Eglwys Sant Mihangel, Ceredigion

Bydd eich gwaith caled ar y darn garw ac heriol hwn o'r llwybr yn cael ei wobrwyo â golygfeydd godidog o lan y môr

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a gorffen

Maes parcio Llangrannog i Benbryn

Pellter

2.6 milltir neu 4 km un ffordd
Taith gerdded estynedig: Penbryn i Dresaith 1.6 milltir neu 2.5 km un ffordd

Ar hyd y ffordd

Gan ddechrau o faes parcio Llangrannog, trowch i'r chwith a dilynwch ffordd gul (sy'n brysur yn yr haf) i'r traeth. Ewch i gyfeiriad y de i fyny'r bryn a byddwch yn ymuno â llwybr y clogwyn wrth gerflun Sant Carranog, sy'n cadw llygad cyson dros y bae. O'r pwynt hwn, gellir edmygu'r pentref arfordirol hyfryd, penrhyn ysblennydd Lochtyn yn estyn allan i'r môr, a ffurf eiconig Carreg Bica ar y blaendraeth.

Dilynwch y clogwyni ar hyd yr arfordir, mae'n llwybr garw gyda digon o ddringfeydd a disgyniadau heriol, ond mae'n werth yr holl waith caled wrth weld y golygfeydd anhygoel o draethau diarffordd a chlogwyni ysgithrog (ynghyd â'r cyfle i weld morloi, dolffiniaid ac adar y môr).

Ar ôl cyrraedd y maes parcio ym Mhenbryn, mae'r llwybr yn mynd i ganol coed Cwm Hownant - a elwir hefyd yn Gwm Lladron - dyma hen guddfan enwog y smyglwyr halen a physgotwyr penwaig.

Ar ôl croesi pont a dringo rhai grisiau, fe welwch arwydd ar gyfer yr eglwys, os trowch i'r chwith o'r prif lwybr am ychydig. Ar ôl ymweld ag eglwys Sant Mihangel, ewch yn ôl i lwybr yr arfordir.

Yma, mae gennych ddewis o ddilyn dau lwybr; Gallwch naill ai barhau ar hyd llwybr yr arfordir i Dresaith neu ddargyfeirio i lawr trwy'r dyffryn coediog i draeth Penbryn (tua 110 metr) cyn mynd yn ôl i Langrannog.

Man Treftadaeth Cysegredig

Yn dyddio'n ôl i'r drydedd ganrif ar ddeg o leiaf, mae'n debyg bod eglwys Sant Mihangel wedi'i hadeiladu ar safle Cristnogol hyd yn oed yn hŷn. Mae'n hawdd gweld beth sydd wedi denu pobl i'r fan hon. Yn eistedd ar dir uwch gyda golygfeydd godidog o'r arfordir ac ar gyrion coetir hynafol, mae lleoliad eglwys Sant Mihangel yn dal i greu argraff.

O'r tu allan mae'n strwythur carreg syml gyda tho llechi a chwt clychau amlwg arno - gyda waliau gwyngalchog sy'n sefyll allan yn glir yn erbyn awyr las Ceredigion. Ewch i mewn ac fe ddarganfyddwch loches heddychlon gyda llwyth o nodweddion hanesyddol hynod ddiddorol.

Edrychwch i fyny i weld y to o'r bymthegfed ganrif sydd wedi'i gadw'n berffaith, ac nad oes ond un arall o'i fath yn Ne Cymru (fe welwch y llall yn Eglwys y Groes Sanctaidd Mwnt).

Mae yna hefyd 'piscina' (neu gawg) hynafol lle byddai'r offeiriad yn golchi’r llestri cymun ar ôl yr Offeren, bedyddfaen garreg o'r drydedd ganrif ar ddeg a chyfres o henebion i gyn-blwyfolion nodedig, arwydd o gysylltiad dwfn Sant Mihangel â'r gymuned leol.

Darganfyddwch fwy am eglwys Sant Mihangel 

Uchafbwyntiau'r daith

Mae Nigel Nicholas, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru yn dweud, "Taith gerdded heriol gyda dringfeydd serth caled i fyny ac i lawr, ond bydd eich gwaith caled a'ch ymdrech yn cael eu gwobrwyo â golygfeydd ysblennydd o'r clogwyni ar hyd y ffordd."

Gwybodaeth ddefnyddiol

Mae yna lefydd parcio yn Llangrannog, Penbryn a Thresaith a gellir cyrraedd y tri ar wasanaeth bysiau arfordirol tymhorol Cardi Bach  Mae tafarndai, caffis a thoiledau cyhoeddus yn Llangrannog a chaffi tymhorol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda thoiledau cyhoeddus ym Mhenbryn.

Taflen Teithio a Map

Gallwch hefyd lawrlwytho'r taflen cerdded y gellir ei hargraffu a'r map llwybr i fynd gyda chi ar eich taith gerdded.

Cydnabyddiaethau
Datblygwyd y daith hon mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol. Ewch i'w gwefan www.explorechurches.org/cymru i ddarganfod mwy gan gynnwys teithiau a phrofiadau y gellir eu harchebu.