraeon dŵr ac mae traethau cyfagos Porth Neigwl, Porth Ceiriad a Phorthor yn llefydd ardderchog i syrffio a byrddio ar donnau’r Iwerydd. Mae’n well gan sgiwyr dŵr a thonfyrddwyr ddyfroedd gwastad Bae Abersoch.
Ym Mhlas Menai, ceir hyfforddiant arbenigol mewn hwylio, hwylforio, canŵio a llywio cychod cyflym. Mae’r golygfeydd yn wych ar afon Menai tua Môn a’r mynyddoedd.
Ceir cyfle i gymryd rhan mewn pob math o chwaraeon cyffro ar arfordir Ceredigion – canŵio, syrffio, rhwyfsyrffio, blocartio a pharagleidio. Mae nifer o ganolfannau antur yn yr ardal – gallwch hyd yn oed ddysgu sgïo yn Llangrannog.
Does unman gwell na Sir Benfro am weithgareddau awyr agored. Ceir croeso cynnes, amodau ardderchog a golygfeydd godidog ar gyfer syrffwyr, hwylwyr, hwylforwyr, caiacwyr, arfordirwyr a dringwyr. Beth am roi cynnig ar ddeifio yng Ngwarchodfa Natur Forol Cymru ar ynys Sgomer, ynysoedd bach y Smalls, neu ar lan y môr? Does unman gwell!
Un o weithgareddau annisgwyl llwybr yr arfordir yw sgïo! Gallwch ddysgu neu ymarfer y gamp ar y llethrau artiffisial ym Mhen-bre. Gallwch logi’r offer yno. Mae ’na faes eirafyrddio arbenigol yno hefyd.
Mae traethau Langland, Caswell a Llangennith ar Benrhyn Gŵyr yn llefydd gwych i syrffio. Mae ysgolion syrffio Caswell a Llangennith ar agor drwy’r flwyddyn. Daeth Aberafan yn lle poblogaidd gan syrffwyr gan fod y tonnau glân a geir yno’n aml yn addas ar gyfer dechreuwyr a rhai mwy profiadol. Neu gallwch roi cynnig ar fyrddau padlo ar eich sefyll.
Mae trac modur Llandow tua 1,450 metr o hyd a hwn yw’r unig drac gwibgerti awyr agored yng Nghymru sydd wedi’i lifoleuo i gyd. Mae Porthcawl yn lle da ar gyfer gweithgareddau cyffrous hefyd, gan gynnwys syrffio barcud.
Un o atyniadau pennaf pentref chwaraeon y brifddinas yw Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd a’r anogaeth yw ‘Neidiwch i mewn!’ Yno, cewch droi’ch llaw at rafftio, hydro-gyflymu, caiacio a chanŵio. Ym Mae Caerdydd, cynhelir gweithgareddau cyffrous drwy’r flwyddyn yn y llyn dŵr croyw y tu ôl i’r morglawdd, fel gwibio mewn cychod gwynt â chorff anhyblyg, a thripiau i ynysoedd ym Môr Hafren.