Gardd Fotaneg Treborth i Ystad y Faenol, Bangor
Taith gerdded drwy goetir cysgodol ar hyd llwybr...
Llwybr cwbl hygyrch ar lwybr beicio sy’n dilyn Afon Menai
Rydym wedi gweithio gydag Experience Community – cwmni buddiannau cymunedol nid-er-elw sy’n helpu pobl anabl i gael mynediad rhwyddach i’r awyr agored. Mae’r cwmni wedi archwilio pa mor addas yw’r llwybr ar gyfer offer symudedd ac wedi casglu manylion am y llethrau, graddiant y llwybr ac unrhyw rwystrau posibl, i’ch helpu i benderfynu a yw’n addas ar gyfer eich gallu ai peidio.
Llwybr llinol sy'n cynnig golygfeydd o'r Fenai ac arfordir Ynys Môn. Byddwch yn teithio ar hyd llwybr beicio 2.5 cilomedr neu 4 milltir Lôn Las Menai sy'n cysylltu tref brydferth Y Felinheli a thref hanesyddol Caernarfon. Sylwch fod y rhan gyntaf un o'r glannau yn Y Felinheli cynnwys dringfa serth a ddylai fod yn rhwydd i’r rhan fwyaf o offer symudedd modur. Os ydych chi'n defnyddio offer â llaw, efallai y bydd angen rhywfaint o help arnoch chi. Neu gellir cychwyn y llwybr ar ben y llethr hwn o feddygfa’r Felinheli.
Manylion map i ddilyn yn fuan.
Dechrau: Ffordd y Traeth, Y Felinheli
Gorffen: Canolfan gelf a sinema Galeri, Caernarfon
Pellter: 10 cilomedr neu 8 milltir (yno ac yn ôl)
Amser: Caniatewch 2 i 3 awr.
Wyneb: Llwybr beicio wedi'i darmacio yn bennaf.
Llethrau: Rhai adrannau lle gallai fod angen cymorth ar ddefnyddwyr.
Proffil y llwybr: Gallwch weld o broffil y llwybr faint y bydd rhaid ichi ddringo, a’r man uchaf ar y llwybr. Mae na 35 metr o waith dringo ar y mwyaf yma.
Lled y Llwybr: Cyfartaledd 1.8 medr.
Ar gyfer llywio â lloeren defnyddiwch: Ffordd y Traeth, Y Felinheli, LL56 4RQ
Ar gyfer defnyddwyr Cludiant Cyhoeddus: Ewch i Travellne Cymru i gynllunio eich taith.
Parcio: Mae mannau parcio i bobl anabl ar gael yn Y Felinheli ar Ffordd y Traeth a ger y feddygfa ar ddechrau'r llwybr beicio.
Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael ar ddechrau'r llwybr beicio yng Nghaernarfon.
Toiledau: Ceir toiledau hygyrch ar Ffordd y Traeth yn y Felinheli ac yng Nghaernarfon hefyd.
Amwynderau eraill: Mae lluniaeth ar gael yn Y Felinheli a Chaernarfon. Darllenwch fwy am ganolfan Galeri Caernarfon.