Manteisio’n llawn ar gyfleoedd busnes ar Lwybr Arfordir Cymru yng Ngwynedd

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn dathlu ei ddengmlwyddiant yn 2022.

Yn ogystal â bod yn gyrchfan ymwelwyr gwych ar gyfer y farchnad ddomestig a thramor, mae’r llwybr yn chwarae rhan bwysig yn economi twristiaeth ac ymwelwyr Cymru drwy annog adfywiad economaidd.

Rydym ni wedi gweld diddordeb cynyddol yn y llwybr o bob cwr o Brydain a thu hwnt ar ein cyfryngau cymdeithasol yn ystod blwyddyn ein dengmlwyddiant. Mae llawer o bobl eisiau dod i gerdded ar y llwybr.

Gyda hynny mewn cof, rydym ni’n awyddus i ymgysylltu gyda busnesau lletygarwch a thwristiaeth ar hyd y llwybr 870 milltir / 1,400km i elwa o atyniad brand Llwybr Arfordir Cymru i wneud y gorau o’r cyfleoedd busnes.

Ydych chi’n rhan o’r sector lletygarwch neu dwristiaeth ac yn gweithredu yng Ngwynedd?

Os felly, efallai y byddai gennych ddiddordeb yn ein dathliadau o’r llwybr yng Ngwynedd.

Mae’r digwyddiad wedi’i anelu at y sector lletygarwch a thwristiaeth yng Ngwynedd, a bydd yn dathlu’r llwybr yng Ngwynedd – sy’n 25% o gyfanswm y llwybr cyfan. Rydym ni wedi gweld bod gan lawer o bobl ddiddordeb ymweld â’r ardal hon yn benodol.

Yn ystod ein digwyddiad, cewch gyfle i weld beth sydd gan ran Gwynedd o’r llwybr i’w gynnig i ymwelwyr, ynghyd â chyfle i glywed am y digwyddiadau diweddaraf yn ymwneud â’r llwybr yng Ngwynedd.

Yn ogystal, bydd siaradwyr gwadd yn rhannu eu profiad o fanteisio ar gyfleoedd busnes ar hyd Llwybr Arfordir Cymru gan gynnwys:

• Daloni Metcalfe, perchennog llety a chaffi Cwt Tatws yn Nhudweiliog
• Wil Parry, rheolwr prosiect Gwasanaeth Bws Arfordir Llŷn – y gwasanaeth cyntaf yn seiliedig ar ap yng Ngwynedd sy’n darparu gwasanaeth bws i’r rhai sy’n cerdded y llwybr ym Mhen Llŷn.

Manylion y Digwyddiad

Lleoliad: Nant Gwrtheyrn, Llithfaen
Amser: 21 Mehefin 2022
Amser: o 9:45am

Amserlen

  • 09:45 am: Cyrraedd
  • 10:00am: Bydd siaradwyr gwadd yn cynnwys Wil Parry o wasanaeth Bws Arfordir Llŷn yn trafod buddion y gwasanaeth i fusnesau lleol.
  • Diweddariadau ar gynlluniau’r dengmlwyddiant ac adnoddau i help busnesau arfordirol yng Ngwynedd i fanteisio’n llawn ar flwyddyn arbennig y llwybr (Sioned Humphreys ac Eve Nicholson).
  • Diweddariadau’r llwybr gan Rhys Roberts, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru yng Ngwynedd gyda sesiwn holi ac ateb i ddilyn
  • 12:00pm Taith gerdded dan arweiniad Rhys Roberts. Bydd y daith yn para oddeutu awr. Dewch ag esgidiau a dillad addas ar gyfer y tywydd.
  • 1:00pm: Cinio bwffe ysgafn.

RSVP erbyn 15 Mehefin 2022

Gobeithio y gwelwn ni chi yno.