O’r Felinheli i Gaernarfon
Llwybr cwbl hygyrch ar lwybr beicio sy’n dilyn...
Taith gerdded drwy goetir cysgodol ar hyd llwybr coediog neu lwybr pren gyda golygfeydd o’r Fenai a phont Britannia
Rydym wedi gweithio gydag Experience Community – cwmni buddiannau cymunedol nid-er-elw sy’n helpu pobl anabl i gael mynediad rhwyddach i’r awyr agored. Mae’r cwmni wedi archwilio pa mor addas yw’r llwybr ar gyfer offer symudedd ac wedi casglu manylion am y llethrau, graddiant y llwybr ac unrhyw rwystrau posibl, i’ch helpu i benderfynu a yw’n addas ar gyfer eich gallu ai peidio.
Llwybr llinol sy’n dilyn Llwybr Arfordir Cymru yng Ngogledd Cymru, sy’n mynd heibio Gardd Fotaneg Treborth (sydd yng ngofal Prifysgol Bangor), coetir, golygfeydd o'r Fenai a Phont Britannia cyn gorffen ar Ystad y Faenol sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gallwch ddilyn llwybr cylchol byrrach hefyd trwy ddilyn Llwybr Arfordir Cymru am 1 cilomedr ac yna dringo’n raddol i'r gerddi botaneg.
Manylion map i ddilyn yn fuan.
Dechrau : Gardd Fotaneg Treborth, Bangor
Gorffen : Stad y Faenol (y tirnod agosaf ar fap yw “Boathouse Covert”)
Pellter: Mae'r llwybr llinol yn 3 cilomedr neu 2 milltir (yno ac yn ôl)
Amser: Caniatewch 2 i 3 awr
Wyneb: Cerrig cywasgedig gydag arwyneb rhydd mewn rhai mannau. Rhywfaint o dir anwastad.
Llethrau: Mae gan y llwybr rai llethrau a chambr serth mewn rhai mannau ac efallai y bydd angen cymorth ar rai defnyddwyr.
Proffil y Llwybr: Gallwch weld o broffil y llwybr faint y bydd rhaid ichi ddringo, a’r man uchaf ar y llwybr. Dim mwy na 30m o waith dringo.
Lled y Llwybr: 1.5 metr yn y man culaf
Giât Mochyn: Ceir un giât mochyn wrth fynedfa'r llwybr o'r ardd fotaneg.
Ceir giât o'r llwybr i'r ffordd wrth i chi ddod i mewn i’r Felinheli.
Rhwystrau eraill — Mae grid gwartheg a giât fetel addurnedig gul (tua 1 metr o led) ym mhen arall y llwybr ar Stad y Faenol. Efallai y bydd hyn yn golygu y bydd angen i rai ymwelwyr droi yn ôl yn y fan hon.
Ar gyfer llywio â lloeren defnyddiwch Gardd Fotaneg Treborth, Bangor, LL57 2RX
Cludiant Cyhoeddus: Ewch i Traveline Cymru i gynllunio eich taith.
Parcio: Mae lleoedd parcio yn gyfyngedig gyda dau fae anabl wrth fynedfa Gardd Fotaneg Treborth. Mae nifer o leoedd parcio i'r anabl ym mhen Felinheli o'r llwybr ar hyd Ffordd y Traeth.
Toiledau: Nid oes toiledau hygyrch yng Ngardd Fotaneg Treborth ar hyn o bryd. Ceir toiledau yn archfarchnad Waitrose Porthaethwy (dros y bont ar Ynys Môn) ac yn yr Antelope Inn ar ochr Treborth i Bont y Borth. Ar ben arall y llwybr ceir toiledau hygyrch yn nhref Y Felinheli ar Ffordd y Traeth.