Teithiau Cerdded Hygyrch

Lleoliadau sy’n addas ar gyfer cymhorthion symudedd

Gall pawb fwynhau Llwybr Arfordir Cymru. Mae’n 870 milltir o hyd, ac mae digon o rannau ohono’n addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, defnyddwyr cymhorthion symudedd eraill, a theuluoedd â bygis neu bramiau.

Gwybodaeth am lwybrau hygyrch

Rydym wedi gweithio gydag Experience Community, cwmni buddiant cymunedol nid-er-elw sy’n helpu pobl anabl i gael mynediad i’r awyr agored yn haws. Ar rai o’r llwybrau hyn, maent wedi archwilio’r llwybr yn bersonol gyda’u cyfarpar symudedd.

Maent wedi casglu gwybodaeth, e.e. am y goledd, graddiant y llwybr ac unrhyw rwystrau posibl, i’ch helpu i benderfynu a yw’n addas ar gyfer eich gallu chi. Mae’r wybodaeth hon ar wefan Phototrails. Mae map ar-lein o’r llwybr gyda ffotograffau mewn mannau arwyddocaol ar hyd y llwybr ac mae’n cynnig disgrifiadau manwl o’r llwybr. Mae’r rhain yn cynnwys lleoliadau canllawiau, meinciau i orffwys arnynt, a graddiant y llwybr.

Cadwch lygad am unrhyw deithlenni sydd wedi’u gwirio gan Experience Community – bydd y geiriau “Phototrails” yn y teitl.

Taflenni Gwybodaeth

Mae’n bosibl lawrlwytho taflenni gwybodaeth ar gyfer rhai o'r llwybrau hygyrch a gellir cael mynediad iddynt ar y we. Mae hyn yn golygu y gall y testun gael ei ddarllen yn uchel gan feddalwedd testun i leferydd. Gallwch wrando ar y testun yn cael ei ddarllen yn Gymraeg neu Saesneg. Mae’r RNIB (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall) yn darparu lleisiau testun i leferydd Cymraeg sy'n swnio'n naturiol ac sydd ar gael ar gyfer systemau Windows yn unig. Mae fersiynau o acenion Cymraeg ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Gofynnwch am y lleisiau yng ngwefan RNIB

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Teithiau cerdded arfordirol sy'n ddelfrydol ar gyfer pobl â phroblemau symudedd a chadeiriau gwthio

Llwybr cerdded gwastad sydd wedi’i darmacio yn bennaf ar hyd traeth a thrwy warchodfeydd natur

Taith gerdded drwy goetir cysgodol ar hyd llwybr coediog neu lwybr pren gyda golygfeydd o’r Fenai a phont Britannia

Llwybr cwbl hygyrch ar lwybr beicio sy’n dilyn Afon Menai