Rydym yn rhan o Gynllun Llysgenhadon Cymru

Cofrestrwch ar gyfer cyrsiau ar-lein am ddim

Mae Cynllun Llysgenhadon Cymru yn gyfres o gyrsiau ar-lein am ddim i bawb ddysgu mwy am nodweddion arbennig Cymru. Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o'r cynllun hwn.

Byddwch hefyd yn dysgu am y Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru sy'n llwybrau pellter hir a ddewiswyd gan Lywodraeth y DU fel rhai sy'n mynd trwy rai o dirweddau gorau’r DU. Maen nhw i gyd wedi’u harwyddo gan logo’r fesen. Yng Nghymru, y llwybrau hyn yw Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa a Llwybr Glyndŵr, lle rydych yn croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr sawl gwaith ac yn gallu mwynhau rhostir agored, tir fferm tonnog, coetir a choedwig canolbarth Cymru. Gellir adnabod Llwybr Arfordir Cymru drwy ddilyn y logo ‘draig a chragen’ nodedig ar hyd 870 milltir o arfordir amrywiol Cymru.

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu

Mae'r cynllun yn ffordd ardderchog o ehangu eich gwybodaeth leol a dod o hyd i'r hyn y mae Llwybr Arfordir Cymru a'r Llwybrau Cenedlaethol yn ei gynnig i bawb.

Byddwch yn darganfod llawer o ffeithiau diddorol am ddiwylliant Cymru, y lleoedd unigryw, y ddaeareg, y bywyd gwyllt y gallwch ddisgwyl ei weld, a'r hanes sy'n gwneud y llwybrau hyn mor unigryw ac arbennig yma yng Nghymru. Gobeithio y byddwch yn cael eich ysbrydoli i fynd allan i fwynhau'r llwybrau cerdded hyn drosoch chi eich hun. Byddwch yn darganfod llawer o ffeithiau diddorol:

  • Mannau adnabyddus am fywyd gwyllt ar hyd Llwybr Arfordir Cymru a Llwybrau Cenedlaethol
  • Safle dinas leiaf Prydain
  • Y pentref gyda'r enw hiraf yn y Deyrnas Unedig
  • Y gwrthryfelwr hanesyddol sy'n rhoi ei enw i un o'r Llwybrau Cenedlaethol
  • Yr heneb hanesyddol a adeiladwyd i wahanu Cymru a Lloegr

Pwy fydd yn elwa o'r cynllun hwn

Gall pawb elwa ar y cynllun ar-lein hwn sy’n rhad ac am ddim.

Os ydych chi'n berchennog busnes ar y llwybrau hyn neu'n agos atynt, mae'n ffordd ardderchog o rannu'r wybodaeth ydych chi wedi'i dysgu gyda'ch cwsmeriaid. Mae hefyd yn ffordd hwylus a rhad o gynnwys eich tîm yn y gwaith o helpu ymwelwyr i deimlo bod croeso iddynt a manteisio’n llawn ar eu hymweliad â Chymru.

Os ydych chi'n unigolyn chwilfrydig sydd eisiau gwybod mwy am yr ardal leol, mae'n ffordd ragorol o ddarganfod beth arall sydd i'w weld a'i wneud.

Sut mae'r cynllun yn gweithio

Cofrestrwch â Chynllun Llysgenhadon Cymru am ddim. Gallwch weithio eich ffordd drwy fodiwlau sydd fwyaf lleol i'ch ardal.

Cofrestrwch â Chynllun Llysgenhadon Cymru am ddim

Mae pob modiwl yn gymysgedd o destunau a fideos difyr a delweddau ysbrydoledig gyda llawer o ffeithiau diddorol am yr ardal ydych wedi cofrestru ar ei chyfer. Os hoffech chi wybod mwy am yr ardaloedd cyfagos, gallwch gwblhau'r holl fodiwlau cyfredol sydd ar gael. Mae'r holl fodiwlau ar gael yn Gymraeg a Saesneg a gallwch roi cynnig ar gwis hwyliog ar y diwedd hefyd.

Dewch yn Llysgennad Cymru heddiw a darganfod beth sydd ar eich stepen drws a thu hwnt.