O’r Felinheli i Gaernarfon
Llwybr cwbl hygyrch ar lwybr beicio sy’n dilyn...
Llwybr cerdded gwastad sydd wedi’i darmacio yn bennaf ar hyd traeth a thrwy warchodfeydd natur
Rydym wedi gweithio gydag Experience Community – cwmni buddiannau cymunedol nid-er-elw sy’n helpu pobl anabl i gael mynediad rhwyddach i’r awyr agored.
Mae’r cwmni wedi archwilio pa mor addas yw’r llwybr ar gyfer offer symudedd ac wedi casglu manylion am y llethrau, graddiant y llwybr ac unrhyw rwystrau posibl, i’ch helpu i benderfynu a yw’n addas ar gyfer eich gallu ai peidio.
Ar ddechrau’r llwybr, gellir gwneud cylch o gwmpas y pwll cychod (llwybr cylchol rhif 1). Mae arwyneb y llwybr fan hyn o amgylch y pwll cychod yn wastad ac wedi’i darmacio. Tua diwedd y llwybr ger y bont droed, mae llwybr cylchol yn mynd â chi’n agosach at yr arfordir (llwybr cylchol rhif 2). Mae’r llwybr fan hyn yn dilyn glaswelltir gwastad sy’n draenio’n dda.
Llwybr llinol yw hwn ar hyd arfordir Gogledd Cymru gyda golygfeydd o'r môr rhwng y llwybr ac Ynys Môn i'r gogledd a'r mynyddoedd i'r de.
Mae’n bosibl cael mynediad hefyd i Warchodfa Natur Morfa Madryn, sy'n cynnig cyfleoedd ardderchog i wylio adar.
Dechrau: Maes parcio promenâd Llanfairfechan
Gorffen: Gwarchodfa Natur Morfa Madryn
Pellter: 3 cilomedr neu 2.5 milltir (yno ac yn ôl)
Amser: Caniatewch 1 i 2 awr
Manylion map i ddilyn yn fuan
Wyneb: Promenâd ag wyneb da. Ar ôl cerdded tua 1 cilomedr ar y llwybr, yn ardal corstir arfordirol Glan y Môr Elias, mae’r wyneb yn newid yn raean cywasgedig ac yn dod ychydig yn fwy garw.
Mae'r llwybr wedi'i bori'n dda, mae ganddo ddraeniad da a dylai fod yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer symudedd. Unwaith y byddwch yn cyrraedd Gwarchodfa Natur Morfa Madryn, mae'r llwybr yn culhau a cheir rampiau mynediad i dair cuddfan adar.
Proffil y llwybr: Gallwch weld o broffil y llwybr faint y bydd rhaid ichi ddringo, a’r man uchaf ar y llwybr. Yr uchder uchaf fyddai angen i chi ei ddringo yw tua 1 metr.
Llethrau: Dim
Lled y Llwybr: Mae'r llwybr yn ddigon llydan ar gyfer unrhyw offer symudedd.
Giât Mochyn: Weithiau bydd y giât ar agor yn llwyr, ond cynghorir defnyddwyr i gario allwedd Cynllun Allwedd Cenedlaethol (a elwir hefyd yn allwedd RADAR) er mwyn gallu cael mynediad pan fydd wedi'i chloi.
Ar gyfer llywio: Maes Parcio Promenâd Llanfairfechan, Llanfairfechan LL33 0DA
Cludiant Cyhoeddus: Ceir arhosfan trên ar gais yng ngorsaf Llanfairfechan. Ewch i Traveline Cymru i gynllunio eich taith.
Parcio: Mannau parcio dynodedig i bobl anabl yn y maes parcio yng nghaffi Beach Pavillion (yn agor yn Facebook)
Toiledau: Toiledau hygyrch yng nghaffi Beach Pavillion. Ceir toiled cyhoeddus hefyd gyda chyfleusterau i'r anabl.
Amwynderau eraill: Mae lluniaeth ar gael ar y promenâd yng nghaffi Beach Pavillion, sy'n hygyrch.