Pecyn Adnoddau Meddwlgarwch Llwybr Arfordir Cymru
Awgrymiadau i wella eich iechyd meddwl a'ch lles ar Lwybr Arfordir Cymru
Darllenwch ein hadroddiadau ar effaith Llwybr Arfordir Cymru ar iechyd, economi twristiaeth Cymru, yn ogystal â gwybodaeth am ddefnyddwyr y llwybr
Mae ein hadroddiadau yn ymwneud ag effaith y llwybr ar iechyd a lles y bobl sy’n ei ddefnyddio. Maen nhw hefyd yn archwilio pa effaith mae’r llwybr yn ei gael ar economi twristiaeth ac yn datgelu gwybodaeth ddefnyddiol am ein hymwelwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu oddeutu £1.4 miliwn tuag at y llwybr. Mae hyn yn talu am waith cynnal a chadw, datblygu a marchnata’r llwybr bob blwyddyn. Cyfoeth Naturiol Cymru a gomisiynodd yr holl adroddiadau a’r arolygon.
Asesiad o’r buddion iechyd a geir wrth gerdded ar y llwybr gan ddefnyddio Offeryn Asesu Economaidd Iechyd Sefydliad Iechyd y Byd (HEAT). Darllenwch yr adroddiad Asesiad economaidd o Fuddion Iechyd cerdded ar Lwybr Arfordir Cymru, 2014 PDF, 661KB.
Effaith y cyllid Ewropeaidd a dderbyniwyd i gefnogi rhannau o’r llwybr fel rhan o Raglen Gydgyfeirio Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF). Darllenwch yr adroddiad Gwerthuso manteision Llwybr Arfordir Cymru i fusnesau 2013, PDF, 661KB
Cynhaliwyd arolwg gyda busnesau ar hyd y llwybr i gasglu barn ar y cymorth sydd ei angen i wneud y mwyaf o gyfleoedd. Roedd yn cynnwys sectorau fel lletygarwch, bwyd, manwerthu ac atyniadau.
Hefyd wedi’u cynnwys yn yr arolwg oedd y tri Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru (Llwybr Glyndŵr, Llwybr Clawdd Offa a Llwybr Arfordir Sir Benfro). Edrychwch ar ganlyniadau'r arolwg ar wefan y Llwybrau Cenedlaethol (dod yn fuan).
Mae adroddiadau arolwg ar gael i'w gweld a'u lawrlwytho (pob un ar ffurf PDF) sy'n cwmpasu'r llwybr cyfan ac ardaloedd rhanbarthol.
Mae’r arolygon hyn yn dadansoddi pwy sy’n defnyddio’r llwybr, eu nodweddion a’u profiadau. Mae’r hyn sy’n eu symbylu a’u ffynonellau gwybodaeth hefyd yn cael eu harchwilio. Rydym yn cymharu â chanfyddiadau arolygon blaenorol pan fo’n bosibl.
Cyfrannodd Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) £4 miliwn tuag at y llwybr rhwng 2007 a 2013.