Lleoliadau sy’n addas ar gyfer cymhorthion symudedd a phramiau

Teithiau cerdded arfordirol sy'n ddelfrydol ar gyfer pobl â phroblemau symudedd a chadeiriau gwthio

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Gall pawb fwynhau Llwybr Arfordir Cymru. Ar hyd ei 870 o filltiroedd, ceir digonedd o ddarnau sy'n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, teuluoedd â bygis ac ymwelwyr â symudedd cyfyngedig. Fe welwch hefyd ddigonedd o leoedd parcio, golygfannau hawdd eu cyrraedd a'r holl gyfleusterau sydd eu hangen ar gyfer diwrnod gwych yn yr awyr agored. 

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru nifer o safleoedd lle gallwch ddod yn agosach at natur gan ddefnyddio cadair wthio, cadair olwyn neu gymhorthion symudedd. Mae rhai o’r safleoedd ger llwybr yr arfordir, fel Castell a Gardd Penrhyn ger Bangor, Rhosili ar Benrhyn Gŵyr, ac Ystagbwll yn Sir Benfro. 

Arfordir Gogledd Cymru

O Gaer i Fangor, am lawer o'i hynt o amgylch ein glannau gogleddol, mae Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn palmentydd glan môr mewn trefi arfordirol fel Llandrillo-yn-Rhos a Llanfairfechan. Yn ogystal â rhoi cyfle i bawb fynd yn agos at y dŵr, mae'r promenadau lliwgar hyn yn llawn o'r holl bethau traddodiadol i'w gweld a'u gwneud ar lan y môr – mae'r rhannau o Ronant i'r Rhyl ac ar hyd promenâd y gogledd yn Llandudno yn uchafbwyntiau penodol.

Teithiau cerdded a gwybodaeth bellach

Golygfannau hygyrch

Ynys Môn 

Llwybr cylchol o Borthaethwy, mae dolen ddramatig arfordirol Ynys Môn yn cynnig golygfeydd godidog rif y gwlith, yn enwedig yn ôl tuag at y tir mawr a chopaon Eryri. Gall pawb fwynhau'r arfordir mewn mannau fel y promenâd ym Miwmares a Chanolfan Seawatch RNLI Moelfre, ac mae’r ynys hefyd yn darparu traethau hygyrch, mannau gwylio adar a theithiau cerdded ar lan y dŵr.

Teithiau cerdded a gwybodaeth bellach

Golygfannau hygyrch

Arfordir Llŷn ac Eryri 

O Fangor i Fachynlleth, mae Eryri’n enwog am ei mynyddoedd, ond mae hefyd yn gartref i ddarnau hygyrch trawiadol o Lwybr Arfordir Cymru. Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys taith dros yr hen bont reilffordd bren yn y Bermo lle mae Llwybr yr Arfordir yn ymuno â Llwybr Mawddach a Llwybr Pren Traeth Benar ger Harlech, sy'n cynnig mynediad hawdd i olygfeydd hyfryd o'r môr. Mae promenadau ysgubol hefyd yng Nghricieth, Pwllheli a Thywyn (dolenni'n agor yn Google Maps).

Teithiau cerdded a gwybodaeth bellach

Golygfannau hygyrch

Arfordir Ceredigion

O Machynlleth i Draeth Poppit, mae'r trefi a'r pentrefi sydd ar wasgar ar hyd arfordir Ceredigion yn cynnig digonedd o deithiau cerdded glan môr â mynediad hawdd, gyda llwybrau, lleoedd parcio a chyfleusterau i'w cael yng Nghei Newydd, Aberaeron ac Aberteifi – ynghyd â'r promenâd llydan ar lan y môr yn Aberystwyth. Mae yna hefyd ddarn o Lwybr yr Arfordir yn Aberporth sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn – lle gwych i wylio dolffiniaid – a llwybr hygyrch newydd i'r pentir yng Ngwbert.

Teithiau cerdded a gwybodaeth bellach

Golygfannau hygyrch

Sir Benfro 

O draeth Poppit i Amroth, gyda lleoedd parcio cyfleus, trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch a digon o lwybrau ag arwyneb da, mae'n hawdd profi arfordir garw enwog Sir Benfro. Dewiswch o blith anturiaethau hygyrch fel gwylio adar môr yn gwibio o amgylch y clogwyni ym Mhenrhyn Sant Gofan, crwydro glan y môr rhwng Coppet Hall a Stepaside ac archwilio cildraethau Pwllgwaelod a Chwm-yr-Eglwys.

Teithiau cerdded a gwybodaeth bellach

Golygfannau hygyrch

Sir Gaerfyrddin 

O Amroth i'r Bynie ac yn dilyn Parc Arfordirol y Mileniwm am lawer o'i hyd, mae darn Sir Gâr o Lwybr Arfordir Cymru yn cynnig digonedd o dir gwastad sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn a bygis – yn ogystal â lluniaeth, atyniadau a golygfeydd godidog o Fae Caerfyrddin. Gyda mynediad i filltiroedd o lwybrau beicio a thraeth tywodlyd Cefn Sidan, mae Parc Gwledig Pen-bre yn uchafbwynt arall.

Teithiau cerdded a gwybodaeth bellach

Golygfannau hygyrch

  • Digonedd o fannau ym Mharc Arfordirol y Mileniwm

Bae Abertawe a Gŵyr 

O'r Bynie i Forfa Margam, gyda phromenadau prysur a llu o draethau hawdd eu cyrraedd i ddewis ohonynt, mae digonedd o anturiaethau hygyrch ym Mae Abertawe a Gŵyr. Benthycwch gadair olwyn ar gyfer y traeth i yrru dros y tywod ym Mae Cas-wellt, mwynhewch y golygfeydd uwchben Rhosili neu ewch am hufen iâ ar lan y môr ysgubol Abertawe.

Teithiau cerdded a gwybodaeth bellach

Golygfannau hygyrch

Arfordir De Cymru ac Aber Afon Hafren 

O Morfa Margam i Gas-gwent, gydag arwynebau llyfn Bae Caerdydd a glannau môr ar draws Bro Morgannwg (gan gynnwys cartref Gavin and Stacey, Ynys y Barri), mae rhannau hygyrch hir ar y darn hwn o Lwybr Arfordir Cymru. Ar hyd y ffordd fe welwch bromenadau lliwgar yn llawn diddanwch glan môr traddodiadol a digonedd o gyfleusterau, lleoedd parcio a lleoedd i fwynhau’r golygfeydd arfordirol.

Teithiau cerdded a gwybodaeth bellach

Golygfannau hygyrch (pob dolen yn agor yn Google maps)