Pen y Bont ar Ogwr

Archwiliwch amrywiaeth o dirweddau ar y rhan dawel hon o'r llwybr

Mae gennych chi ddewis o ddwy Warchodfa Natur Genedlaethol boblogaidd i’w mwynhau, yn ogystal ag amrywiaeth o dwyni tywod helaeth, prysgwydd a chastell cudd. Mae gwarchodfa natur Merthyr Mawr yn ardal enfawr o dwyni tywod y gallwch ei chyrraedd ar y bws.  Un o’r llecynnau tawel poblogaidd yng ngwarchodfa natur Cynffig yw pwll Cynffig, lle gwych i wylio adar felly cofiwch ddod â’ch binocwlars. Mae yna lawer o wahanol lwybrau amlwg a rhai ag arwyddbyst i'w dewis o fewn y warchodfa ei hun, sy'n ddelfrydol os ydych chi eisiau ychydig o heddwch a thawelwch i chi'ch hun.

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.