Digwyddiad Llwybr Arfordir Cymru - 'Ysbrydoli Pobl Ifanc'
Lansio adnoddau addysgol newydd mewn partneriaeth...
Mae taith ar hyd y llwybr yn unigryw ac yn arbennig i bawb sy’n ei droedio. O’r golygfeydd trawiadol o’r arfordir i awel hallt y môr yn eich wyneb, does ryfedd fod y llwybr yn ffynhonnell awen mor arbennig i gynifer.
Rydyn ni’n gweithio gyda’r arlunydd a’r curadur Dan Llywelyn Hall i ddatblygu cyfres o ddigwyddiadau i ddadlennu’r gweithiau newydd hyn. Bydd y rhain yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ar hyd a lled Cymru o haf 2022.
Cynllunnir arddangosfa derfynol a fydd yn dwyn ynghyd yr holl artistiaid a beirdd i ddathlu dengmlwyddiant y llwybr ynghyd â lansiad o lyfr dwyieithog ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2023.
Dadlennwyd lansiad y prosiect yng Ngŵyl y Gelli 2022 ble cyhoeddodd Dan Llywelyn Hall y beirdd, yr artistiaid a’r lleoliadau i gynulleidfa ddethol ym Mhabell Cymru. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld sut gall y llwybr gael ei ddefnyddio fel cefndir artistig ysbrydoledig.
Gallwch weld y diweddaraf am y digwyddiadau drwy ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol ar @walescoastpath a thanysgrifio i gael diweddariadau yn ein cylchlythyr.