Ein Pecyn Cyfryngau
Trosolwg o Lwybr Arfordir Cymru a beth sy’n digwydd...
Awgrymiadau i wella eich iechyd meddwl a'ch lles ar Lwybr Arfordir Cymru
Nid yw'n gyfrinach y gall gweithgarwch corfforol wella ein hiechyd meddwl a'n lles. Cyfunwch hynny ag awyr y môr a'r golygfeydd trawiadol ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, ac rydych yn sicr o elwa o fanteision bod yn yr awyr agored.
Felly, rydym yn eich annog i fynd allan a dod o hyd i ymdeimlad o les ar y Llwybr — boed ar eich taith ddyddiol, wrth gerdded y ci ar ôl y gwaith, neu gerdded a siarad â'ch teulu a ffrindiau wrth edmygu'r olygfa.
Ac i wneud yn siŵr eich bod yn cael y gorau o'ch profiad nesaf ar Lwybr Arfordir Cymru, rydym wedi ymuno â Heads Above The Waves, sefydliad dielw sy'n codi ymwybyddiaeth o iselder a hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc.
Gyda'n gilydd, rydym wedi curadu rhai o'r llwybrau cerdded mwyaf ymlaciol, awgrymiadau meddwlgarwch a gweithgareddau i chi roi cynnig arnynt ar y Llwybr.
Ar ben hynny, byddwn yn lansio casgliad newydd sbon o nwyddau cyn bo hir mewn partneriaeth â Heads Above The Waves — gyda'r holl elw'n helpu i gefnogi pobl ifanc sy'n cael trafferth gyda hunan-niweidio. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau!
Darllenwch flog Mind Cymru am weithgarwch corfforol a'ch iechyd meddwl