O’r Felinheli i Gaernarfon (Photo Trails)
Llwybr cwbl hygyrch ar lwybr beicio sy’n dilyn...
Llwybr cerdded gwastad sydd wedi’i darmacio yn bennaf ar hyd traeth a thrwy warchodfeydd natur
Rydym wedi gweithio gydag Experience Community – cwmni buddiannau cymunedol nid-er-elw sy’n helpu pobl anabl i gael mynediad rhwyddach i’r awyr agored.
Mae’r cwmni wedi archwilio pa mor addas yw’r llwybr ar gyfer offer symudedd ac wedi casglu manylion am y llethrau, graddiant y llwybr ac unrhyw rwystrau posibl, i’ch helpu i benderfynu a yw’n addas ar gyfer eich gallu ai peidio.
Llwybr llinol yw hwn ar hyd arfordir Gogledd Cymru gyda golygfeydd o'r môr rhwng y llwybr ac Ynys Môn i'r gogledd a'r mynyddoedd i'r de. Mae’n bosibl cael mynediad hefyd i Warchodfa Natur Morfa Madryn, sy'n cynnig cyfleoedd ardderchog i wylio adar.
Ar ddechrau’r llwybr, gellir gwneud cylch o gwmpas y pwll cychod (llwybr cylchol rhif 1). Mae arwyneb y llwybr fan hyn o amgylch y pwll cychod yn wastad ac wedi’i darmacio. Tua diwedd y llwybr ger y bont droed, mae llwybr cylchol yn mynd â chi’n agosach at yr arfordir (llwybr cylchol rhif 2). Mae’r llwybr fan hyn yn dilyn glaswelltir gwastad sy’n draenio’n dda.
Dechrau: Maes parcio promenâd Llanfairfechan
Gorffen: Gwarchodfa Natur Morfa Madryn
Pellter: 3 cilomedr neu 2.5 milltir (yno ac yn ôl)
Amser: Caniatewch 1 i 2 awr
Lawrlwythwch y daflen wybodaeth er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich ymweliad. Dydy ddim map ar-lein ar gael ar hyn o bryd.
Wyneb: Promenâd ag wyneb da. Ar ôl cerdded tua 1 cilomedr ar y llwybr, yn ardal corstir arfordirol Glan y Môr Elias, mae’r wyneb yn newid yn raean cywasgedig ac yn dod ychydig yn fwy garw.
Mae'r llwybr wedi'i bori'n dda, mae ganddo ddraeniad da a dylai fod yn addas ar gyfer pobl sy'n defnyddio offer symudedd. Unwaith y byddwch yn cyrraedd Gwarchodfa Natur Morfa Madryn, mae'r llwybr yn culhau a cheir rampiau mynediad i dair cuddfan adar.
Proffil y llwybr: Gallwch weld o broffil y llwybr faint y bydd rhaid ichi ddringo, a’r man uchaf ar y llwybr. Yr uchder uchaf fyddai angen i chi ei ddringo yw tua 1 metr.
Llethrau: Dim
Lled y Llwybr: Mae'r llwybr yn ddigon llydan ar gyfer unrhyw offer symudedd.
Giât Mochyn: Weithiau bydd y giât ar agor yn llwyr, ond cynghorir defnyddwyr i gario allwedd Cynllun Allwedd Cenedlaethol (a elwir hefyd yn allwedd RADAR) er mwyn gallu cael mynediad pan fydd wedi'i chloi. Mae un giât rhwng promenâd Llanfairfechan a gwarchodfa natur Glan y Môr Elias. Nid yw wedi'i gloi ac mae'n hygyrch i sgwteri symudedd o faint canolig. Gellir agor a chau’r giât hon o’r naill gyfeiriad a’r llall a rhaid iddi aros ar gau oherwydd bod da byw yn pori’r warchodfa natur arfordirol.
Ar gyfer llywio: Maes Parcio Promenâd Llanfairfechan, Llanfairfechan LL33 0DA
Cludiant Cyhoeddus: Ceir arhosfan trên ar gais yng ngorsaf Llanfairfechan. Ewch i Traveline Cymru i gynllunio eich taith.
Parcio: Mannau parcio dynodedig i bobl anabl yn y maes parcio yng nghaffi Beach Pavillion (yn agor yn Facebook)
Toiledau: Toiledau hygyrch yng nghaffi Beach Pavillion. Ceir toiled cyhoeddus hefyd gyda chyfleusterau i'r anabl.
Amwynderau eraill: Mae lluniaeth ar gael ar y promenâd yng nghaffi Beach Pavillion, sy'n hygyrch.